Dyn hŷn yn darllen llyfr mewn llyfrgell gyhoeddus

Beth fyddai’r Arglwydd Beveridge yn ei ddweud?

Cyhoeddwyd: 23/06/23 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Awdur: Fiona Liddell

Mae Rheolwr Helplu Cymru, Fiona Liddell, yn edrych nôl ar arolwg 75 mlwydd oed ar weithredu gwirfoddol.

Mae’r Arglwydd Beveridge wedi’i ddisgrifio fel pensaer y wladwriaeth les. Yn dilyn adroddiadau manwl ar iechyd a chyflogaeth, ffocws ei drydydd adroddiad, a gyhoeddwyd ym 1948, oedd gweithredu gwirfoddol.

Wrth wacau ein swyddfa yn Nhŷ Baltig y llynedd, roedd hi’n braf iawn darganfod y gyfrol hon ac edrych yn fanylach arni, drwy lygaid y sector gwirfoddol fel ag y caiff ei adnabod gennym ni heddiw.

NATUR NEWIDIOL GWEITHREDU GWIRFODDOL

Yn ystod oes Fictoria, roedd dyngarwch yn cael ei gysylltu’n bennaf â diwygio carchardai a sefydliadau eraill, lleihau tlodi a rhoi gofal i’r rhai a oedd yn anghenus. Erbyn diwedd y 19eg ganrif, roedd gweithredu gwirfoddol yn dechrau cael ei fynegi mewn ffyrdd newydd:

Ffurfiwyd cymdeithasau i amddiffyn cyfleustodau gwledig a threfol, gan gyflawni cadwraeth barhaus mannau agored a llwybrau troed, a fyddai’n cyflwyno buddion sylweddol i un genhedlaeth ar ôl y llall. Fel y dywedodd Beveridge, ‘gweithredu gwirfoddol a roddodd ysgyfaint i Lundain.’

Roedd arolygon cymdeithasol, fel y rheini a gynhaliwyd gan Charles Booth a Seebohm Rowntree, yn bwysig fel astudiaethau diduedd o amodau cymdeithasol a gwnaethant lywio’r feirniadaeth o fesurau cyhoeddus. Nododd Beveridge y byddai’n rhaid i’r rhain ‘…fod yn un o destunau gweithredu gwirfoddol ar bob adeg. Gall y wlad chwarae ei rhan yn y maes hwn ac mae’n gwneud hynny mwy a mwy heddiw,’ ond ‘…ni ddylai fyth geisio ei amsugno i gyd’.

Nawr, fel bryd hynny, mae gan fudiadau gwirfoddol rôl hanfodol fel ‘cyfaill beirniadol’ annibynnol, yn gweithio gyda, ond heb ei reoli gan, lywodraethau a chyrff statudol.

TARDDIAD SEILWAITH Y SECTOR

Datblygiad diddorol a welwyd ar ddechrau’r 20fed ganrif oedd ffurfiad Cynghorau Gwasanaethau Cymdeithasol a oedd yn cynnig cydgysylltiad a chymorth annibynnol ac am ddim i fudiadau gwirfoddol.

Yn wir, CGGC yw olynydd mudiad o’r fath. Mae cyrff seilwaith ar lefel genedlaethol a rhanbarthol nid yn unig yn rhoi cyngor a chymorth i’w haelodau, ond maen nhw hefyd yn bwyntiau cyswllt ar gyfer y llywodraeth a chyrff eraill sydd eisiau cysylltu â’r sector gwirfoddol. Maen nhw’n cynrychioli lleisiau eu haelodau mewn datblygiadau polisi lleol a chenedlaethol.

ANGEN PARHAUS AM WEITHREDU GWIRFODDOL

Ar adeg pan oedd y wladwriaeth les yn dod i fodolaeth, mae’n werth nodi bod Beveridge wedi nodi meysydd clir o angen a fyddai y tu hwnt i’r hyn y byddai’r wlad yn gallu mynd i’r afael â nhw’n realistig, ac a fyddai’n golygu bod angen i’r sector gwirfoddol fod ynghlwm â’r gwaith yn barhaus.

Yn gyffredinol, roedd y rhain yn cynnwys anghenion arbennig mewn perthynas â phobl hŷn, plant, pobl ag anableddau corfforol a meddyliol, y rheini â ‘salwch cronig’ a charcharorion a oedd wedi’u rhyddhau. Roedd y meysydd mwy newydd o angen a oedd yn dod i’r golwg yn cynnwys darparu cyfle cyfartal mewn gweithgareddau hamdden, trechu ymddygiad gwrthgymdeithasol fel gamblo a chynnig cyngor a gwybodaeth i ddinasyddion mewn byd a oedd yn dod yn fwyfwy gymhleth.

Heddiw, ceir llawer o drafodaeth ynghylch sut olwg fydd ar ein system iechyd a gofal yn y dyfodol. Cydnabyddir na all gwasanaethau statudol gadw i fyny â’r galw na bodloni disgwyliadau poblogaidd, a bod angen ail-gydbwyso’r glorian yn radical tuag at weithredu ataliol a chymorth o dan arweiniad y gymuned. Yn amlwg, bydd cyfraniad mudiadau gwirfoddol a chymunedol yn dod yn fwyfwy bwysig.

GOROESIAD Y SECTOR GWIRFODDOL

Cyhoeddodd Beveridge mai cyraeddiadau gweithredu gwirfoddol oedd ‘…un o nodweddion eithriadol yr adroddiad hwn’. Mae’n dangos y cryfder i ‘allu newid ei ffurf yn barhaus … mae angen gweithredu gwirfoddol i wneud pethau na ddylai’r wladwriaeth eu gwneud … Mae ei angen i wneud pethau nad yw’r wladwriaeth yn debygol iawn o’u gwneud. Mae ei angen i arloesi y tu hwnt i’r wladwriaeth ac arbrofi. Mae ei angen i ddarparu gwasanaethau na ellir eu cael drwy dalu amdanynt.’

Er nad ydyn ni bellach yn ymwneud yn bennaf â diwallu anghenion sylfaenol, mae gwaith hanfodol yn cael ei wneud o hyd, a mudiadau gwirfoddol sy’n gallu darparu’r gwaith hwn orau.

Heddiw, fel ag yr oedd bryd hynny, mae’r angen am gyllid a gwirfoddolwyr yn her. Mae un o benodau cloi adroddiad Beveridge yn trafod sut gall y wladwriaeth gefnogi gweithredu gwirfoddol parhaus heb gyfaddawdu ei annibyniaeth. Gan nad yw’n cael ei gynnal gan noddwyr cefnog mwyach, efallai y bydd yn rhaid i lywodraethau ‘…ar ran democratiaeth, wneud yr hyn yr oedd yr aristocratiaid yn ei wneud cyn hyn,’ a chefnogi’r sector yn ariannol.

EDRYCH AR Y MATERION HEDDIW

Mae CGGC wedi bod yn edrych ar sut gellir galluogi gwirfoddolwyr a’r sector gwirfoddol i gyfrannu at iechyd a gofal yng Nghymru yn y modd mwyaf effeithiol. Mae Comisiwn Bevan wedi cyhoeddi papur o’r enw Gwerthoedd a gwerth gwirfoddoli: ein hased cudd. Bydd papur ategol, ‘Gwerthoedd a gwerth y trydydd sector’, yn cael ei gyhoeddi cyn hir, a fydd yn nodi rhai materion ac awgrymiadau ar gyfer system integredig, ddyfeisgar lle bydd y sector gwirfoddol yn chwarae rhan lawn ac effeithiol.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at gynhadledd Comisiwn Bevan, Y pwynt tyngedfennol: lle nesaf i iechyd a gofal? ar 5 a 6 Gorffennaf 2023. Byddwn yn hwyluso gweithdy rhyngweithiol ac yn lansio fideo newydd sy’n amlygu potensial gwirfoddolwyr a’r sector gwirfoddol yn y maes iechyd a gofal.

Oni fyddai’n braf gwybod beth fyddai gan Beveridge i’w ddweud am ein trafodaethau?

YNGLŶN Â HELPLU CYMRU

Mae Helplu Cymru yn gweithio gyda Chefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC ac 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol (CVCs)), Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu potensial gwirfoddoli i gefnogi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Ewch i dudalen we Helplu Cymru, neu i dderbyn diweddariadau ar e-bost, cofrestrwch yma a dewiswch yr opsiwn ‘gwirfoddoli iechyd a gofal’.

Cyfeiriad: Voluntary Action. A report on methods of social advance. Yr Arglwydd Beveridge. George Allen and Unwin Ltd 1948