‘Awesome Wales’ – dangos gwerth cymuned

‘Awesome Wales’ – dangos gwerth cymuned

Cyhoeddwyd: 02/10/20 | Categorïau: Funding, Awdur: Marc Jones

Daeth Awesome Wales o hyd yn gyflym i le iddynt eu hunain ar stryd fawr y Barri – edrychwn ar sut y bu rhedeg fel menter gymdeithasol â gwerthoedd cymunedol da yn sail i’w llwyddiant busnes, gyda rhywfaint o gymorth gan y Gronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol.

Pan mae pobl yn meddwl am gynlluniau busnes da, mae’n siŵr y byddan nhw’n meddwl am ‘Dragon’s Den’ neu ‘The Apprentice’ cyn meddwl am y sector gwirfoddol, ond mae ‘Awesome Wales’ yn dangos y gall cynllun busnes da a gwerthoedd da fynd law yn llaw â’i gilydd.

Siop a menter gymdeithasol ddiwastraff yn y Barri yw ‘Awesome Wales’ sydd wedi derbyn cyllid gan Gronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol CGGC  – eu nod yw diogelu’r amgylchedd drwy wneud eich taith siopa’n ddiblastig, heb ddeunydd pecynnu diangen, yn ogystal â sicrhau bod y cynnyrch yn cael ei greu’n foesegol ac yn gyfeillgar i’r amgylchedd.

Cafodd y cyfarwyddwyr, Amy Greenfield a Stuart Burnell, eu hysbrydoli i sefydlu’r fenter gymdeithasol wedi iddynt gael anhawster dod o hyd i gynnyrch cynaliadwy ym Mro Morgannwg a chredu bod teithio i Gaerdydd i’w gael yn mynd yn groes i’r diben.

‘Cawsom lawer o wrthwynebiad i ddechrau, pobl yn dweud na fyddai’n gweithio, na fyddai pobl y Barri eisiau siopa yn y modd hwnnw ac nad oedd ganddyn nhw’r arian ar ei gyfer, y byddai’n well yng Nghaerdydd. Ond barn hen ffasiwn o’r Barri yw hwn’, meddai Amy.

O DDIM I DDIWASTRAFF

Unwaith cafodd Awesome Wales y syniad, datblygodd pethau’n eithaf cyflym iddynt. Wedi iddyn nhw ddod o hyd i leoliad addas na allent ei golli, gwnaethant benderfynu ar eu cynllun busnes a chyflwyno’u cais i’r Gronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol. Agorodd y siop ym mis Gorffennaf 2019, chwe mis ar ôl iddyn nhw gael y syniad yn wreiddiol.

Y gwerthoedd cymdeithasol y mae eu model busnes yn seiliedig arnyn nhw yw’r hyn sydd wedi helpu i gyfrannu at eu llwyddiant hefyd, yn ôl Amy. Roedd rhedeg menter gymdeithasol yn rhoi ffocws cryf iddyn nhw, ac roedd natur y cyllid cychwynnol gan Gronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol (SBGF) a Banc Datblygu Cymru yn golygu nad oedden nhw’n dibynnu cymaint ar randdeiliaid a oedd eisiau gweld elw ar eu cyfalaf, a gallent gadw’u prisiau’n isel.

Cafodd hyn effaith ar unwaith, nid yn unig ar ‘Awesome Wales’, ond hefyd ar stryd fawr y Barri yn gyffredinol. Roedd bod yn opsiwn fforddiadwy yn ddeniadol tu hwnt i bobl leol, a gwnaeth siop gig gyfagos hyd yn oed gweld cynnydd o 40% yn ei masnach ar ôl i ‘Awesome Wales’ agor.

BUSNES DYSGU

Ac nid yn y Barri yn unig roedden nhw’n creu cynnwrf – gwnaethant argraff mor dda ar Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd, fe wnaethant ofyn i gael defnyddio cynllun busnes ‘Awesome Wales’ fel cymorth addysgu ar gyfer eu myfyrwyr.

Gan mai nhw yw Ysgol Fusnes Gwerth Cyhoeddus gyntaf y byd, roedden nhw eisiau rhoi cydwybod gymdeithasol wrth wraidd eu gweithrediadau, ac felly gwnaethant droi at ‘Awesome Wales’. ‘Roedden ni eisiau rhywbeth a oedd yn adlewyrchu synnwyr busnes da a oedd hefyd â gwerth cymdeithasol’ meddai Dr Tim Edwards, Athro Dadansoddi Trefniadaeth ac Arloesi yn yr Ysgol Fusnes.

‘Rydyn ni’n credu ei fod yn bwysig bod myfyrwyr yn cydnabod y gall busnes siarad â gwerth cymunedol yn ogystal â gwerth rhanddeiliaid. Yn syml, rydyn ni’n ceisio cyflawni gwelliant cymdeithasol ochr yn ochr â datblygu economaidd er mwyn mynd i’r afael â rhai o’r heriau mawr mewn cymdeithas gyfoes.’

Gofynnwyd i fyfyrwyr werthuso cynllun busnes ‘Awesome Wales’ a dweud beth oedden nhw’n ei feddwl ohono. Dywedodd Beth Edwards, myfyriwr yn yr Ysgol Fusnes, ‘Doeddwn i erioed wedi meddwl am rinweddau go iawn cwmni gwerth cyhoeddus a pha mor bwysig yw cwmni o’r fath i ddefnyddwyr lleol a’r economi. Gallaf ddeall pam y byddai cymuned fechan o blaid gwella ansawdd eu amgylchedd lleol a pham fod y cwmni hwn wedi ffynnu!’

ADDASU I’R NORMAL NEWYDD

Hyd yn oed gyda’r fath ymateb, gallech dybio bod fusnes fel ‘Awesome Wales’ yn frwydro yn yr hinsawdd bresennol ond maen nhw wedi ffynnu yn wyneb adfyd.

‘Rydyn ni wedi gorfod newid ein model busnes yn llwyr yn ystod y cyfyngiadau symud’ meddai Amy. ‘Roedden ni wedi bwriadu dechrau gwneud gwasanaeth cludo i gartrefi a chlicio a chasglu, ond nid oedden ni wedi bwriadu rhoi hwnnw ar waith tan yr ail flwyddyn!’

Llwyddodd y tîm i lunio gwefan newydd mewn 48 awr, a magodd ddilynwyr ar unwaith. Aeth y gwasanaeth cludo drwy’r to a diolch i’r cyfyngiadau symud, cawsant don o archebion ar-lein a aeth o bedair yr wythnos i fwy na 60 y diwrnod dros nos. Weithiau, roedd cymaint o alw, gallent ddim ond agor y wefan am archebion cludo am bedair awr cyn iddyn nhw gyrraedd eu capasiti.

Hyd yn oed gyda’r prysurdeb hwn, roedden nhw’n gwrthod mynd yn groes i’w hegwyddorion moesegol wrth gael gafael ar nwyddau – ‘byddai’n well gennym ni redeg mas o stoc nag archebu o rywle fel Amazon’ cadarnhaodd Amy, ond ni wnaeth hyn eu rhwystro.

YMATEB I’R AMGYLCHIADAU

Ar un pwynt ar ddechrau’r cyfyngiadau symud, pan sbardunwyd pobl yn genedlaethol i goginio bwyd cartref gan wacau siopau o’u cyflenwadau, nhw oedd un o’r unig siopau ledled de-orllewin Prydain a oedd ag unrhyw furum mewn stoc, a thrwy gydol hyn, gwnaethant yn siŵr eu bod yn cael cymaint â phosibl o nwyddau gan fusnesau cymdeithasol neu gwmnïau cydweithredol eraill.

Yr ymdeimlad hwn o gymuned sydd wedi gwneud eu bywydau’n haws yn ôl Amy – ‘Mae rhwydwaith o thua 300 o fusnesau cymdeithasol sy’n rhannu profiadau dysgu gyda’i gilydd, fel nad oes yn rhaid i ni wneud pob camgymeriad ein hunain.’

Dyma gryfder y dull gweithredu hwn – drwy ganolbwyntio gymaint ar yr hyn y gallan nhw eu gwneud i’w cymuned â’r hyn y gallan nhw eu gwerthu iddynt, nod ‘Awesome Wales’ yw cael y gorau o ddau fyd.

Mae’r Gronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol yn ceisio rhoi arian ar waith mewn cymunedau. Ydych chi’n credu bod gennych chi brosiect addas ar ei gyfer? Ewch yma i gael gwybod mwy.