two women at a computer deep in concentration

Beth sy’n newydd ym Mhorth Data’r Trydydd Sector?

Cyhoeddwyd: 19/03/19 | Categorïau: Heb gategori, Awdur: David Cook

Os nad ydych yn gyfarwydd ag ef, mae Porth Data’r Trydydd Sector – a lansiwyd yn 2018 – yn cynnig yr ystadegau a’r data diweddaraf am incwm, cyllid, gweithgareddau a gweithlu’r trydydd sector, yn ogystal â gwybodaeth ynglŷn â demograffeg gwirfoddoli.

Mae’n defnyddio ein gwybodaeth ni, yn ogystal â gwybodaeth o Lywodraeth Cymru, NCVO ac eraill, i ddarparu gwasanaeth hwylus a hawdd ei ddefnyddio sy’n eich galluogi i gloddio i mewn i’r data a dod o hyd i’r hyn sy’n bwysig i chi.

A nawr rydym yn falch o gyhoeddi diweddariad o bwys.

Mae modd i ni gyflwyno gwybodaeth ystadegol o’r Comisiwn Elusennau, gan ddefnyddio data nad ydym erioed wedi’i gael o’r blaen, sy’n cynnig llawer iawn mwy o ddata ynglŷn â siâp y trydydd sector yng Nghymru. Er enghraifft, gallwch wneud y canlynol:

·         Canfod nifer yr elusennau cofrestredig yng Nghymru

·         Gweld ar fap yr ardaloedd yng Nghymru y mae’r elusennau hyn yn gweithredu ynddynt

·         Olrhain y mathau o elusennau ym mhob ardal yng Nghymru yn ôl nifer (e.e. mae 118 o elusennau anabledd ym Mhowys tra mae 38 ym Merthyr Tudful; mae 151 o elusennau trechu tlodi yng Nghaerdydd a 28 ym Mlaenau Gwent)

·         Gweld faint o elusennau cofrestredig sydd ar waith yng Nghymru a Lloegr

Rydym hefyd wedi diweddaru rhannau o’r data ariannol, felly gallwch nawr weld incwm elusennau fesul pen yn y boblogaeth ym mhob rhanbarth yng Nghymru a Lloegr, yn ogystal â nifer y mudiadau fesul 1000 o bobl ym mhob rhanbarth.

Datblygwyd y Porth ar y cyd â Data Cymru, a fydd yn gofod3 ddydd Iau yma (21 Mawrth) yn arddangos y Porth. Felly ewch draw at eu stondin i gael blas o’r hyn y gall y Porth ei wneud i chi.

Rydym yn falch iawn o’r Porth Data – credwn ei fod yn adnodd defnyddiol a hyblyg iawn i gyllidwyr, penderfynwyr, y cyhoedd ac, wrth gwrs, y trydydd sector ei hun. Felly beth am fwrw golwg drosto?