Yma, mae Gemma Hogan, Rheolwr Cyswllt Salesforce.org yn ystyried sut gall mudiadau gwirfoddol ddefnyddio data’n well.
Mae Salesforce.org yn cynnig datrysiadau data nid-er-elw bellach i helpu timau i ddatgloi potensial eu data a’i wneud yn fwy defnyddiol ac effeithiol.
Mewn byd digidol yn gyntaf, mae cwmnïau nid-er-elw ac elusennau yn sylweddoli mwy a mwy pa mor bwysig yw cynlluniau rheoli data. Eto i gyd, yn ôl ein canfyddiadau diweddar, noda llai na 25% o fudiadau bod ganddyn nhw gynllun, sy’n golygu na chaiff data ei ddefnyddio fawr ddim i wneud penderfyniadau nac i ragweld ymddygiad rhanddeiliaid yn y dyfodol.
Yn ein papur gwyn diweddar (Saesneg yn unig), rydyn ni’n rhannu mwy ar sut gallwn ni helpu cwmnïau nid-er-elw i lunio cynllun rheoli data a fydd yn eu galluogi i greu mwy o effaith a chael eu gyrru mwy gan ddata.
CYFLAWNI MWY O EFFAITH GYDA DATA
Mae cynllun rheoli data effeithiol yn ystyried eich cenhadaeth, staffio, amser, cyllideb, nodau, technoleg gyfredol a mwy.
Mae rhai o fuddion cynllun yn cynnwys:
- Gallu dadansoddi a dychmygu eich holl weithrediadau’n well er mwyn gwneud penderfyniadau sy’n cael eu llywio mwy gan ddata
- Gwneud ymgyrchoedd ymgysylltu yn fwy deniadol drwy ddechrau defnyddio data ar gyfer mewnwelediadau rhagfynegol
- Gwella arbedion effeithlonrwydd gweithredol er mwyn symleiddio eich llifau gwaith busnes
- Gwneud ymddiriedaeth yn ganolog i bopeth rydych chi’n ei wneud drwy sicrhau bod data rhanddeiliaid yn ddiogel a’i fod yn cydymffurfio.
DULL GWEITHREDU SYML TRI CHAM
Yn wahanol i’r gred gyffredin, nid yw llunio cynllun rheoli data yn gorfod bod yn gymhleth. Yn hytrach, ewch ati i ganolbwyntio ar aeddfedrwydd, rhestri cynnwys a llywodraethiant data.
Mae’r papur gwyn yn mynd i fwy o fanylder ynghylch sut i ymdrin â’r tri maes hyn, gan gynnwys graddfa aeddfedrwydd data er mwyn rhoi dealltwriaeth o sut mae ansawdd data, ymddygiadau defnyddio a diwylliant i gyd yn chwarae rôl. Rhennir hefyd dempled o restr cynnwys data enghreifftiol.
Fel y nodir drwyddi draw, mae adeiladu ar strategaeth a’i hailadrodd yn cymryd amser. Mae graddio blaenoriaethau er mwyn sicrhau eu bod yn gyraeddadwy yn bwysig, a llwyddiannau bach a chyson fydd y blociau adeiladu i ganlyniadau mawr dros amser.
O STRATEGAETH I SEILWAITH
Pan fyddwch chi wedi creu strategaeth ddata, y maes nesaf i edrych arno yw seilwaith data, sef yr adnoddau y bydd eich cwmni nid-er-elw yn eu defnyddio i wireddu eich nodau strategaeth ddata.
Mae’r meysydd seilwaith yr edrychir arnynt yn cynnwys:
- Sut i storio a chyfuno data
- Ffyrdd o ddefnyddio data a’i fywiogi ar ffurf dadansoddeg a
- Pha gamau integreiddio allai fod eu hangen
Mae enghreifftiau o roi seilwaith ar waith yn cynnwys hylendid data a diogelwch drwyddo i sut rydych chi’n integreiddio eich data â’r Cwmwl Nid-er-elw (Saesneg yn unig), er enghraifft. Bydd yr adnoddau y bydd eu hangen ar fudiad yn dibynnu ar aeddfedrwydd y data, maint y mudiad, capasiti TG, a nodau penodol eich cynllun strategaeth ddata.
Gall datrysiadau Gweithrediadau Nid-er-elw Salesforce eich helpu i gyflawni eich nod o fod yn gwmni nid-er-elw a yrrir gan ddata sydd â datrysiadau ar draws yr holl achosion o ddefnyddio data.
MWY AR HYN
Darllenwch y papur gwyn, Creu Strategaeth Rheoli Data ar gyfer Eich Cwmni Nid-er-elw (Saesneg yn unig).
Saleforce.org yw un o gyflenwyr dibynadwy CGGC.