Dyma Cat Miller, Pennaeth Grantiau ac Incwm CGGC, yn cyflwyno rhai pethau allweddol i aelodau CGGC eu hystyried wrth wneud ceisiadau am grantiau a gwneud y mwyaf o’r broses.
Mae gwneud cais am grantiau yn rhywbeth sy’n rhan fawr o rolau pobl o fewn y sector, boed hynny o fewn eu cyflogaeth â thâl neu eu rolau o fewn grwpiau gwirfoddol y maen nhw’n rhan ohonynt.
Gyda chyllid yn brin ac yn gystadleuol tu hwnt, mae’n bwysicach nag erioed bod ceisiadau grant yn dweud yn glir wrth y cyllidwr ar gyfer beth rydych chi eisiau’r arian a beth fydd yr effaith ar y gymuned rydych chi’n ei gwasanaethu.
Dyma rai awgrymiadau da cyn gwneud cais am grant.
CEISIWCH GAEL CYMAINT O GEFNDIR Â PHOSIBL
Darllenwch yr holl wybodaeth sydd ar gael gan y cyllidwr ac os oes cyfle i drafod eich cynnig cyn gwneud cais, achubwch ar y cyfle.
Os oes sesiynau briffio, mae’n bwysig mynd i’r rhain – dylai’r sesiynau hyn eich helpu i bennu a yw’n addas ar gyfer yr hyn rydych yn gobeithio ei gyllido ac a yw’n werth yr amser i wneud cais.
ATEBWCH BOB RHAN O’R CWESTIWN
Ar ôl darllen y canllawiau ar gyfer y cylch grant, dylai fod gennych syniad da o’r hyn y mae’r cyllidwr yn gobeithio ei weld gennych chi yn eich atebion unwaith y byddwch yn dechrau ateb y cwestiynau yn y cais.
Sicrhewch eich bod yn rhoi sylw i’r holl bwyntiau canllaw sydd ar bwys bob cwestiwn. Yn amlach na heb, bydd eich ateb yn cael ei sgorio yn erbyn y pwyntiau hyn a bydd hyn yn pennu eich safle ymhlith ceisiadau eraill a dderbyniwyd.
GOFYNNWCH I RYWUN EDRYCH AR EICH CAIS
Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich cais a chyn i chi ei gyflwyno, gofynnwch i rywun fwrw llygad drosto i chi. Dylai rhywun nad yw’n arbenigo yn y maes cyllido rydych yn gwneud cais amdano allu deall yn glir beth rydych chi’n gofyn amdano a pha effaith fydd hwn yn ei chael.
YMATEBWCH YN GYFLYM I GEISIADAU AM RAGOR O WYBODAETH
Bydd y mwyafrif o gyllidwyr yn cael staff i asesu ceisiadau a’u crynhoi er mwyn i banel annibynnol edrych arnynt. Fel arfer, bydd dyddiad cwrdd y panel wedi’i nodi yn amserlen y cylch grant.
Os bydd yr aseswr yn gofyn i chi am unrhyw eglurhad pellach, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi’r wybodaeth cyn y dyddiad cau a roddwyd. Dyma gyfle’r aseswr i roi’r darlun egluraf bosibl i’r panel o’r hyn rydych yn gofyn amdano.
Bydd yr aseswr yn gofyn cwestiynau i’w helpu i egluro i’r panel beth rydych chi’n gofyn amdano a beth fydd hyn yn eu cyflawni.
DEFNYDDIWCH HWN FEL CYFLE DYSGU
Os nad ydych yn llwyddiannus, gofynnwch am adborth – gallai fod rheswm sylfaenol pam na chafodd eich prosiect ddyfarniad, a gall hyn eich helpu i benderfynu a hoffech roi cynnig arall arni neu beidio.
MANTEISIWCH AR GYMORTH GAN Y CYLLIDWR
Os byddwch chi’n llwyddo cael grant, cadwch mewn cysylltiad rheolaidd â chyswllt prosiect eich cyllidwr. Bydd yn gallu eich cynorthwyo os na fydd pethau’n mynd fel y disgwyl ac yn eich helpu i lywio trwy unrhyw newidiadau sydd angen i chi eu gwneud.
Os nad yw pethau’n mynd fel y disgwyl, dywedwch wrth y cyllidwr, bydd ef eisiau eich helpu i wneud y gorau o’r arian a fuddsoddwyd. Bydd llawer o gyllidwyr yn ystyried sut gwnaeth eich mudiad reoli prosiect blaenorol wrth ystyried unrhyw geisiadau newydd y gallech eu gwneud.
Mae ymgeisio am gyllid yn cymryd llawer o amser felly mae’n bwysig iawn sicrhau bod yr hyn rydych yn gofyn amdano yn cyd-fynd â’r cyllid. Mae cyllidwyr eisiau cynorthwyo prosiectau i gyflawni pethau mawr ac i wneud hyn, mae angen iddynt helpu i alluogi ceisiadau gwych, felly sicrhewch eich bod yn manteisio ar yr help sydd ar gael!
RHAGOR O WYBODAETH
Am ragor o help gyda chyllid cynaliadwy ar gyfer eich mudiad, edrychwch ar yr adnoddau ar Hwb Gwybodaeth Cefnogi Trydydd Sector Cymru.
I chwilio am grantiau sy’n berthnasol i chi, ewch i’n tudalen gyllido neu cofrestrwch ar wefan Cyllido Cymru am ddim i chwilio am gyfleoedd.