Mae Ben Lloyd, Pennaeth Polisi CGGC, yn amlygu’r prif bwyntiau o Adolygiad Gwariant diweddar Llywodraeth y DU.
Mae hwn yn adolygiad diddorol o wariant gan Lywodraeth y DU. Ar adeg pan mae llywodraethau ar draws y byd yn wynebu’r heriau a ddaeth yn sgil pandemig y coronafeirws, nid yw’n syndod y bydd gwariant cyhoeddus yn parhau ar lefelau uwch. Yn anffodus, er na fydd y ffigwr a nodwyd gan y Canghellor mewn perthynas ag effaith y pandemig ar dwf economaidd, ac ar niferoedd swyddi, yn syndod, bydd yn parhau’n syfrdanol o uchel.
O ganlyniad i hyn, bydd cynnydd ym mhwerau gwario Llywodraeth Cymru’r flwyddyn nesaf, o’i gymharu â’r hyn oedd yn cael ei ragweld cyn y pandemig. Rwy’n gobeithio y bydd y cyllid ychwanegol o gymorth i gael cefnogaeth yn ystod pandemig COVID-19, ac i ailadeiladu ein heconomi yn dilyn hyn. Bydd llawer o’r gwariant ychwanegol hwn yn debygol o gael ei ddynodi i raglenni penodol er mwyn cefnogi’r argyfwng hwn.
Fodd bynnag, cyhoeddodd y Canghellor nifer o gynlluniau eraill yn ogystal a fydd o ddiddordeb i’r sector gwirfoddol yng Nghymru.
Yn gyntaf, cafwyd peth manylion, ond dim llawer, ynghylch y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Amlinellwyd yr amcanion allweddol yn y ddogfen a ddilynodd: buddsoddiad mewn pobl a sgiliau, mewn cymunedau a phobl, ac mewn busnesau lleol. Fodd bynnag, mae’r diffyg manylion arwyddocaol yn peri rhwystredigaeth i’r sector gwirfoddol. Bydd rhaglenni peilot â chyfanswm o £220 miliwn yn cael eu lansio’r flwyddyn nesaf. Yr hyn sy’n peri mwy o bryder yw’r ffaith ei bod yn ymddangos mai cronfa o’r brig i lawr fydd hon, gydag ychydig iawn o fewnbwn o Gymru – golyga hyn y gellid colli cyfle i’w gwneud yn gydnaws â rhaglenni Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod y ddau’n cael yr effaith fwyaf posibl. Yn olaf, ni wyddom chwaith beth fydd y dyraniadau dangosol i Gymru – ac a yw hyn wedi’i ostwng o’r lefelau presennol. Os oes dyblygiad gwaith rhwng y gronfa hon a chyfrifoldebau statudol Llywodraeth Cymru, caiff hyn ei atgyfnerthu.
Bwriadwn bostio dadansoddiad manylach yr wythnos nesaf. Gyda’r cronfeydd hyn wrth wraidd ystod eang o weithgareddau economaidd a chymdeithasol yng Nghymru ar hyn o bryd (gan gynnwys Cronfa Cynhwysiant Gweithredol CGGC), mae nifer o fudiadau’r sector gwirfoddol a grwpiau cymunedol yn awyddus i gael mwy o fanylion nag a roddwyd hyd yma.
Yn ail, mae CGGC yn pryderu ynghylch y penderfyniad i leihau’r gyllideb gymorth, a allai niweidio trigolion mwyaf difreintiedig y byd. Ar adeg pan mae ein cysylltiadau byd-eang wedi’u hamlygu trwy ledaeniad cyflym y coronafeirws, ni ddylai gwariant ar iechyd a datblygiad tramor fod yn darged. Dylai Llywodraeth y DU ailystyried y toriad hwn.
Yn olaf, byddai CGGC yn annog Llywodraeth Cymru i wario cyllid canlyniadol Barnett o’r gronfa Levelling Up yn Lloegr ar gymunedau yng Nghymru. Mae ffocws unrhyw lywodraeth ar ddatblygiad cymunedol i’w groesawu. Bydd ein cydweithwyr yn Lloegr yn gobeithio gwneud y gorau o botensial y gronfa hon trwy wneud cymunedau’n greiddiol iddi. Yma yng Nghymru, gallai’r cyllid canlyniadol sylweddol a ddaw o ganlyniad i’r gronfa hon fod o gymorth wrth roi hwb i’r cymunedau hynny sydd angen y mwyaf o gefnogaeth ac sydd, yn aml, heb isadeiledd gymunedol. Fodd bynnag, bydd angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y gronfa hon yn gronfa llawr gwlad sy’n canolbwyntio ar lesiant.
Rydym yn debygol o glywed mwy am raglen Restart yr Adran Gwaith a Phensiynau a’r buddsoddi mewn isadeiledd dros yr wythnosau nesaf, ac, ar ôl siarad â chydweithwyr ar draws y sector, bydd CGGC yn rhannu’r safbwyntiau hynny â Llywodraeth y DU.
Os oes gennych unrhyw safbwyntiau ynglŷn â chynnwys yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant, neu gynnwys yr erthygl hon, cysylltwch â: policy@wcva.cymru.