Dwylo pobl o amgylch bwrdd yn dal siartiau a graffiau

Baromedr: cam enfawr ymlaen i’r sector gwirfoddol yng Nghymru

Cyhoeddwyd: 29/01/26 | Categorïau: Dylanwadu,Gwybodaeth a chymorth, Awdur: Ross Thomas

Mae Ross Thomas, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Partneriaethau a Pholisi yn CGGC, yn dweud wrthym pa mor ddefnyddiol y gall data fod wrth ragweld a llunio dyfodol y sector gwirfoddol.

A chithau’n gweithio o fewn neu’n gysylltiedig â’r sector gwirfoddol yng Nghymru, fe wyddoch pa mor gyflym y gall pethau newid ac, felly, pa mor bwysig yw hi i gadw’ch bys ar y pỳls.

BAROMEDR CYMRU

A dyma fe’n dod i’r llwyfan, Baromedr Cymru, adnodd newydd wedi’i ddylunio i roi mewnwelediadau amser real i ni o’r hyn sy’n digwydd ar draws y sector. Meddyliwch am y Baromedr fel rhyw fath o ragolygon tywydd i’r sector gwirfoddol. Mae’n arolwg byr, rheolaidd sy’n ein helpu i ddeall sut mae mudiadau a’r sector yn gyffredinol yn dod ymlaen.

Oce, falle ei bod hi’n hawdd, hyd yn oed yn ‘glishê’ i rywun brwd am bolisi fod yn gyffrous am ddata. Ond y peth hyfryd am ddata yw’r rôl y mae’n ei chwarae mewn llywio a chyflwyno newid positif fel canlyniad terfynol, neu barhaus.

Bydd gennym ni i gyd arbenigeddau mewn meysydd penodol ar draws y sector gwirfoddol yng Nghymru y gallwn ei ddefnyddio’n rheolaidd i wneud rhagdybiaethau gwybodus ar sail tystiolaeth. Ond a fydden i’n betio fy morgais ar yr holl ragdybiaethau rydw i’n ei wneud? Dim ffiars o beryg, a dyna le mae data’n ddefnyddiol.

DEFNYDDIO DATA

Wrth gwrs, mae’r hyn rydyn ni’n ei gasglu dim ond yn ddefnyddiol os ydyn ni’n gwneud rhywbeth ag ef. Alla i feddwl am lwyth o enghreifftiau yn fy ngyrfa lle rydyn ni, gyda’r bwriadau gorau, wedi gorfod casglu data, a hwnnw’n gwneud dim ond eistedd yn dwt mewn cronfa ddata. A dyna le mae’n aros. Ond os caiff ei ddefnyddio yn y ffordd gywir, a chyda chefnogaeth eang y sector yn ein hachos ni, gall y Baromedr fod yn gam enfawr ymlaen i’n gweithgareddau dylanwadu.

Mae cyd-destun yn bwysig iawn yma: mae’r ffordd y mae Cymru yn cael ei llywodraethu yn newid. Gydag etholiadau’r Senedd ar y gorwel ym Mai 2026, rydyn ni ar drothwy’r diwygiad cyfansoddiadol mwyaf yn hanes datganoli, lle bydd 36 aelod ychwanegol yn cael eu hethol.

Bydd llawer o wynebau, o’r meinciau cefn i rolau Gweinidogol, yn newydd; bydd rhai yn gyfarwydd â’r sector gwirfoddol ac yn hanu ohono, ond ychydig iawn o wybodaeth fydd gan (lawer o) rai eraill. Ac ymhen dim, fe fyddan nhw mewn trafodaethau pwyllgor neu gyfarfodydd llawn, yn cynnig argymhellion polisi ac yn pleidleisio’n flynyddol ar gyllidebau – yn gwneud y gwaith gwleidyddol sy’n effeithio ar fywydau pob unigolyn yng Nghymru.

DYLANWADU’R SENEDD NEWYDD

Rydyn ni eisiau bod yn rhan o hyn, on’d ydyn ni? Beth felly sy’n helpu’r aelodau etholedig hynny yn eu ffordd o feddwl a’u prosesau penderfynu? Data. Tystiolaeth. Storïau. Profiadau bywyd. Dyma’r elfennau sylfaenol o sicrwydd y byddai eu hangen ar unrhyw un ohonom ni, ynghyd â’n moeseg a’n hegwyddorion ein hunain, i wybod ein bod yn gwneud y peth iawn. Mae hyn yn bwysicach fyth mewn oes o gyllidebau cyfyngedig a phartneriaethau traws-sector.

Dwi ddim yn awgrymu am eiliad mai data yw’r ateb i bopeth. Mae angen ei ddadansoddi; mae angen ei roi mewn cyd-destun; mae angen ei ‘ddynoli’. A dim ond wedyn gallwn ni ddweud yn ddidwyll, ‘rydyn ni yma i chi, oherwydd rydyn ni’n defnyddio’r hyn rydych chi’n ei ddweud wrthym ni. Mae hefyd yn golygu y gallwn fod yn effro i newidiadau a thueddiadau ac ymateb yn briodol.

Yn fyr, mae’n ein galluogi ni yn CGGC i wneud penderfyniadau mwy seiliedig ar dystiolaeth ar ran y sector gwirfoddol mewn amgylchedd ddylanwadu cystadleuol. Ond nid stryd un ffordd mo hon, oherwydd byddwch chi’n cael y mewnwelediadau hefyd, a fydd yn eich helpu i feincnodi eich mudiadau eich hun a gwneud penderfyniadau mwy gwybodus.

CYMRYD RHAN

Felly dyma’r hyn rydyn ni’n ei ofyn: cwblhewch yr arolwg a’i rannu’n eang ymhlith eich rhwydweithiau yn y sector gwirfoddol. Mae’n fyr, yn hawdd ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Po fwyaf o ymatebion y byddwn ni’n eu cael, eglura’n byd fydd y darlun, cryfa’n byd fydd ein llais a mwya’n byd fydd ein heffaith.

Mae Ton 2 o Baromedr Cymru yn fyw rhwng 27 Ionawr a 24 Chwefror ac yn canolbwyntio ar wirfoddoli yn eich mudiad.

Mae bron i 1/3 o oedolion yng Nghymru yn gwirfoddoli, ond mae recriwtio gwirfoddolwyr yn parhau i fod ymhlith y tri phrif bryder i 30% o’r mudiadau a arolygwyd gennym yn Nhon 1. Yn y cyfamser, mae cynnig polisi newydd gan y Swyddfa Gartref yn awgrymu y gallai gwirfoddoli helpu mudwyr i ‘ennill’ yr hawl i fyw yn y DU yn barhaol yn gynt. Rydym yn awyddus i gasglu eich barn.

Mae’r Baromedr yn fwy nag arolwg. Mae’n adnodd ar gyfer newid: gadwch i ni ei ddefnyddio.

Cymerwch ran yn y don ddiweddaraf erbyn 24 Chwefror – dim ond 15 munud y mae’n ei gymryd!