Beth wyddom ni am ddyfodol ariannu Ewropeaidd yng Nghymru?

Beth wyddom ni am ddyfodol ariannu Ewropeaidd yng Nghymru?

Cyhoeddwyd: 08/04/21 | Categorïau:
Warning: Invalid argument supplied for foreach() in /home2/wcva/ET0KZV18/htdocs/wcva2021/wp-content/themes/designdough/single-view.php on line 62
Awdur: Janine Downing

Mae gan raglen gyfredol y Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd brojectau fydd yn rhedeg mewn i 2023. Nawr ein bod wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, fe wyddom na fyddwn yn derbyn unrhyw gyllid pellach yn uniongyrchol o Ewrop.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, fe welsom ychydig o wybodaeth a gafodd ei ryddhau ynglŷn â pha gyllid fydd ar gael yn ei le.

Rydym yn disgwyl i’r darlun barhau i esblygu ac fe fyddwn yn rhoi diweddariadau i chi cyn gynted ag y byddwn yn eu cael nhw. I sicrhau y byddwch yn cael yr wybodaeth fwyaf diweddar, byddwch cystal â chysylltu â ni a thanysgrifio i’r rhestr bostio 3-SET.

Cronfa Adnewyddu Cymunedau’r DU

Bydd hyn yn cynorthwyo cymunedau ar hyd a lled y DU i beilota rhaglenni a dulliau newydd yn 2021-22 wrth i’r llywodraeth symud i ffwrdd o fodel Cronfeydd Strwythurol yr UE a thuag at Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Bydd y cyllid yn cael ei ddyrannu ar sail gystadleuol gyda 100 o feysydd a nodwyd ar draws y DU yn cael eu nodi fel meysydd blaenoriaeth. Mae 14 awdurdod lleol yng Nghymru wedi’u nodi fel meysydd blaenoriaeth (Blaenau Gwent, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd, Ynys Môn, Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Powys, Abertawe, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen).

Bydd y gronfa’n cael ei gweinyddu gan awdurdodau lleol a fydd yn cydlynu ceisiadau ar draws mudiadau o fewn eu hardaloedd. Gall hyn gynnwys mudiadau’r sector gwirfoddol. Bydd pob awdurdod lleol yn gallu cyflwyno portffolio o brosiectau hyd at gyfanswm o £3 miliwn. Disgwylir y caiff cyhoeddiadau ynglŷn â phrojectau eu gwneud ddiwedd Mis Gorffennaf a rhaid i bob gweithgarwch project gael ei gwblhau erbyn Mis Mawrth 2022.

Er mwyn meithrin ffordd o feddwl arloesol a chynnig hyblygrwydd, gall prosiectau alinio ag un o’r blaenoriaethau buddsoddi canlynol, neu gyflenwi ar draws nifer ohonynt:

  • Buddsoddiad mewn sgiliau
  • Buddsoddiad ar gyfer busnes lleol
  • Buddsoddiad mewn cymunedau a lle
  • Cefnogi pobl i mewn i gyflogaeth

Ni fydd unrhyw gyllid yn cael ei glustnodi ar draws y themâu hyn.

Mae 90% o’r cyllid sydd ar gael drwy Gronfa Adnewyddu Cymunedau’r DU yn gyllid refeniw.

Ar adeg ysgrifennu hwn mae’r awdurdodau lleol canlynol yn barod i dderbyn cais. Byddwn yn amlygu’r rhai eraill wrth iddyn nhw ddod ar gael.

Sir Benfro – llinell derfyn 7am – Mai 4, 2021

Sir Gaerfyrddin – llinell derfyn Canol Dydd – Mai 5, 2021

Conwy – llinell derfyn 5pm – Mai 14, 2021

Bydd eich awdurdod lleol yn gallu cynnig gwybodaeth bellach i chi.

Cronfa Ffyniant Gyffredin

Ar hyn o bryd does dim rhagor o wybodaeth wedi cael ei rannu ynglŷn â’r Gronfa Ffyniant Gyffredin na’r ardal ddaearyddol a wasanaethir ganddi. Disgwylir i’r gronfa hon gymryd lle Cronfa Gymdeithasol Ewrop a bod y gyfrifol am feysydd tebyg o weithgarwch i’r Gronfa Adnewyddu Cymunedau. Disgwylir manylion pellach yn yr hydref.

Cronfa Lefelu

Bydd y Gronfa Lefelu yn buddsoddi mewn seilwaith sy’n gwella bywyd bob dydd ledled y DU, gan gynnwys adfywio’r stryd fawr a chanol trefi, prosiectau trafnidiaeth leol ac asedau diwylliannol a threftadaeth. Cafodd ardaloedd ar draws y DU eu dethol, er mwyn blaenoriaethu cyllido.

Bydd y gronfa’n cael ei chyflwyno drwy awdurdodau lleol yng Nghymru. Bydd gan Aelodau Seneddol rôl wrth ‘gefnogi un cynnig sy’n flaenoriaeth yn eu tyb nhw’. Gellir gweld mwy o fanylion ar hyn yn adran 3.2 a 3.7 y prosbectws (gweler y ddolen gyswllt uchod).

Bydd y gronfa’n canolbwyntio ar fuddsoddiad sydd angen hyd at £20 miliwn o gyllid. Bydd cynigion mwy o faint yn cael eu derbyn ar gyfer trafnidiaeth (£20-50 miliwn).

Er mwyn gwneud cais am fuddsoddiad, rhaid i Awdurdodau Lleol gyflwyno’u ceisiadau i’r Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol erbyn hanner dydd, Dydd Gwener, Mehefin 18, 2021. Disgwylir y bydd Llywodraeth y DU yn gwneud penderfyniadau buddsoddi ar gyfer y cylch cyllido hwn erbyn hydref 2021.

Bydd rhagor o fanylion ynglŷn â sut bydd y gronfa’n gweithredu o 2022-23 yn cael eu hamlinellu yn ddiweddarach y flwyddyn hon.

 

Cronfa Berchnogaeth Gymunedol

Bydd llywodraeth y DU yn creu Cronfa Berchnogaeth Gymunedol newydd o £150 miliwn i helpu i sicrhau y gall cymunedau ledled y DU barhau i elwa o’r cyfleusterau ac amwynderau lleol sydd fwyaf pwysig iddyn nhw. O dymor yr haf, bydd grwpiau cymunedol yn gallu gwneud cais am hyd at £250,000 o arian cyfatebol i’w helpu i brynu asedau lleol er mwyn eu rhedeg fel busnesau sy’n eiddo i’r gymuned.

Mewn achosion eithriadol, bydd hyd at £1 miliwn o arian cyfatebol ar gael i helpu i sefydlu clybiau chwaraeon sy’n eiddo i’r gymuned neu i brynu caeau chwaraeon sydd mewn perygl o gael eu colli gan y gymuned. Bydd hyn yn helpu i sicrhau y gall rhannau pwysig o’r gwead cymdeithasol – fel tafarndai, clybiau chwaraeon, theatrau ac adeiladau’r swyddfa bost – barhau i chwarae rhan ganolog mewn trefni a phentrefi ledled y DU.

Bydd cylch cais cyntaf y Gronfa Berchnogaeth Gymunedol ar agor erbyn Mehefin 2012. Caiff prosbectws ceisiadau llawn ei gyhoeddi yn gyfochrog â hyn.

 

Cynllun Turing

Cynllun Llywodraeth y DU yw Cynllun Turing i gymryd lle project Erasmus+. Mae’r cynllun yn cynnig cyfleoedd ariannu i sefydliadau yn y sectorau addysg uwch, ysgolion, addysg bellach, addysg alwedigaethol a hyfforddiant.

Anogir sefydliadau i danysgrifio i wefan y cynllun er mwyn cael mwy o wybodaeth ac fe gânt eu hysbysu pan fydd y cyfleoedd ariannu yn mynd yn fyw.
 

Cyfnewidfa Dysgu Ryngwladol Llywodraeth Cymru

Bydd y cynllun yn galluogi dysgwyr a staff o Gymru a’r rhai sy’n dod i astudio neu weithio yma, i barhau i elwa o gyfnewidfeydd rhyngwladol mewn ffordd debyg i’r cyfleoedd a gafwyd o dan Erasmus+, nid yn unig yn Ewrop ond ymhellach i ffwrdd hefyd.

Bydd y cynllun newydd – a fydd yn weithredol o 2022 i 2026 – yn cael ei gefnogi gan fuddsoddiad o £65m gan Lywodraeth Cymru. Mae disgwyl i Brifysgol Caerdydd arwain ar ddatblygiad y cynllun hwn a disgwylir manylion pellach yn hwyrach eleni.

Horizon Ewrop

Un ffynhonnell o arian mae’r DU yn parhau i fod yn gymwys i wneud cais amdano yw Horizon Ewrop. Rhaglen ariannu allweddol yr UE ar gyfer ymchwil ac arloesedd yw Horizon Europe ac mae ganddo gyllideb o €95.5 biliwn. Mae’n mynd i’r afael â newid hinsawdd, yn helpu i gyflawni Nodau Datblygiad Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig ac yn hybu ysfa gystadleuol a thwf yr UE.

 

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth ynglŷn â sut mae gwneud cais yma.