Gyda’n prosiect newydd Catalydd Cymru: Treftadaeth Wydn bellach yn cymryd ymgeisiadau, mae Rheolwr Prosiect Catalydd Alison Pritchard yn gofyn tybed beth mae treftadaeth yn ei olygu i ni.
Mae’n deg dweud pan mae rhywun yn meddwl am dreftadaeth, mae’n debyg mai’r peth cyntaf sy’n dod i’r meddwl yw rhyw fath o gastell neu adeilad hanesyddol (yn enwedig yng Nghymru lle mae mwy o gestyll fesul milltir sgwâr nag yn unrhyw wlad arall yn Ewrop).
Yng ngoleuni’r ffaith bod ein prosiect newydd sbon Catalydd Cymru: Treftadaeth Wydn yn cael ei lansio eleni, gofynnais i’m cydweithwyr newydd yn CGGC beth oedd eu dealltwriaeth o dreftadaeth Cymru a beth mae’n ei olygu iddyn nhw.
Ymwelwyr
Yn gyntaf, yr ochr fwy ‘twristaidd’ i Dreftadaeth Cymru; ei thraethau, ei mynyddoedd, ei bryniau a’i haberoedd godidog – mae yna ardal o harddwch naturiol eithriadol o amgylch pob cornel (ac efallai hyd yn oed rhywfaint o fywyd gwyllt prin hefyd).
Heb anghofio’r eglwysi, yr abatai (ac olion abatai), y cestyll (ac olion cestyll) enwog, a hanes hir gyda chysylltiadau â llinach y Tuduriaid, Owain Glyndŵr, y Cylch Haearn…does ryfedd bod twristiaid yn heidio i Gymru bob blwyddyn.
Diwylliant
Er bod y twristiaid yn gadael gyda gwybodaeth am ein tirwedd, gobeithio y cânt gipolwg hefyd ar hunaniaeth ddiwylliannol gyfoethog Cymru.
Mae’r Eisteddfod flynyddol (lle y cawsom lawer o hwyl eleni – welsoch chi ni?) yn denu miloedd o bedwar ban byd i ddathlu ein diwylliant a’n hiaith.
Mae’r Eisteddfod hefyd yn faes y gad i gorau enwog Cymru – er bod y frwydr weithiau rhwng y corau a’r gynulleidfa – ac mae’r Cymry wrth eu bodd yn cael cyfle i ganu.
Gweler: rygbi.
Yn olaf, mae danteithion hyfryd o Gymru wedi cyffwrdd â chalonnau pobl ledled y byd (yn eithaf dwys mewn rhai achosion) ynghyd â’i beirdd, ei hactorion a’i hartistiaid.
Amrywiaeth
Wrth gwrs, mae hanes llai adnabyddus am y bobl sydd wedi dod i Gymru dros y canrifoedd, ac wedi helpu i lunio Cymru fodern, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i;
- Y gymuned Eidalaidd a sefydlwyd yng Nghasnewydd a Morgannwg (fel yr oedd) yn y 18fed ganrif
- Datblygiad Tiger Bay a Butetown yn gymuned brysur o bobl o wahanol gefndiroedd ac ethnigrwydd
- Dylanwad Lerpwl ar Ogledd Cymru.
Gwneud gwahaniaeth
Ac yn olaf, ond yn sicr nid y lleiaf, pan fydd pobl yng Nghymru eisiau i rywbeth newid, dydyn nhw ddim yn gwastraffu dim amser cyn dod at ei gilydd a gwneud i hynny ddigwydd.
Edrychwch ar grwpiau fel Siartwyr Gwrthryfel Casnewydd, a’r glowyr yn ystod streiciau 84-85… neu sefydliadau fel Cymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar a greodd ffordd newydd i bobl gefnogi iechyd ei gilydd a dod yn fodel ar gyfer y GIG heddiw.
Ac mae hyn yn dal i fod yn amlwg yn y cannoedd o elusennau, grwpiau cymunedol, a chlybiau rydyn ni’n eu cefnogi bob dydd.
‘Bach iawn ar ein pen ein hunain’
Ond beth mae’r uchod yn ei ddweud wrthym? Yn amlwg nid un peth yw treftadaeth – mae’n golygu gwahanol bethau i wahanol bobl.
Rhannodd un cydweithiwr y diffiniad hwn gyda mi:
‘I mi, mae deall ‘treftadaeth’ yn golygu deall bod pobl wedi bod yn yr union leoedd rydych chi ynddyn nhw ers oes Adda, a bydd gan bobl y dyfodol eu problemau eu hunain a materion di-nod ac o ran y darlun mawr, rydyn ni’n fach iawn ar ein pen ein hunain.’
Ynglŷn â Catalydd Cymru
Mae Catalydd Cymru ar gael i sefydliadau’r sector gwirfoddol yng Nghymru sy’n gweithio yn y maes treftadaeth. Ariennir y prosiect gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, sy’n diffinio treftadaeth fel a ganlyn:
- Adeiladau a henebion hanesyddol
- Natur a Thirweddau (gerddi hanesyddol, bywyd gwyllt, coetir)
- Diwydiannol, morwrol a thrafnidiaeth
- Amgueddfeydd, llyfrgelloedd, archifau a chasgliadau
- Treftadaeth anniriaethol (megis cadw atgofion, neu brosiectau hanes llafar)
- Treftadaeth Gymunedol
Os yw prif weithgareddau elusennol eich sefydliad yn dod o dan unrhyw un o’r uchod, gallech elwa o gymryd rhan yn unrhyw un o weithgareddau Catalydd Cymru: Treftadaeth Wydn.