Mae Korina Tsioni, Swyddog Datblygu’r Marc Ansawdd gyda CGGC, yn rhoi trosolwg cyflym o brosiect ‘Elusen Ddibynadwy Cymru’, gan bwysleisio’r Ymchwil Elusen Ddibynadwy, Lansio’r Ymchwil a pham bod Sicrhau Ansawdd yn bwysig – cyn, yn ystod ac yn dilyn argyfwng.
RHYWFAINT O GYD-DESTUN
Mae Sicrhau Ansawdd yng Nghymru yn brosiect dilynol a gyllidir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac a ddarperir gan CGGC mewn partneriaeth ag NCVO. Ei nod yw hyrwyddo Elusen Ddibynadwy, marc ansawdd adnabyddus yn y sector gwirfoddol o eiddo NCVO (PQASSO gynt).
Mae Elusen Ddibynadwy yn broses hunanasesu syml sy’n cynorthwyo elusennau i sicrhau llywodraethiant o ansawdd uchel, profi eu cryfderau a gwella ar eu gwendidau. Mae’r cam cyntaf, Hanfodion Elusen Ddibynadwy, yn rhad ac am ddim ac yn fan cychwyn gwych i elusen o unrhyw faint.
Un o amcanion eraill y prosiect yw codi ymwybyddiaeth o sicrhau ansawdd yng Nghymru, ysgogi trafodaeth ynglŷn â’r pwnc ar draws y sector gwirfoddol, ac edrych yn fanylach ar yr hyn sy’n gweithio’n dda i’r sector, a sut gellid gwella pethau wrth symud ymlaen.
Cychwynnwyd y prosiect ym mis Awst 2019, gyda minnau’n gweithredu fel Swyddog Prosiect Cymru. Cychwynnwyd gyda gwaith ymchwil wrth ddesg i Safonau Ansawdd a Sicrhau Ansawdd yng Nghymru. Cynhaliwyd nifer o drafodaethau hynod ddiddorol gydag elusennau ar lawr gwlad, Cynghorau Gwirfoddol Sirol, aelodau o Fforwm Cyllidwyr Cymru ac awdurdodau lleol.
Wrth i 2020 nesáu, fe wyddoch beth sydd i ddod, wrth gwrs! Roeddem wedi cynllunio cyfres o ddigwyddiadau o fis Mawrth ymlaen gyda’r bwriad o gyrraedd cynulleidfa ehangach, fwy amrywiol. Cynlluniwyd y digwyddiadau er mwyn ennyn mewnwelediadau, profiadau a blaenoriaethau mewn perthynas â marciau a sicrhau ansawdd.
Yn anffodus, wrth i ddiddordeb yn y digwyddiadau gyrraedd uchafbwynt fe drawodd pandemig Covid-19 ac fe’n gorfodwyd i ohirio’r digwyddiadau tan fis Hydref (mwy am hynny isod).
Y BROSES YMCHWILIO
Roedd yr ail gam, a gynlluniwyd ochr yn ochr â’r digwyddiadau, yn ddarn o waith ymchwil manwl a gyflawnwyd gan ymgynghorydd annibynnol. Bwriad y gwaith ymchwil oedd ennyn dealltwriaeth ddyfnach o berthynas y sector â Sicrhau Ansawdd, a chrynhoi blaenoriaethau’r sector, y credoau a’r meddyliau sydd ynghlwm â Sicrhau Ansawdd, ac i ba raddau mae marciau ansawdd yn boblogaidd yng Nghymru.
Ein pleser ni oedd comisiynu 20 Degrees a gweithio gyda Dr Alun Hughes. Fe aethom ati i greu cwestiynau arolwg yn seiliedig ar drafodaethau cam cyntaf y prosiect rhwng CGGC a phartneriaid allanol. Cafodd yr arolygon eu hanfon allan yn ddwyieithog i elusennau, Cynghorau Gwirfoddol Sirol, awdurdodau lleol a chyllidwyr. Fe dderbyniom ymatebion gan 35 o elusennau, 10 o gyllidwyr ac 13 awdurdod lleol. Dilynodd y tîm ymchwilio hyn trwy gynnal cyfweliadau gyda deg elusen, pedwar cyllidwr a dau awdurdod lleol, gan edrych yn fanylach ar eu hymatebion i’n harolwg.
Aeth Dr Alun Hughes ati i gynhyrchu adroddiad i CGGC yn crynhoi’r data ansoddol a meintiol a ddaeth i’r amlwg o’r gwaith ymchwil. Erbyn dechrau haf 2020 roeddem wedi llunio dau adroddiad crynodol i’w defnyddio’n allanol, yn cynnwys prif bwyntiau canlyniadau’r gwaith ymchwil.
Ceir fersiwn ‘cyllidwyr’ a fersiwn ‘elusennau’ ac mae’r ddau ar gael yn ddwyieithog.
CANFYDDIADAU’R YMCHWIL
Gan ddychwelyd at ddull gweithio mwy arferol ym mis Medi 2020, fe benderfynom adfywio ein cyfres o ddigwyddiadau, gan ddechrau gyda’r Digwyddiad Lansio’r Canfyddiadau Ymchwil. Mynychodd Dr Alun Hughes ein digwyddiad ar 20 Hydref fel ein prif siaradwr, lle cyflwynodd ei ymchwil i gynulleidfa fawr. Siaradodd ynglŷn â’r dulliau a ddefnyddiodd ef a’i dîm ac ymateb yr holl sectorau fel y cyfeiriais ato uchod, yn ogystal â chrynodebau o ganfyddiadau’r ymchwil.
Y ddau brif bwynt a ddaeth i’r amlwg o’r gwaith ymchwil oedd:
- Bod cyllidwyr ac elusennau fel ei gilydd yn cytuno ar bwysigrwydd a’r buddion a ddaw i lywodraethiant elusen o ddilyn siwrnai Elusen Ddiynadwy. Mae elusennau’n elwa o weithio tuag at, yn ogystal â chynnal, achrediad (pan fydd ganddynt yr amser a’r arian angenrheidiol i dalu am y ffioedd).
- Mae cyllidwyr ac elusennau fel ei gilydd yn cytuno y gallai cyllidwyr gynnig cefnogaeth bellach i’r elusennau maent yn gweithio gyda hwy, trwy ddarparu’r arian ar gyfer yr amser a’r gost angenrheidiol i sicrhau bod y safonau ansawdd priodol yn eu lle. Mae cyllidwyr fel Sefydliad Lloyds Bank a CGGC wedi addo cefnogi cyllido ymgeiswyr tuag at gyflawni statws Elusen Ddibynadwy, sy’n gwella llywodraethiant mudiad ac yn gwella’i wydnwch. Mae cyllidwyr megis Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ynghyd ag aelodau eraill Fforwm Cyllidwyr Cymru, yn hapus i drafod â’u hymgeiswyr am gyllid ar sail un-i-un o ran cefnogi costau ac amser tuag at gyflawni marc neu safon ansawdd priodol, ac maent hefyd yn hapus i drafod â deiliaid grantiau cyfredol y posibilrwydd o ddefnyddio unrhyw arian sydd heb ei wario tuag at Sicrhau Ansawdd. Awgrymwn eich bod yn trafod hyn gyda’ch swyddog cyllid.
SICRHAU ANSAWDD MEWN ARGYFWNG
Cynhaliwyd yr ail ddigwyddiad ar 17 Tachwedd 2020, ac fe amlygodd bwysigrwydd Sicrhau Ansawdd mewn argyfwng yn ogystal. Rhoddodd cyflawnwyr ac aseswyr Elusen Ddibynadwy a Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr gyflwyniadau ar sut mae derbyn a chynnal safon ansawdd priodol wedi eu cynorthwyo i ymdopi â’r argyfwng ac wedi’u rhoi mewn sefyllfa gryfach er mwyn wynebu’r heriau digynsail a welwyd yn 2020.
Yn y Flwyddyn Newydd bwriadwn gynnal mwy o ddigwyddiadau er mwyn trafod Sicrhau Ansawdd o fewn y sector yng Nghymru. Byddem wrth ein bodd o’ch gweld yn un o’n digwyddiadau rhad ac am ddim – dilynwch CGGC ar y cyfryngau cymdeithasol i dderbyn diweddariadau, cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr am ddim, a pham na wnewch chi ymaelodi â CGGC er mwyn derbyn gostyngiad o 10% ar ffioedd Elusen Ddibynadwy? Am ragor o wybodaeth cysylltwch â ni.
E-bost: ktsioni@wcva.cymru
Trydar: @WCVACymru
Facebook: @WCVACymru
Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr trwy e-bostio news@wcva.cymru.
GWYBODAETH BELLACH
ELUSEN DDIBYNADWY: www.ncvo.org.uk/practical-support/quality-and-standards/trusted-charity
HANFODION ELUSEN DDIBYNADWY: tools.ncvo.org.uk/trustedcharityessentials