Rydym yn edrych ar sut mae gwirfoddolwyr Cydymaith Diwedd Oes ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cefnogi teuluoedd ar adeg eu hangen.
Dechreuodd y gwasanaeth gwirfoddol Cydymaith Diwedd Oes ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn union ar ddechrau’r pandemig ym mis Mawrth 2020. Cafodd cymdeithion eu recriwtio a’u hyfforddi fel eu bod yn barod i gefnogi unrhyw glaf a oedd ar ddiwedd ei oes ac mewn perygl o farw ar ei ben ei hun. Mae Cymdeithion Diwedd Oes wedi cefnogi cleifion fel cyfeillachwyr a hefyd wedi rhoi cymorth i gleifion yn ystod diwrnodau olaf eu bywydau.
Ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, cafodd y Tîm Gofal sy’n Canolbwyntio ar Unigolion gais i’r Cymdeithion Diwedd Oes gynorthwyo teulu i roi ychydig o gwmni ychwanegol i’w perthynas. Roedd aelodau’r teulu wedi llwyr ymlâdd. Roedden nhw wedi bod yn eistedd gyda’u perthynas 24 awr y dydd ac angen bwrw’u blinder. Ond nid oedden nhw eisiau gadael eu perthynas ar ei ben ei hun.
CAMU I MEWN
Gwnaeth yr Hyfforddwr Sgiliau Clinigol Diwedd Oes gwrdd â’r teulu i egluro rôl y Cydymaith. Wedyn, trefnodd i dri Chydymaith ymweld â’r claf y diwrnod canlynol fel y gallai’r teulu gael gorffwys mawr ei angen. Gwnaeth yr Hyfforddwr Sgiliau Clinigol hefyd gwrdd â staff y ward er mwyn rhoi gwybod iddyn nhw am y cymorth a oedd wedi’i roi yn ei le.
Mae’r Cymdeithion yn gwybod y gallai rhywun gysylltu â nhw ar fyr rybudd ac roedden nhw’n falch iawn o allu cefnogi’r claf a’r perthnasau. Bu farw’r claf yn dawel yn ystod un o ymweliadau’r Cydymaith, a’r peth pwysig oedd nad oedd ar ei ben ei hun, a oedd yn gysur i’r claf a’u perthnasau.
RHOI CYSUR
‘Mae’r Bwrdd Iechyd mor ddiolchgar i’n Cymdeithion Diwedd Oes sy’n darparu cwmnïaeth arbennig ac unigryw iawn yn ystod oriau ac adegau olaf bywydau pobl.’
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Ionawr 2022.
HELPLU
Mae Helplu yn gweithio gyda Cefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC a 19 Cyngor Gwirfoddol Sirol (CVCs)), Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu potensial gwirfoddoli i gefnogi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae’r dudalen Helplu ar ein gwefan yn cynnwys dolenni at erthyglau diweddar, blogiau a storïau achos.