Mae Mike Corcoran, Arbenigwr Gwerthuso gyda Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru, yn myfyrio ar y gyfres o ddigwyddiadau Ennyn Effaith hyd yn hyn, ac yn trafod ei Addunedau Gwerthuso Blwyddyn Newydd.
Mae 2020, ymhlith llawer o bethau eraill, wedi bod yn flwyddyn o herio’r cyflwr presennol – yn flwyddyn o gwestiynu ein cymhellion i wneud y pethau rydyn ni’n eu gwneud, ac yn y bôn, i newid y ffordd rydyn ni’n eu gwneud, ac o fyfyrio ar a yw’r pethau hynny rydyn ni wastad wedi’u gwneud yn y gorffennol yn parhau i fod yn addas i’r diben wrth i ni edrych i’r dyfodol.
Ac wrth gwrs, yr un yw’r sefyllfa i’r rheini ohonom â diddordeb mewn gwerthuso. Mae’r amgylchedd rydyn ni’n gweithio o’i fewn wedi dod yn fwy ansicr, yr angen am ddysgu wedi dod yn fwy dybryd a’r canlyniadau yn fwy difrifol os byddwn ni’n cael pethau’n anghywir. Gan ystyried y cyd-destun hwn, rydyn ni wedi treulio’r misoedd diwethaf yn dwyn pobl ynghyd drwy ein cyfres o ddigwyddiadau ‘Ennyn Effaith’, i rannu eu profiadau gwerthuso, i gefnogi ei gilydd gyda’u heriau ac i edrych ar yr hyn y mae’n ei olygu i gyflawni gwerthusiadau ystyrlon sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn y byd sydd ohoni heddiw.
Rydyn ni wedi cael y pleser o gael grŵp amrywiol, hynod ysbrydoledig o ymarferwyr yn ymuno â ni o bob rhan o’r DU a chyda chanrifoedd o brofiadau cyfunol. Drwy ein trafodaethau panel, ein trafodaethau a’n myfyrdodau, rydyn ni wedi dechrau dod â’r darnau ynghyd: hyd yn hyn, mae ein harchwiliadau wedi cynnwys y cwestiynau syml a ddylai danategu ein dulliau gwerthuso, sut i gerdded y ffin denau rhwng ansawdd y dystiolaeth sydd ei angen arnom ac ansawdd y profiad y dylen ni ei roi i’r rheini rydyn ni’n eu cefnogi, a sut i wneud yn siŵr bod ein gwerthusiadau yn gweithio i ni, yn ogystal ag i’r rheini sy’n ein cyllido a’n cefnogi.
Ar ddiwedd pob digwyddiad, mae pob un ohonom yn gwneud adduned, ymrwymiad i fynd â’r pethau hynny a drafodwyd gennym a’u defnyddio i wneud newid cadarnhaol yn ein gwaith ein hunain – mae bob amser yn ysbrydoledig.
Dwyn cyllidwyr ynghyd i gael sgwrs am y ffordd rydyn ni’n gofyn i’r mudiadau rydyn ni’n eu cyllido werthuso. |
Dod o hyd i iaith werthuso “gyfeillgar”. |
Pennu a yw’r canllawiau rydyn ni’n eu cynnig i’n ymgeiswyr ar werthuso yn ddigon eglur. |
Mabwysiadu dull cyllido mwy cydweithredol ac agored. |
Manteisio ar gyfleoedd i rannu enghreifftiau da o ennyn effaith drwy rwydwaith o ymarferwyr a darparwyr. |
Rhannu ein gwerthusiadau gyda’r tîm a gyflawnodd y prosiect fel y gall pob un ohonom ddysgu o’r profiad. |
Dysgu mwy am ffyrdd rhyngweithiol o werthuso. |
Gweld cyllidwyr yn cwrdd â’r bobl y maen nhw’n eu cyllido yn ystod oes y prosiect. |
Cyfuno sgyrsiau tebyg sy’n digwydd ar yr un pryd! |
(Rhaid o’r addunedau a wnaed yn ystod ein digwyddiad, ‘Gwerthuso, Cyllido a Chaffael’.)
Yn 2021, bydd ein sgyrsiau’n parhau. Ar 19 Ionawr, byddwn ni’n trafod ‘Gwerthuso a Chymhlethdod’, ac ar 9 Chwefror, byddwn ni’n siarad am y gydberthynas rhwng ein gwerthusiadau, ein myfyrdodau personol a diwylliant ein mudiadau. Mae ein digwyddiadau am ddim, yn groesawgar, a gwahoddwn bob un ohonoch i ddod, ymuno â’r sgwrs a gwneud eich addunedau gwerthuso eich hun.
Fy Adduned Werthuso Blwyddyn Newydd i? Parhau i chwilota – dod o hyd i ffyrdd i ni barhau i ddysgu o’n gilydd, i gefnogi ein gilydd ac i dyfu gyda’n gilydd. D’oes dim byd gwell.
Beth fydd eich un chi?
Mae Mike Corcoran yn gweithio gyda mudiadau o bob rhan o Gymru a’r byd fel cynghorydd ymgysylltu ac effaith. Mae’n aelod cyswllt hirdymor gyda Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru ac arweiniodd ddatblygiad offeryn gwerthuso’r Rhwydwaith, ‘Mesur yr hyn sy’n Bwysig’ a fframwaith gwerthuso CGGC, ‘Cwestiynau Syml’.