Mae Fiona Liddell yn disgrifio sut yr ydym yn adeiladu ar ewyllys da’r cyhoedd a gwirfoddolwyr er mwyn mynd i’r afael â heriau Covid 19.
Sut mae gwirfoddolwyr yn helpu?
Gall cyfnod o argyfwng ysgogi’r mynegiadau mwyaf anhygoel o gefnogaeth wrth i wirfoddolwyr ymroi i gwrdd ag anghenion lleol mewn ffyrdd ymarferol. Gwelwyd hyn adeg y llifogydd diweddar. Ac ry’n ni’n ei weld eto wrth i bobl ymateb i’r coronafeirws.
Mae grwpiau cefnogi anffurfiol, wedi’u harwain gan wirfoddolwyr, yn datblygu’n gyflym. Maent yn galluogi ymateb yn y gymuned leol gan gynnwys darparu gwybodaeth, mynd ar negeseuon a darparu cefnogaeth emosiynol i’r rheiny sy’n hunanynysu ac yn agored i niwed. Mae gwefan Covid 19 Mutual Aid yn cynnwys cyfoeth o adnoddau ar sut i drefnu’r cyfan, gan gynnwys gwybodaeth ymarferol er mwyn sicrhau bod gwirfoddolwyr yn gweithredu’n ddiogel, gan leihau’r perygl o niwed iddyn nhw’u hunain ac i bobl agored i niwed, rhag haint neu gamdriniaeth. Mae CGGC hefyd wedi cyhoeddi canllaw ar alluogi ymarfer diogel ac effeithiol wrth drefnu ymateb cymunedol i’r coronafeirws .
Mae mudiadau gwirfoddol yn adleoli gwirfoddolwyr ac adnoddau presennol, lle bo’n bosibl, i gwrdd ag anghenion newydd a chynyddol. Mae nifer o wirfoddolwyr yn gorfod oedi’u gwirfoddoli o ganlyniad i’w anghenion iechyd nhw’u hunain neu anghenion aelodau o’u cartrefi. Mae’n bosibl y bydd angen mwy o wirfoddolwyr er mwyn diwallu’r diffyg hwn yn ogystal ag ehangu ar gapasiti a chyrhaeddiad gwasanaethau hanfodol gan fudiadau. Hysbysebir cyfleoedd presennol i wirfoddoli ar www.volunteering-wales.net. Mae gwirfoddolwyr cymunedol sy’n galluogi pobl i aros gartref yn ddiogel yn helpu i leihau’r pwysau ar y GIG a gofal cymdeithasol.
Mae’r GIG a darparwyr gofal cymdeithasol hefyd yn rhannu cyfleoedd i wirfoddoli ar www.volunteering-wales.net. Mae nifer o Fyrddau Iechyd yn y broses o adolygu sut ac ym mhle y gall gwirfoddolwyr helpu orau (ar y cyd â staff wedi’u hadleoli a rhai newydd a myfyrwyr pynciau meddygol sydd o dan hyfforddiant). Mae diogelwch gwirfoddolwyr a chleifion o’r pwys mwyaf, a thra bod ymdrechion yn cael eu gwneud i geisio cyflymu prosesau recriwtio a hyfforddi, mae’r rhain yn parhau i gymryd amser i’w cyflawni. Mae’n bosibl y bydd gofyn i wirfoddolwyr, unwaith y byddant wedi’u recriwtio, aros hyd nes daw cyfleoedd addas iddynt gyfrannu’u gwasanaeth.
Datblygiadau er mwyn cwrdd â’r cynnydd mewn galw
Gweithredu cenedlaethol a chydlynu lleol
Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar wirfoddoli yn ystod y pandemig coronafeirws yn ateb nifer o’r cwestiynau sy’n cael eu holi gan bobl sydd wedi bod yn gwirfoddoli neu sy’n dymuno gwneud yn ystod y cyfnod hwn.
Mae cronfa o £24 miliwn wedi’i chyhoeddi gan Lywodraeth Cymru er mwyn cefnogi sector gwirfoddol Cymru mewn ymateb i’r pandemig coronafeirws. Mae’n cynnwys cefnogaeth ychwanegol i gynghorau gwirfoddol sirol lleol (canolfannau gwirfoddoli) er mwyn eu galluogi i gydlynu’r cynnydd mewn ymateb gan bobl sy’n awyddus i wirfoddoli.
Mae canolfannau gwirfoddoli a CGGC yn profi’r nifer fwyaf erioed o ymholiadau ynghylch gwirfoddoli. Ym mis Mawrth, er enghraifft, cofrestrodd 11,387 o wirfoddolwyr newydd ar wefan Gwirfoddoli Cymru/ Volunteering Wales. Mae’r sefyllfa’n newid yn gyflym. Gofynnwn am eich cymorth a’ch amynedd, felly, wrth reoli disgwyliadau tra’n bod yn datblygu ffyrdd newydd ac effeithiol o sianelu brwdfrydedd ac ewyllys da gwirfoddolwyr i’r mannau lle mae’r angen amdanynt, mor gyflym ag y gallwn wneud hynny’n ddiogel.
Ap gwirfoddolwyr Covid 19
Mae cyfleoedd gwirfoddoli yn ymwneud â Covid 19 yn cael eu hychwanegu at wefan www.Volunteering-Wales.net yn ddyddiol. Mae categori newydd ar gyfer cyfleoedd Covid 19 wedi’i gyflwyno, er mwyn galluogi gwirfoddolwyr posibl i adnabod heb drafferth sut a ble y gallan nhw fod o gymorth. Mae’r holl gyfleoedd hyn yn cynorthwyo’r GIG ac yn helpu i achub bywydau.
Datblygiad pellach yw’r ap gwirfoddolwyr Covid 19 sydd wedi’i gysylltu â phlatfform volunteering-wales.net. Bydd hyn yn galluogi gweinyddwyr a darparwyr cyfleoedd i greu tasgau penodol yn ymwneud â’r sefyllfa Covid 19 ac yn galluogi gwirfoddolwyr sydd wedi cofrestru i chwilio amdanynt.
Gallai darparwr cyfleoedd greu a rhoi cyhoeddusrwydd i dasgau penodol yn ymwneud â dosbarthu bwyd neu ddarparu cefnogaeth dros y ffôn, er enghraifft. Gall gwirfoddolwr ddod o hyd i gyfleoedd fel hyn trwy chwilio, a chynnig ymrwymo i un neu fwy ohonynt. Mae’r darparwr yn ‘cymeradwyo’ ac mae’r gwirfoddolwr yn ymgymryd â’r dasg, gan gadarnhau pan fo wedi’i chwblhau.
Bydd datblygiadau pellach i’r ap dros yr wythnosau nesaf yn caniatáu rheoli tasgau parhaus yn ogystal â thasgau untro, megis casglu presgripsiynau yn rheolaidd a rheolaeth tasgau grŵp. Bydd yn caniatáu argraffu bathodynnau adnabod gwirfoddolwyr ac yn dod yn gwbl ddwyieithog.
Rhoddwyd gweminarau i weinyddwyr a darparwyr ar y defnydd o’r ap gan y gwneuthurwyr, Team Kinetic, ddechrau mis Ebrill a bydd recordiadau o’r rhain ar gael.
Cefnogaeth i’r gymuned fusnes
 staff medrus ar seibiant o’u cyflogaeth arferol, mae cyfleoedd ar gael i bartneriaid gwirfoddol a statudol fel ei gilydd (y GIG a darparwyr gofal iechyd) ddatblygu cyfleoedd yn ymwneud â Covid 19 wedi’u targedu at wirfoddolwyr sydd â sgiliau neu brofiad penodol. Gellir defnyddio gwefan Volunteering-Wales.net at y pwrpas hwn. Byddem yn awyddus i glywed am esiamplau lle cafodd gwirfoddolwyr gyfleoedd i wirfoddoli yn y modd hwn.
Mae Business in the Community wedi lansio Rhwydwaith Ymateb Busnes Genedlaethol er mwyn adnabod anghenion cymunedau ar draws y DU a’u cyfateb i gymorth busnes, gan gynnwys bwyd, technoleg, cyngor ar ‘barhad busnes’, adnoddau a logisteg.
Yn yr un modd, mae Volunteering Matters yn galw ar fusnesau i gefnogi elusennau lleol trwy wirfoddoli’u sgiliau, eu gwasanaethau neu eu cymorth logisteg yn ystod y cyfnod tyngedfennol hwn ac ymgymryd â broceriaeth ceisiadau a chynigion.
Mae Helpforce Assist yn cysylltu cynigion o amser ac adnoddau gan fusnesau yn benodol ag ysbytai a thimau gofal cymdeithasol.
Gwaddol i’r dyfodol
Mae’r cyfnod heriol hwn yn ein hysgogi i feddwl ‘y tu allan i’r bocs’, i ddefnyddio’r ewyllys da ac adnoddau dynol aruthrol sydd ar gael i ni er mwyn gweithio tuag at nodau cyffredin ar draws ffiniau sector neu statws.
Bydd y berthynas newydd hon, y profiad o gydlynu gwaith gwirfoddolwyr yn effeithiol ac yn ddiogel yn ogystal ag ymroddiad hen a newydd i wirfoddoli yn sicrhau gwaddol cadarnhaol i’r dyfodol.
Cadwch mewn cysylltiad
Gallwch dderbyn diweddariadau trwy ddilyn @CGGCCymru ar Trydar neu trwy gofrestru ar gyfer diweddariadau dyddiol CGGC ar y newyddion diweddaraf am Covid 19 i’r sector gwirfoddol yng Nghymru.
Fiona Liddell yw Rheolwr Helplu Cymru gyda CGGC
Mae Helplu yn gweithio gyda Cefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC ac 19 Cyngor Gwirfoddol Sirol), Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu potensial gwirfoddoli er mwyn cefnogi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Fiona Liddell fliddell@wcva.cymru 029 2043 1730