Older man on video call at home waves at his laptop

Beth mae COVID-19 yn ei olygu o ran creu economi llesiant

Cyhoeddwyd: 02/07/20 | Categorïau: Heb gategori, Awdur: Jess Blair

Yn fuan iawn ar ôl y sesiwn olaf yn ein cyfres o ddigwyddiadau ‘Paratoi ar gyfer Dyfodol Gwahanol’, mae Jess Blair yn adrodd yn ôl ar y trafodaethau am fudiadau gwirfoddol, COVID-19 a chreu economi llesiant.

Yr oedd y chweched digwyddiad, a’r olaf yn y gyfres ‘Paratoi ar gyfer Dyfodol Gwahanol’, yn edrych ar yr economi llesiant. Yr oedd y gyfres hon o ddigwyddiadau wedi edrych yn fanwl ar effaith y pandemig ar y sector gwirfoddol yng Nghymru, gyda’r ddau ddigwyddiad olaf yn edrych ymlaen at ddyfodol y sector wrth i Gymru ailadeiladu’n araf.

Dan gadeiryddiaeth Sue Husband, Cyfarwyddwr Business in the Community (BITC) Cymru, yr oedd 80 o gyfranogwyr ychwanegol yn y sesiwn hon.

Mae’n glir fod pandemig y Coronafirws wedi cael effaith ym mhob cwr o Gymru, ond y mae’r effaith wedi bod yn un anghyfartal, gan effeithio’n bennaf ar y rhai sydd fwyaf agored i niwed, ac felly y bydd pethau’n parhau. Mae’r rhai a oedd eisoes yn ynysig yn fwy ynysig fyth erbyn hyn. Mae’r rhai a oedd eisoes yn ei chael yn anodd dod â dau ben llinyn ynghyd yn debygol o fod dan fwy o bwysau ariannol fyth erbyn hyn.

Yr effaith gychwynnol

Mae’r argyfwng wedi bod yn dreth ar allu’r sector i gefnogi pobl sy’n agored i niwed. Er bod nifer o fudiadau wedi llwyddo i symud eu gwasanaethau ar-lein, mae yna bryderon am bobl sydd angen cefnogaeth, y rhai nad ydyn nhw’n ymgysylltu â’r dechnoleg, neu sydd â phroblemau a fyddai’n gwneud ymgysylltu digidol yn anodd, fel nam ar y clyw. Mae llawer o ddarpariaethau, fel canolfannau cymunedol a chylchoedd chwarae wedi cau eu drysau’n gyfan gwbl, ac yn wynebu llawer o gynllunio a chostau i allu ailagor yn ddiogel.

Mae effaith yr argyfwng ar y rhai mwyaf agored i niwed yn glir o’r adroddiadau a ddaw o’r sector cynghori. Dywedodd un cyfranogwr eu bod yn sgwrsio gyda nifer o ddarparwyr cyngor – ‘Er bod nifer yr ymholiadau wedi cynyddu’n gyflym adeg yr effaith gychwynnol, mae yna ôl-groniad o broblemau am ddod i’r amlwg, a phryderon gwirioneddol am yr hyn a fydd yn digwydd i bobl, unwaith y daw’r cyfnod o oedi a ganiatawyd iddynt yn eu taliadau rhent neu forgais i ben. Hefyd, mae yna gyfres gyfan o broblemau yn ymwneud â phobl sy’n newydd i fod angen cyngor ynghylch materion fel budd-daliadau oherwydd y nifer o bobl sydd bellach yn hawlio neu’n derbyn y rhain am y tro cyntaf erioed’.

Mae ambell i beth cadarnhaol wedi digwydd hefyd yn sgil pandemig y COVID, gyda chyfranogwyr yn adrodd am gynnydd yn y defnydd o dechnoleg, llai o allyriadau carbon o ganlyniad i fwy o bobl yn gweithio o’u cartrefi, a chynnydd sylweddol yn nifer y gwirfoddolwyr newydd, llawer ohonynt yn iau na’r rhai sydd wedi gwirfoddoli’n hanesyddol i’r mudiadau hyn.

Dyma ddywedodd un o gyfranogwyr y Cylch Mentora, ‘Mae pob un o’n gweithgareddau cymunedol wedi mynd ar-lein – yoga, boreau coffi, digwyddiadau chwaraeon. Mae yna bethau cadarnhaol o ran mynd ar-lein ond weithiau, rydym wedi gorfod siarad yn uniongyrchol â phobl hŷn er mwyn eu helpu i fynd ar-lein’.

Economi gwahanol

Wrth i Gymru ailadeiladu ac ailagor mewn misoedd a blynyddoedd i ddod, mae yna alw arnom i beidio â dychwelyd i bethau fel ag yr oeddent cyn-COVID ond i edrych, yn hytrach, ar sut y gall ein heconomi fod yn decach ac yn wyrddach. Fe wnaeth cyfranogwr o WWF Cymru ddwyn sylw at y mater hwn drwy ddweud, ‘Un o’r prif elfennau sy’n ysgogi’r newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth yw ein system economaidd. Pan ddechreuwn edrych ar economi Cymru, mae wedi’i yrru gan Gynnyrch Mewnwladol Crynswth (CMC) a Gwerth Ychwanegol Crynswth (GYC) ac eto, daeth galw o wledydd eraill i ddechrau symud tuag at economi llesiant …. mae angen cyflwyno elfennau eraill i’r diffiniad o economi’, gyda galwadau clir i symud i gadwyn gyflenwi leol mewn meysydd fel bwyd. Gallai hynny fod yn wirioneddol fanteisiol i swyddi, iechyd a chymunedau.

Cytunodd eraill, gan ddweud ‘Yn amlwg, mae hyn yn allweddol nid yn unig i fynd i’r afael ag argyfyngau yr hinsawdd a natur yn unig, ond hefyd heriau anghydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol’.

Yn ystod y drafodaeth, dywedwyd i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei fod wedi ymuno â’r rhwydwaith o Lywodraethau Economi Llesiant (WEGo) ochr yn ochr â’r Alban, Seland Newydd a Gwlad yr Ia ym mis Mai, ac felly’r gobaith i lawer o’r cyfranogwyr oedd y gallai hyn esgor ar gam ymlaen yn natblygiad economi Cymru.

Rôl y sector

Er bod yn rhaid i’r sector gwirfoddol dderbyn y clod am ymateb yn gyflym a llwyddo i gefnogi’r bobl y maent yn gweithio â hwy mewn amseroedd nas gwelwyd eu tebyg o’r blaen, yr oedd rhai o gyfranogwyr y digwyddiad yn galw am newid hirdymor yn y ffordd y mae’r sector yn gweithio.

‘[Yr ydym] wir yn ceisio gwneud ymrwymiad sylweddol i wneud pethau yn wahanol. ’Rydym eisiau gweithio’n agos iawn gyda chymunedau, gyda grwpiau sydd wedi’u sefydlu i fynd i’r afael â COVID a’r bobl sy’n byw yn Sir Benfro. Mae rhyddid yr hyblygrwydd o ran ariannu yn golygu ein bod wedi gallu canolbwyntio ar yr hyn sy’n digwydd mewn gwirionedd a gweithio mewn cymunedau er mwyn gwella pethau. Dydyn ni ddim eisiau dychwelyd i’r hen ffyrdd o weithio mewn seilos a’r arian a ddaw yn sgil hynny. Mae angen i ni ymddiried mewn cymunedau a phobl leol’, meddai un cyfranogwr.

Meddai un arall, ‘Dwi’n gweld rôI i’r trydydd sector o ran creu gweledigaeth ar gyfer beth arall allai fod yn bosibl – sut y byddem yn ail-siapio llesiant’, a chysylltu hyn â’r galw ehangach am Incwm Sylfaenol Cyffredinol.

Er mwyn i hyn ddigwydd, dadl Duncan Holtham oedd y byddai’n rhaid cydnabod yr heriau hirdymor sy’n wynebu’r sector. Cyfeiriodd at yr her o gynyddu maint grwpiau cymunedol bach ar draws y bwrdd, ac at fethiant arianwyr i fesur effaith yn gywir. Ei enghraifft oedd un awdurdod lleol a oedd yn ariannu llefydd mewn meithrinfa ond yn methu â chymryd i ystyriaeth yr hyn a gynigiai canolfan y feithrinfa yn yr ystyr ehangach, fel caniatáu i rieni gyfarfod neu gynnig lleoliad ar gyfer caffi i’r gymuned leol.

Yr hyn sy’n glir yw bod y sector yn chwarae rhan sylweddol yn yr economi llesiant yng Nghymru a bod yn rhaid iddo fod yn rhan o’r drafodaeth sy’n mynd rhagddi ynghylch y modd y dylem ailadeiladu wrth i argyfwng y COVID barhau. Y rhai sydd wedi dioddef fwyaf yn sgil y pandemig hwn yw’r rhai sydd eisoes fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ac mae gan y sector rôl allweddol i’w chwarae wrth gefnogi’r bobl hyn a dadlau o blaid system wahanol.

Mwy gan Jess Blair ar y digwyddiadau yn ein cyfres, Paratoi ar gyfer Dyfodol Gwahanol

Mae Jess Blair wedi crynhoi’r trafodaethau gyda’r sector gwirfoddol sydd wedi codi yn sgil ein cyfres, Paratoi ar gyfer Dyfodol Gwahanol.

Gwylio’n ôl

Gallwch wylio recordiadau o’r holl ddigwyddiadau yn y gyfres Paratoi ar gyfer gwahanol ddyfodol ar YouTube.

Darllen yr Adroddiadau

Bydd Richard Newton Consulting yn cynhyrchu adroddiad cryno ar gyfer pob un o’r trafodaethau yn ein cyfres Paratoi am Ddyfodol Gwahanol. Dyma’r adroddiadau a gyhoeddwyd hyd yma: