Mae’r Athro Carolyn Wallace, Cyfarwyddwr Ysgol Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru, yn myfyrio ar lansiad diweddar Fframwaith Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol.
BETH MAE’N EI OLYGU?
Mae presgripsiynu cymdeithasol yn ddull seiliedig ar gydberthnasau sy’n cysylltu pobl â chymorth cymunedol. Mae’n cynnwys tair rhan, atgyfeirio i bresgripsiynydd (er enghraifft, meddyg teulu neu Gysylltydd Cymunedol), disgrifio beth yn union mae presgripsiynu cymdeithasol yn ei wneud, a’r asedau cymunedol (gan gynnwys canolfannau cymunedol, mudiadau gwirfoddol a’r bobl eu hunain). Mae presgripsiynu cymdeithasol ei hun yn cynnwys sgwrs, cynlluniau gweithredu, cyfeirio/atgyfeirio ymlaen a monitro ac adrodd canlyniadau. Mae’n gofyn i fudiadau lluosog weithio gyda’i gilydd i sicrhau llwybr presgripsiynu cymdeithasol cydlynol.
Cyflwynwyd y prif negeseuon gan Lynn Neagle MS, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant a Nicola Evans, Pennaeth Anghydraddoldebau Iechyd a Chymunedau Iach Llywodraeth Cymru. Y negeseuon oedd bod presgripsiynu cymdeithasol yn gallu gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl a gwasanaethau, bod pob un ohonom ni wedi cydweithio’n agos i ddatblygu fframwaith ar sail tystiolaeth a fydd yn ein helpu i ddarparu presgripsiynu cymdeithasol o safon uchel, a bod presgripsiynu cymdeithasol yn ymgyrch go iawn sy’n cynyddu o un flwyddyn i’r llall, nid dim ond yma, ond ar hyd a lled y byd.
DIGWYDDIAD PRESGRIPSIYNU CYMDEITHASOL
Ar 7 Rhagfyr 2023, gwnaeth 433 o bobl a oedd â diddordeb mewn presgripsiynu cymdeithasol ymuno â digwyddiad i glywed am lansiad Fframwaith Cenedlaethol newydd Llywodraeth Cymru ar Bregripsiynu Cymdeithasol. Daethant nid yn unig o Gymru, ond o leoedd mor bell â Singapore, Awstralia a Chanada i wrando, rhannu eu profiadau ac i fyfyrio ar yr hyn rydyn ni wedi bod yn ei wneud yma dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf er mwyn deall beth yn gwmws mae presgripsiynu cymdeithasol yn ei olygu i Gymru – a sut rydyn ni’n mynd i’w dyfu a’i ymarfer yn y dyfodol.
Rhannwyd y digwyddiad yn dair thema: datblygu presgripsiynu cymdeithasol, rhoi polisi ar waith a phrofiadau o bresgripsiynu cymdeithasol. Cafodd ei gadeirio’n llwyddiannus ac yn frwdfrydig gan Clair Swales, Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO).
AMCANION CRAIDD
Mae gan y Fframwaith ei hun bum amcan craidd, gyda phecyn cymorth datblygol, yn cynnwys Rhestr Termau, fframwaith cymhwysedd ac astudiaethau achos. Bydd y Rhestr Termau (a gyflwynwyd gennyf i a Dr Amrita Jesurasa) yn ein helpu ni i ddatblygu cyd-ddealltwriaeth o’r iaith a ddefnyddir ar draws sectorau, ac yn gwella’r cyfathrebu. Mae’r gwaith ar y Rhestr Termau wedi’i arwain gan Dr Simon Newstead. Mae’n ddogfen a gwefan rhyngweithiol, gyda 36 o dermau awgrymedig a mwy na 400 o dermau craidd a thermau nad ydynt yn rhai craidd.
I gefnogi’r gweithlu a’i ddatblygiad, cyflwynodd Krysia Groves o Addysg a Gwella Iechyd Cymru fframwaith cymhwysedd newydd a rhoi mewnwelediad i raglen arfaethedig o gyrsiau hyfforddi ac adnoddau. Gwnaethom hefyd glywed astudiaethau achos gan Dr Jesurasa a phrofiadau bywyd gan Opera Cenedlaethol Cymru a’r Ymddiriedolaeth Natur.
Bydd angen gwneud mwy o waith yn ystod y flwyddyn nesaf, gan gynnwys rhaglen gyfathrebu, canllawiau ar y safonau cenedlaethol, archwiliad i’r defnydd o dechnoleg, set ddata graidd a manylebau cenedlaethol.
AM FWY O WYBODAETH
Am ragor o wybodaeth am hyn a materion eraill sy’n ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol, cysylltwch ag iechydagofal@wcva.cymru.