Dechreuodd Beiciau Gwaed Cymru ar eu taith mewn Mini Cooper i godi ymwybyddiaeth o’u gwasanaeth penwythnos a arweinir gan wirfoddolwyr i gefnogi’r GIG yng Nghymru. Mae Sally Rees (CGGC) yn sôn yn fwy i ni.
Yn gwbl annisgwyl ac ar ddamwain, gwnes i a Val Connelly (AVOW) gwrdd â’r Beiciau Gwaed yn Neuadd Maesgwyn, Wrecsam yr wythnos hon pan oeddwn yn mynychu Rhwydwaith Llesiant Gogledd Cymru, a ddenodd dorf o fyfyrwyr i hyrwyddo gwirfoddoli a lleoliadau myfyrwyr mewn mudiadau yn y sector gwirfoddol.
Cwrddon ni â Chris Jones (cynrychiolydd Wrecsam) a John Peers. Roedd gwirfoddolwyr y Beiciau Gwaed a ffrindiau wrthi’n ffarwelio â John, a oedd yn bwriadu gyrru i’r Eidal mewn Mini Cooper yn wreiddiol fel digwyddiad codi arian ac i godi ymwybyddiaeth o’r Beiciau Gwaed o dan faner Italian Job Beiciau Gwaed Cymru. Oherwydd y sefyllfa gyda’r Coronafeirws yn yr Eidal a ffiniau wedi’u cau, bu’n rhaid i’r cynllun newid. Bellach, mae’r daith yn cael ei alw’n Not the Italian Job! Gwahoeddwn ni i eistedd ar un o’u beiciau, Gwenda. Dyma’r tro cyntaf erioed i ni fod ar feic modur, ac roeddwn wrth ein boddau yn rhannu ein lluniau â phobl eraill!
Beiciau Gwaed Cymru oedd enillwyr Mudiad y Flwyddyn 2019 yng Ngwobrau Elusennau Cymru, a pan fydd pobl yn gweld eu beiciau, efallai na fyddant yn sylweddoli mai gwirfoddolwyr yw pob un o’r beicwyr sy’n rhoi eu penwythnosau lan. Mae nhw’n ddarparu gwasanaeth ar gyfer y GIG rhwng 7 pm ar nos Wener tan hanner nos ar foreau dydd Llun, yn cludo plasma, samplau gwaed, dogfennau, llaeth dynol a gyfrannwyd ac eitemau eraill mawr eu hangen ar hyd a lled Cymru ar gyfer chwech o’r saith Bwrdd Iechyd. Caiff 100% o’r mudiad ei arwain gan wirfoddolwyr. Mae ganddyn nhw 500 o wirfoddolwyr a 264 o feicwyr gwirfoddol ar hyn o bryd sydd wedi cludo 15,445 o eitemau, ac mae’r ffigur hwn yn parhau i godi bob penwythnos wrth iddyn nhw feicio ar hyd ffyrdd Cymru i gludo eitemau brys i’r lleoedd sydd eu hangen.
Gallwch weld teithiau Chris a John a chael gwybod rhagor am Beiciau Gwaed Cymru ar eu gwefan neu gallwch roi arian iddynt drwy https://www.bloodbikes.wales/donate/
Diweddariad 18 Mawrth 2020
Fe wnaeth Chris a John gyrraedd cyn belled â Gwesty Chitty Chitty Bang Bang yn yr Almaen cyn cael eu gorfodi i ddychwelyd i Gymru trwy gau ffiniau yng ngoleuni coronafeirws.
Er eu bod wedi canslo neu ohirio’r holl weithgareddau codi arian a digwyddiadau, mae’r beiciau’n dal ar y ffyrdd saith diwrnod yr wythnos a byddant yn parhau i gynorthwyo’r GIG mewn cymaint o ffyrdd â phosibl o brofion gwaed i ddarparu meddyginiaeth i gleifion, casglu llaeth dynol rhoddwr ac unrhyw beth arall a fydd yn ffitio ar feic modur.