Mae dyn yn cynnal arolwg effeithlonrwydd ynni gyda menyw o fudiad gwirfoddol yn adeilad y mudiad

Awgrymiadau i fudiadau gwirfoddol ar arbed ynni

Cyhoeddwyd: 13/02/24 | Categorïau: Ar gyfer aelodau, Awdur: Emily Berry

Eisiau lleihau costau a dod yn fwy cynaliadwy? Mae gan Emily Berry, y Rheolwr Partneriaethau yn Utility Aid, rai awgrymiadau i aelodau CGGC ar arbed ynni.

Yn y byd sydd ohoni heddiw, mae mudiadau gwirfoddol o bob maint yn cydnabod pwysigrwydd cofleidio arferion cynaliadwyedd. Un cam mawr tuag at ddyfodol mwy gwyrdd yw lleihau’r ynni a ddefnyddir a dod yn garbon niwtral.

SYNIADAU DA I ARBED YNNI

Boeleri

Gwresogi sy’n cyfrif am 40% o’r ynni mewn adeiladau annomestig…

  • Sicrhewch eich bod yn cynnal a chadw eich boeler yn rheolaidd er mwyn sicrhau ei fod mor effeithlon â phosibl. Argymhellir unwaith y flwyddyn.
  • Ystyriwch ei uwchraddio os yw’n fwy na deng mlynedd oed.
  • Gall boeler nad yw’n cael ei weithredu a’i gynnal a chadw’n dda gynyddu costau gwresogi o 30% neu ragor.

Rheoli tymheredd

Mae costau gwresogi yn cynyddu oddeutu 8% am bob 1°C a or-gynhesir…

  • Sicrhewch fod eich thermostat wedi’i osod mewn rhywle canolog, i ffwrdd o ddrafftiau neu oleuni haul uniongyrchol lle mae tymereddau’n amrywio.
  • Gall mesurau atal drafftiau helpu i gadw tymheredd eich adeilad yn sefydlog.
  • Gall y rhan fwyaf o bobl osod eu thermostat i 18-20°C.
  • Defnyddiwch amserydd saith diwrnod i osgoi talu ar ddiwrnodau pan nad oes unrhyw un yn yr adeilad.

Gwresogyddion

Gall swigod aer yn eich system gwres canolog ei stopio rhag cynhesu eich adeilad yn effeithlon, a fydd yn golygu mwy o ddefnydd a chost i chi…

  • Gall gollwng yr aer o’ch gwresogyddion ddwywaith y flwyddyn gynyddu eu heffeithlonrwydd.
  • A ydych chi’n gwresogi ystafelloedd storio, coridorau, mannau sydd eisoes yn elwa ar wres o’r haul, ac ardaloedd lle mae lefel uchel o weithgarwch corfforol?
  • Gosodwch Falfiau Gwresogyddion Thermostatig (TRV) er mwyn rheoli eich gwres yn well.

Golau

Golau sy’n cyfrif am 17% o’r ynni a ddefnyddir mewn adeiladau annomestig fel arfer …

  • Newidiwch i ddefnyddio bylbiau LED, CFL neu Halogen.
  • Buddsoddwch mewn synwyryddion symud ar gyfer mannau a ddefnyddir am gyfnodau byr fel ystafelloedd ymolchi neu goridorau.
  • Buddsoddwch mewn synwyryddion golau er mwyn manteisio i’r eithaf ar olau naturiol am ddim.
  • Cadwch eich ffenestri a’ch ffenestri to yn lân er mwyn sicrhau eu bod mor effeithlon â phosibl.

CYMORTH I AELODAU CGGC

Utility Aid yw brocer ynni mwyaf y DU ar gyfer y sector gwirfoddol, ac rydyn ni’n frwd dros sicrhau bod mudiadau gwirfoddol yn cael gwasanaeth a chymorth o ansawdd. Mae gennym dîm o arbenigwyr sy’n cynnig gwasanaeth lefel uchel i fudiadau o bob maint i reoli a chynnal eich portffolio ynni.

Mae Utility Aid yn cynnig archwiliad bwrdd gwaith i aelodau CGGC i ganfod unrhyw anghysondebau ar anfonebau, gan gynnwys amrywiadau defnyddio, bilio anghywir, TAW anghywir, tariff anghywir ac annormaleddau cyffredinol. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â fi (Emily Berry) (ffoniwch 0808 178 2021 neu anfonwch e-bost at eberry@utility-aid.com) neu anfonwch ymholiad atom yn www.utility-aid.co.uk/contactform/WCVA (Saesneg yn unig).

EICH HELPU AR EICH TAITH I SERO NET

Rydyn ni’n deall bod pontio i system sero net yn dasg gymhleth. Dyna pam rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o wasanaethau wedi’u teilwra i’ch cefnogi ar bob cam o’r daith. O gydymffurfio â rheoliadau i roi mesurau arbed ynni ar waith, rydyn ni yma i’ch helpu i gyflawni eich nodau sero net.

Mae ein gwasanaethau yn cynnwys:

  • Helpu mudiadau mwy o faint i fodloni gofynion adrodd – Bydd ein Gwasanaethau Prif Asesydd yn eich helpu i gydymffurfio â rheoliadau’r Adrodd Symlach ar Ynni a Charbon (SECR).
  • Datgloi cyfleoedd arbed ynni – Mae ein gwasanaethau Dogfen Datgelu cynhwysfawr yn cynnal asesiad manwl o batrymau defnyddio ynni eich mudiad ac yn helpu i adnabod cyfleoedd i arbed costau sylweddol a lleihau allyriadau carbon.
  • Rhoi arbenigedd i chi ar reoli ynni – Mae Hyfforddiant Hyrwyddwyr Ynni ein Grŵp yn grymuso eich cyflogeion i ddod yn hyrwyddwyr effeithlonrwydd ynni o fewn eich mudiad.

CYSYLLTU

Barod i ddechrau ar eich taith tuag at sero net? Cysylltwch ag Utility Aid i drafod eich anghenion penodol a sut gallwn ni eich helpu i gyflawni eich nodau cynaliadwyedd. Gyda’n harweiniad arbenigol a’n datrysiadau wedi’u personoli, gallwch leihau eich ôl troed carbon, arbed arian, a pharatoi’r ffordd i ddyfodol mwy disglair i’ch mudiad a’r blaned.

Ewch i utility-aid.co.uk (gwefan Saesneg yn unig) am ragor o wybodaeth.

CANLLAW JARGON

Diweddaraf Ebrill 2024. Mae ein canllaw jargon yn egluro rhai o’r iaith gymhleth o gwmpas ynni, sydd ar gael yn Gymraeg neu Saesneg.