Mae'r sylfaenwyr yn sefyll y tu allan i Awesome Wales, Siop Ddiwastraff yn y Barri

Au revoir cyllid yr UE

Cyhoeddwyd: 23/01/23 | Categorïau: Cyllid, Awdur: Alun Jones

Dyma Alun Jones, Pennaeth Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru CGGC, yn adrodd hanes stori lwyddiannus yng Nghymru a fu’n bosibl drwy gyllid yr UE.

STORI BUDDSODDIAD CYMDEITHASOL CYMRU

Mae’n deimlad trist meddwl bod ein panel gymeradwyo ar gyfer y Gronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol a’r Gronfa Datblygu Asedau Cymunedol wedi cwrdd am y tro olaf. Mae’r cynlluniau a gyflwynodd cyllid cyfunol (cymysgedd o grant a chymorth ad-daladwy) wedi dod i ben. Mae’r cyllid gan yr UE a wnaeth hyn i gyd yn bosibl wedi dod i ben.

Dechreuodd bopeth yn 2006 a dechreuodd gyda ‘Na’. Na, nid oedd CGGC eisiau rhedeg cronfa grant i fentrau cymdeithasol, ond byddai’n rhedeg cynllun benthyca i ddiwallu angen nad oedd banciau yn eu diwallu. Ac felly, esgorwyd ar y Gronfa Buddsoddi Cymunedau, gyda chefnogaeth arian Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, gan fenthyca mewn ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf yn unig.

ADEILADU AR Y BUDDSODDIAD CYCHWYNNOL

Bron 17 mlynedd yn ddiweddarach, rydyn ni yma o hyd, ac yn bwysicach oll, byddwn ni’n parhau i fod yma i wasanaethau’r sector gwirfoddol ym mhedwar ban Cymru ymhell ar ôl i gyllid yr UE ddod i ben. Rydyn ni wedi datblygu o fod yn ‘brosiect yn unig’ i fod yn Sefydliad Cyllid Datblygu Cymunedol gwbl sefydledig o dan frand Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru (SIC) sy’n cwmpasu’r amrediad cyfan o weithgareddau a gyflwynir.

Mae amrywiaeth o ffynonellau ar hyd y ffordd wedi ychwanegu at y buddsoddiad cychwynnol o £2.7 miliwn o gyfalaf i’w benthyg, ac awgryma cyfrifiad cyflym fod SIC wedi buddsoddi mwy na £30 miliwn yn y sector gwirfoddol yng Nghymru ers iddo ddechrau. Yn ystod blwyddyn gyntaf y pandemig COVID yn ei hun, dosbarthwyd £1 miliwn y mis o gyllid cyfunol drwy Gronfa Gwydnwch y Trydydd Sector fel rhan o becyn cymorth Llywodraeth Cymru i’r sector.

MEITHRIN PARTNERIAETHAU

Rydyn ni wedi gwneud rhai ffrindiau da, gan adeiladu partneriaethau ar hyd y daith, yn enwedig gyda Busnes Cymdeithasol Cymru yn asiantaeth Cwmpas. Mae’r trefniant ‘gwnewch chi’r cyngor, fe wnawn ni’r arian’ wedi’i fireinio’n dda bellach ac yn un y mae nifer dirifedi o fusnesau cymdeithasol wedi cael budd ohono.

Mae gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd, Nesta a’r Energy Savings Trust wedi ehangu’r amrywiaeth o arbenigedd sydd ar gael i’r sector. Mae ein dyled ni’n fawr i’n partneriaeth hirsefydlog â Banc Datblygu Cymru yn benodol, ac rydyn ni’n gyffrous i ddechrau ar brosiect newydd gydag Ysgol Fusnes Manceinion.

BETH SYDD WEDI’I GYFLAWNI?

Yr uchafbwyntiau? Digonedd! Er y gallai brolio bod SIC wedi ennill cynnig buddsoddiad cymdeithasol y flwyddyn ‘Social Enterprise UK’ yn 2017 (a enillwyd ochr yn ochr â’r hyn a elwir yn Platfform bellach) fod braidd yn hunanol, roedd yn teimlo fel cymeradwyaeth o bopeth roedden ni wedi bod yn ceisio’i gyflawni, a rhoddwyd amlygrwydd i SIC ar lwyfan y DU.

Ond yn bennaf, mae wedi ymwneud â’r bobl a’r hyn y maen nhw wedi mynd ymlaen i’w wneud i wella bywydau pobl eraill. Ni fyddai’n deg rhoi sylw i unigolion penodol, ond yr hyn sy’n gwneud popeth yn werth chweil yw’r ffaith bod y cyllid wedi helpu i lansio gyrfaoedd rhai arweinwyr gwirioneddol yn eu maes fel entrepreneuriaid cymdeithasol.

 

ENGHRAIFFT O’R HYN Y GALL Y DULL GWEITHREDU HWN EI WNEUD

Os oes un benthyciad sy’n crynhoi ein dull gweithredu, yr un ar gyfer yr Iorwerth Arms ym Mryngwran ar Ynys Môn yw hwnnw. Roedd yr unig dafarn yn y pentref a’r cyfleuster cymunedol olaf yno ar fin cael ei gwerthu i ddatblygwr eiddo. Roedd y gymuned leol eisiau ei hachub, ond angen amser i drefnu popeth a darbwyllo’r bragdy a oedd yn ei gwerthu eu bod nhw o ddifrif.

Llwyddasom i gadarnhau benthyciad i gwmni nad oedd yn bodoli, i brynu rhywbeth nad oeddent yn siŵr o’i faint (roedd tai allan a thir a allai neu na allai fod wedi bod yn rhan o’r cynnig) am bris nad oeddent wedi cytuno arni eto.

Gwnaeth hwnnw eu rhoi nhw ar ben ffordd a llwyddasant i ddarbwyllo’r bragdy y dylent werthu iddyn nhw. Ac mae’r gweddill, fel medde nhw, yn hanes. Yr hyn a wnaeth grynhoi hanfod buddsoddiad cymdeithasol i mi a diffinio’r hyn y mae effaith gymdeithasol yn ei olygu oedd gwylio Dafydd Iwan yn perfformio Yma O Hyd yn fyw yma i dafarn dan ei sang ryw flwyddyn yn ddiweddarach. Rydyn ni wedi cefnogi 11 o dafarndai cymunedol eraill ers hynny!

ETIFEDDIAETH WALTER DICKIE

Mae un uchafbwynt â naws o dristwch. Roedd Walter Dickie yn fancer ac yn un o ymddiriedolwr CGGC a oedd yn allweddol i sefydlu’r Gronfa Buddsoddi Cymunedau. Ef oedd cadeirydd y panel gymeradwyo tan ei farwolaeth yn 2017.

Er cof am Walter, bu modd i ni sefydlu bwrsariaeth i gynorthwyo arweinwyr yn y sector i fynd ar drywydd eu datblygiad proffesiynol a diogelu’r dyfodol ar gyfer mentrau cymdeithasol, fel yr oedd Walter yn dyheu i’w wneud. Hyd yn hyn, mae gennym bum buddiolwr o’r fwrsariaeth, a phob un ohonynt wedi’i defnyddio i ymgymryd ag amrywiaeth eang o ddysgu – mae tamaid bach o’r dyfodol yn ddiogel yn eu dwylo.

A OEDD Y RHAGLEN YN LLWYDDIANNUS?

A yw wedi bod yn llwyddiant? Un o amcanion y prosiect gwreiddiol oedd ‘helpu i addysgu’r sector mewn defnyddio cyllid ad-daladwy’. Yn ôl yn 2006, m’ond megis dechrau oedd mentrau cymdeithasol, ynghyd â darparu buddsoddiad cymdeithasol.  £30 miliwn yn ddiweddarach, teg yw dweud bod y sector yn hen law ar gyllid ad-daladwy.

BETH SY’N DIGWYDD AR ÔL CYLLID YR UE?

Y dyfodol? Nid yw’n afresymol o ddadleuol i ddweud bod y ffordd y mae cyllid ‘codi’r gwastad’ yn cael ei ddefnyddio i ddisodli arian yr UE yn annheg ar Gymru.

I SIC, mae’r cyllid tameidiog yn rhoi ei allu i ddarparu cynnig cyfwerth o’r cyllid cyfunol y mae wedi’i gael ers blynyddoedd ledled Cymru o dan fygythiad mawr. Ond yr hyn sydd gennym yw tîm profiadol o bump, yn cyflwyno gwasanaeth benthyciadau hollol ddwyieithog, sydd wrthi’n chwilio am gynigion newydd a chyffrous i fuddsoddi ynddynt.

NI YMA O HYD

Nod SIC erioed, a’i nod o hyd yw darparu ffynhonnell barhaus o gyllid i gefnogi uchelgais entrepreneuraidd y sector gwirfoddol yng Nghymru.

Gyda digonedd o arian yn y banc i’w fenthyg a dim prinder o entrepreneuriaid cymdeithasol medrus yn barod i’w ddefnyddio, ymddengys mai dyma’n gwmws beth y byddwn ni’n ei wneud am gryn amser i ddod. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb gyllid yr UE. Rydyn ni yn ei ddyled yn llwyr ac yn etifeddiaeth weladwy o’r hyn y mae’n ei adael ar ei ôl.

Diolch yn fawr iawn Ewrop.

RHAGOR O WYBODAETH

Os hoffech drafod beth allwn ni ei wneud i’ch helpu gyda’ch nodau cymdeithasol, cysylltwch â thîm Social Investment Cymru ar: 0300 111 0124 neu sic@wcva.cymru.

Gwnaethon ni ryddhau cyfres o ffilmiau byr yn ddiweddar yn amlygu’r gwaith gwych y mae mudiadau gwirfoddol wedi’i wneud gyda chyllid yr UE: