Mae tîm diogelu CGGC, Suzanne Mollison a Mair Rigby, yn rhannu eu myfyrdodau ynglŷn â’r hyn rydym ni wedi’i ddysgu am ddiogelu yn sgil COVID-19.
Bu gwasanaeth Diogelu CGGC yn hynod brysur gydol 2020. Bu’n flwyddyn llawn troeon annisgwyl. Ni allai unrhyw un fod wedi rhagweld yr heriau a’n hwynebodd, ond llwyddodd y sectorau gwirfoddol a chymunedol yng Nghymru i ymateb bob tro.
Mae’r coronafeirws wedi dominyddu’r newyddion ers mis Mawrth, gan arwain at gyfyngiadau symud, cau ysgolion, gweithio o gartref a’r bobl fwyaf agored i niwed yn gorfod gwarchod. Bu rhaid i fudiadau addasu eu gwasanaethau’n gyflym er mwyn gweithio o bell a sicrhau bod modd i staff gyflawni eu swyddi o gartref pan fo hynny’n bosibl. Ymddangosodd grwpiau cyd-gymorth ym mhob cymuned, bron, gan ymateb i angen mewn nifer o wahanol ffyrdd; darparu gwasanaethau dosbarthu bwyd a meddyginiaethau hanfodol, cynnal ymweliadau carreg drws i sicrhau fod pobl yn ddiogel, gwneud galwadau ffôn a fideo er mwyn lliniaru unigrwydd ac ynysigrwydd.
Ymatebodd tîm diogelu CGGC i dros 150 o ymholiadau, nifer ohonynt yn gymhleth. Aethom ati i gynhyrchu cyfres o adnoddau diogelu COVID-19 sydd ar gael ar wefan CGGC (sgroliwch lawr i Diogelu). Cynhaliom saith gweminar, yn ogystal â lansio Cymuned Ymarfer newydd ar gyfer arweinwyr diogelu’r sector gwirfoddol. Buom yn brysur hefyd yn paratoi adnoddau a modiwlau hyfforddi ar-lein ar gyfer Hwb Gwybodaeth newydd TSSW. Bu ymglymiad y sector yn ystod y cyfnod hwn yn anhygoel. Mae’n amlwg bod mudiadau gwirfoddol yng Nghymru yn cymryd gwirfoddoli o ddifri.
Felly, beth ydym ni wedi’i ddysgu am ddiogelu yn sgil COVID-19 a beth sydd angen i ni ganolbwyntio arno wrth symud i 2021? Dyma 5 o fyfyrdodau gan dîm diogelu CGGC:
MAE DIOGELU’N GYMHLETH AC YN EHANGACH NA FFOCWS CUL AR BLANT AC OEDOLION MEWN PERYGL
Mae COVID-19 wedi pwysleisio’r ffaith y gall unrhyw un fod mewn perygl o niwed, a hanfod diogelu yw cymryd camau i amddiffyn pawb sy’n dod i gysylltiad â’ch mudiad, gan gynnwys staff a gwirfoddolwyr. Mae diogelu wir yn fusnes i bawb!
Mae argyfwng COVID-19 wedi ein hatgoffa y gall y risg fod rhywun yn profi camdriniaeth neu esgeulustod gynyddu yn sgil ystod helaeth o ffactorau yn eu bywydau, megis iechyd meddwl, tlodi, cam-drin domestig, yn ogystal ag unigrwydd ac ynysigrwydd. Nid yw bob amser yn hawdd adnabod y sawl sydd mewn perygl. Mae’r argyfwng hwn hefyd wedi amlygu’r cysylltiadau rhwng anghydraddoldeb a diogelu, gan fod rhai grwpiau o bobl wedi profi effeithiau negyddol anghymesur – er enghraifft, pobl o gymunedau BAME, pobl LGBTQ a phobl anabl – a allai eu rhoi mewn mwy o berygl o niwed.
MAE ARFER DDA MEWN RHEOLI GWIRFODDOLWYR YN HANFODOL AR GYFER DIOGELU
Bu’r cynnydd yn y nifer o bobl a ddangosodd awydd i wirfoddoli er mwyn cefnogi’u cymunedau yn ystod y pandemig yn ysbrydoledig. Fodd bynnag, dangosodd hefyd fod yn rhaid i ddiogelu fod wrth wraidd rheoli gwirfoddolwyr. Mae rheoli gwirfoddolwyr gymaint yn anoddach yn sgil diffyg cyswllt uniongyrchol, llai o opsiynau arolygu neu oruchwylio gwirfoddolwyr yn uniongyrchol wrth eu gwaith, a llawer llai o gyfleoedd i gynefino a hyfforddi gwirfoddolwyr, nid yn unig o ran polisïau a sgiliau, ond hefyd yn niwylliant y mudiad.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, clywodd CGGC bryderon ynglŷn â chynnal ffiniau, gwirfoddolwyr anaddas, ac ymddygiad gwael ar y cyfyngau cymdeithasol, ymysg problemau eraill. Rhaid i fudiadau sicrhau bod ganddynt bolisïau gwirfoddoli addas, codau ymddygiad, cytundebau defnyddwyr a phrosesau goruchwylio cadarn yn eu lle. Rhaid i fuddiolwyr gael gwybod hefyd â phwy y dylent gysylltu os oes ganddynt unrhyw bryderon ynglŷn â rhywun sy’n gwirfoddoli i’w mudiad.
RHAID I IECHYD MEDDWL A LLES EIN STAFF FOD YN FLAENORIAETH
Mae blaenoriaethu iechyd meddwl a lles staff a gwirfoddolwyr yn rhan bwysig o ddiogelu, yn nhermau lleihau’r risg o niwed iddyn nhw ac i’r bobl sy’n gweithio gyda nhw. Mae pobl yn profi cynnydd mewn llwyth gwaith, mwy o straen a gallai fod mwy o berygl iddynt orweithio.
Gallai hyn gael effaith negyddol ar ansawdd y gwasanaeth a ddarperir ganddynt i bobl eraill sy’n ystyried eu hunain i fod mewn perygl. Gallai staff ei chael hi’n anodd ymdopi â’r diffyg ffiniau rhwng gwaith a chartref hefyd, yn enwedig os yw eu rôl yn eu gwneud nhw’n agored i sefyllfaoedd heriol a thrawmatig. Mae cefnogaeth ragweithiol yn hanfodol, felly, a gallai hyn gynnwys lefelau uwch o oruchwyliaeth, mynediad i raglenni cymorth i gyflogeion, gwiriadau llesiant rheolaidd, a gweithgareddau wedi’u cynllunio i gefnogi llesiant staff.
MAE’R CYNNYDD MEWN GWEITHIO O BELL A’R DEFNYDD O BLATFFORMAU DIGIDOL YN CREU YSTOD O HERIAU DIOGELU
Mae mudiadau wedi addasu’n gyflym ac mae llawer ohonynt wedi symud eu gwasanaethau ar-lein, ond mae diogelu trwy ddulliau o bell a digidol yn cyflwyno heriau a risgiau penodol. Ceir diffyg cyswllt uniongyrchol trwy sesiynau wyneb yn wyneb neu ymweliadau cartref a olygodd fod ymarferwyr wedi cael llawer llai o gyfle i arsylwi ar blant, teuluoedd neu oedolion mewn perygl ac y gallai hyn leihau eu gallu i fesur y lefel o risg. Er enghraifft, sut gwyddoch chi nad oes rhywun arall yn yr ystafell pan fyddwch chi’n siarad â rhywun dros y ffôn neu mewn galwad fideo? Sut gallwch chi sylwi ar yr arwyddion o gam-drin neu esgeulustod?
Fodd bynnag, mae galwadau ffôn a fideo’n parhau i alluogi cyfranogwyr i adeiladu perthynas o ymddiriedaeth ac i ofyn ynglŷn â bywydau eu cysylltiadau a chael cipolwg arnynt a, gydag arfer dda, gallant fod yn ffyrdd da o ddiogelu. Rydym wedi cynhyrchu templed ar gyfer adnabyddiaeth o faterion diogelu a gweithdrefnau ymateb er mwyn cynorthwyo staff i adnabod materion diogelu posibl.
Gallai ymyriadau eraill gynnwys eitemau sefydlog mewn cyfarfodydd tîm, cynyddu’r nifer o staff ar alwad ac mewn digwyddiadau ar-lein, a sicrhau bod cymedrolwyr dynodedig yn rhan o grwpiau ar y cyfryngau cymdeithasol. Eto, dylai’r holl fuddiolwyr wybod â phwy ddylent gysylltu os oes ganddynt unrhyw bryderon.
EDRYCH YMLAEN AT 2021…
Wrth i ni symud ymlaen i 2021, mae tîm diogelu CGGC yn cynllunio rhaglen o weminarau a fydd yn mynd i’r afael â’r materion hyn mewn mwy o fanylder. Byddwn yn parhau i ddiweddaru a datblygu canllawiau wrth i’r sefyllfa newid a bydd ein cymuned Ymarfer Diogelu yn darparu fforwm cefnogol i swyddogion ac arweinwyr diogelu’r sector gwirfoddol ddod ynghyd a rhannu dysgu.
Daw’r flwyddyn newydd â gobaith newydd ar ffurf y rhaglen frechu sydd eisoes ar waith yng Nghymru. Efallai ein bod wedi colli anwyliaid, wedi colli allan ar ddigwyddiadau carreg filltir ac wedi’i chael hi’n anodd cyrraedd y pwynt hwn mewn amser, ond gyda’n gilydd rydym wedi arddangos gwydnwch a hyblygrwydd aruthrol y sector gwirfoddol.
O dan bwysau a thrafferthion amhosibl eu dychmygu, rywffordd mae’r ysbryd i barhau i roi; ein hamser, ein sgiliau, ein gofal, wedi darparu cefnogaeth a chyflenwadau hanfodol i filoedd. Mae CGGC yn eich cydnabod chi ac edrychwn ymlaen at weithio gyda chi wrth i ni weithio tuag at ddyfodol iachach, mwy diogel.
DYMA’R TRI PHRIF BETH Y GALLWCH EU GWNEUD RŴAN HYN
- Adolygu’ch polisi diogelu a sicrhau ei fod yn addas i’r modd rydych chi’n gweithredu ar hyn o bryd; diweddaru manylion cyswllt, yr ymddygiad sy’n ddisgwyliedig o bobl ar-lein, eich dull o oruchwylio staff a gwirfoddolwyr, ayyb.
- Rhannu negeseuon cywir ynglŷn â’r brechlynnau Covid-19 gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a chefnogi’ch holl bobl i dderbyn brechlyn pan ddaw eu tro.
- Cynnal arolwg o’r hyn rydych chi’n ei wneud ar hyn o bryd sy’n gweithio i’ch mudiad a’ch buddiolwyr, efallai y byddwch yn awyddus i wneud hyn yn rhan o’ch ‘cynnig arferol’ wrth i bethau ddychwelyd i ‘normal’ newydd.