beicwyr gwaed yn sefyll yn yr haul

Beiciau Gwaed Cymru – cefnogi’r GIG trwy COVID-19

Cyhoeddwyd: 16/07/20 | Categorïau: Heb gategori, Awdur: Nigel Ward

Ers tro diwethaf siaradom ni i enillwyr Gwobrau Elusennau Cymru Beiciau Gwaed Cymru, mae’r galw ar allu’r elusen i addasu ac ymateb i’r pandemig Covid 19 wedi bod yn ddigynsail. Esbonia Nigel Ward, Cadeirydd Beiciau Gwaed Cymru.

Paratoi – beth yw’r ffordd orau i helpu?

Roedd mis Mawrth yn fis o baratoi a bod yn barod. Diddymwyd ein hamserlen cysylltiadau cyhoeddus, ynghyd â chynlluniau ar gyfer gweithgareddau codi arian trwy gydol yr haf pan fyddwn yn cynhyrchu’r rhan fwyaf o’n hincwm.

Rhoddwyd y gorau i gyfarfodydd wyneb yn wyneb ac, fel y mwyafrif o fudiadau, aethom ati i ddefnyddio’r rhyngrwyd. Cyflwynodd yr elusen brotocolau newydd ar gyfer ein beicwyr, er mwyn lleihau cyswllt a chroeshalogi. Fe wnaeth cwmnïau gin o Gymru fel Distyllfa Gŵyr ein helpu ni trwy ddarparu hylif diheintio dwylo i’w gadw ar ein beiciau.

Mewn sgyrsiau â byrddau iechyd lleol fe ddechreuom drafod y ffordd orau i ni fedru helpu yn yr argyfwng oedd ar y gorwel. Penderfynwyd, mewn ymgynghoriad â Llywodraeth Cymru, i beidio â defnyddio ein hadnoddau ar ddosbarthu presgripsiynau o fferyllfeydd cymunedol, gan y gallem gael ein defnyddio’n well mewn mannau eraill.

Dyma oedd ein neges i’n gwirfoddolwyr ym mis Mawrth i bob pwrpas

‘Mae gennym yr hyfforddiant i ddelio â beth bynnag sydd angen ei gludo ar y GIG a’i gael o A i B mor gyflym a diogel â phosibl. Mae gennym y prosesau a’r adnoddau i gyflawni hyn mewn ymateb i ddim ond un alwad ffôn.

Mae’n hanfodol bwysig, yn enwedig y foment hon, bod ein hadnoddau unigryw yn cael eu defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol i helpu ein Gwasanaeth Iechyd hyd eithaf ein galluoedd sylweddol.

Fel gwirfoddolwyr hyfforddedig, byddwch yn awyddus i gymryd rhan a helpu ond os gwelwch yn dda, byddwch yn amyneddgar. Mae sgyrsiau yn digwydd ar lefel leol a chenedlaethol gyda’n cysylltiadau yn y Gwasanaeth Iechyd. Maent yn ymwybodol o’n galluoedd a dros yr ychydig fisoedd nesaf, bydd angen yr holl help posib ar ein Gwasanaeth Iechyd.’

Ymateb i anghenion cynyddol

Ym mis Ebrill dechreuodd ein gwasanaethau ddwysáu, gan ddyblu nifer y beicwyr gwirfoddol a drefnwyd ar y rota ar ddyletswydd yn y rhan fwyaf o ardaloedd.

Cyflwynwyd mwy o feicwyr ar gyfer sawl bwrdd iechyd i alluogi cludo samplau COVID-19 llwybr cyflym trwy gydol yr wythnos gyfan, yn enwedig yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan. Llwyddwyd i wneud hyn gan fod llawer o’n gwirfoddolwyr ar ffyrlo o’u cyflogaeth arferol â thâl.

Mewn cydweithrediad â grwpiau Beiciau Gwaed yn Lloegr, roedd ein beicwyr gwaed Powys wedi ymgymryd â chludo presgripsiynau fferyllfeydd ysbytai i gyfeiriadau yng nghanolbarth Cymru. Mewn sefyllfa frys ddiweddar ym mis Mehefin, bu grwpiau Beiciau Gwaed yn Wrecsam, Glannau Mersi a Swydd Gaer a Manceinion yn gweithio gyda’i gilydd mewn ymgyrch 3-ffordd.

Torri pob record

Yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, mae ein helusen wedi darparu 16000, 17000, a bellach dros 18000 o ddanfoniadau ers ei sefydlu 10 mlynedd yn ôl. Roedd mis Ebrill yn brysur gyda 530 o dasgau ond ym mis Mai gwelwyd ein mis prysuraf gyda 696 o dasgau wedi’u cwblhau – pob un yn rhad ac am ddim i’n GIG.

Roedd ein fflyd wedi teithio dros 44,000 milltir. Diolch i haelioni BP a gyfrannodd dros 2200 litr o danwydd, roedd ein bil tanwydd hanner yr hyn y gallai fod wedi bod.

Ym mis Mehefin, gwnaethom gwblhau 813 o dasgau. Mae hwn yn gyfanswm anhygoel ac yn fis arall sy’n torri record. Mae’n dangos y galw ychwanegol y mae’r sefyllfa bresennol yn ei roi ar y GIG, ac felly, arnom ni ein hunain. Mae’r de ychydig yn dawelach ar hyn o bryd ond mae ein gwirfoddolwyr yng ngogledd Cymru yn cael eu cadw’n hynod o brysur gan y rhaglen sgrinio ar gyfer cartrefi gofal.

Mae busnes fel arfer yn parhau hefyd

Yn ychwanegol at yr holl ymdrech COVID-19, rhaid cofio hefyd am y ‘busnes fel arfer’. Mae ein gwasanaeth arferol ac ad-hoc ar gyfer ysbytai ledled Cymru yn parhau.

Yr wythnos diwethaf cludwyd sampl o Ysbyty Treforys i Ysbyty Great Ormond Street. Roedd hyn yn cynnwys dau grŵp o Feiciau Gwaed gwirfoddol arall, gan wneud taith a fyddai, trwy gludwr preifat, wedi costio swm 4 ffigur.

Yr wythnos hon cludwyd samplau meinwe ar gyfer paru rhoddwyr rhwng ysbyty yng ngogledd Cymru ac ysbytai yn Lerpwl a Manceinion, unwaith eto yn cynnwys dau grŵp o Feiciau Gwaed gwirfoddol arall ac unwaith eto, yn hollol rad ac am ddim.

Gwydnwch ariannol

Mae gwaith llywodraethu da ein hymddiriedolwyr wedi sicrhau bod gan yr elusen ddigon o gronfeydd wrth gefn ariannol i ymdopi â’r annisgwyl. Mae’n bosib y byddem wedi gallu rhagweld digwyddiad ‘annisgwyl’ fel un o’n prif roddwyr yn rhoi’r gorau i’n cyllido, ond doedd dim modd rhagweld effaith pandemig byd-eang.

Mewn amgylchiadau arferol, mae’n dda bod ein hymgyrchoedd codi arian yn weithgaredd cyson fel nad yw ein gwariant gweithredu dyddiol yn llyncu ein cronfeydd wrth gefn. Fodd bynnag, ni fydd hyd yn oed pandemig fel COVID-19 yn atal arian rhag dod i mewn yn llwyr. Mae rhoddwyr yn parhau i fod yn hael. Ond bydd yn cael effaith fawr, heb os. Rydym yn cadw llygad gofalus ar ein cronfeydd wrth gefn ac efallai y bydd angen i ni addasu rhywfaint o’n gwariant ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Mae pob un o’n gwirfoddolwyr wedi cyfrannu at wneud Beiciau Gwaed Cymru yr hyn ydyw – yn alluog i wneud yr ymdrech ddwys ryfeddol hon ar adeg pan oedd ein hangen fwyaf ar y GIG.

Yn barod am y tro nesaf

Wrth i’r GIG ddechrau troi eu golygon yn ôl at weithgareddau mwy arferol, felly byddwn yn adolygu’r cyfraniad rydym yn ei wneud ac yn addasu ein gwasanaethau yn unol â hynny.

Ond efallai y bydd angen i ni wneud hyn eto. Yn anffodus, mae disgwyl tonnau pellach o COVID-19 ac efallai y bydd ar y GIG ein hangen ni i helpu o hyd. Rydym wedi tystio i ymroddiad cymaint o wirfoddolwyr a rhoddwyr dros yr ychydig fisoedd diwethaf, felly rwy’n hyderus y byddwn yn barod.

Mae’r darn yma wedi’i pharatoi gan Helplu Cymru. Mae’r Helplu yn gweithio gyda Chefnogaeth Trydydd Sector Cymru (CGGC a 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol) a phartneriaid eraill i ddatblygu potensial gwirfoddoli mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.