Mae rheolwr llinell a'i gweithiwr yn rhannu coffi ac yn cael sgwrs

Arweinyddiaeth gyfunol a thosturiol mewn gofal cymdeithasol

Cyhoeddwyd: 07/11/22 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Awdur: Rebecca Cicero

Mae Rebecca Cicero, Rheolwr Datblygu a Gwella Gofal Cymdeithasol Cymru, yn siarad am bwysigrwydd arweinyddiaeth dosturiol a datblygu rhaglen traws-sector ar gyfer arweinwyr gofal cymdeithasol.

**Diweddarwyd 6 Rhagfyr 2022: Mae’r rhaglen arweinyddiaeth ar y cyd a thosturiol bellach ar agor ar gyfer datganiadau o ddiddordeb. Darganfyddwch a ydych yn gymwys trwy ddarllen y datganiad meini prawf ac e-bostiwch admin@leaderfulaction.com i gofrestru eich diddordeb.**

Efallai eich bod wedi clywed y term arweinyddiaeth dosturiol llawer yn ddiweddar. Maen nhw’n ddau air cyfarwydd, ond beth maen nhw’n ei olygu mewn gwirionedd? Yn ei hanfod, mae arweinyddiaeth dosturiol yn ymwneud â chreu diwylliant caredig a chefnogol yn ein mudiadau. Gall gweithio yn y maes gofal cymdeithasol, waeth a ydych chi’n wirfoddolwr, yn weithiwr cymdeithasol, yn weithiwr cymorth neu’n rheolwr gofal cartref, fod yn werth chweil ac yn anodd. Pan rydyn ni’n treulio ein bywydau yn cynorthwyo eraill, mae angen i ni deimlo bod rhywun yn gwrando arnom ni ac yn ein cefnogi. Dyna’n gwmws beth yw arweinyddiaeth dosturiol.

Weithiau, rydyn ni’n disgrifio ymddygiadau arweinyddiaeth dosturiol fel cwmpawd. Ein cwmpawd mewnol ein hunain yr ydym ni’n ei ddefnyddio i wirio sut rydyn ni’n arwain ac yn rheoli pobl bob dydd. Mae’r cwmpawd hwn yn cynnwys pedwar ymddygiad allweddol, sef:

  • Mynychu – i’r rheini rydyn ni’n eu harwain, mae’n golygu bod yn bresennol gyda nhw. Mae’n gofyn i ni ‘wrando â diddordeb’ ar y rheini rydyn ni’n eu harwain.
  • Helpu – sicrhau bod llwybr da gan y rheini rydyn ni’n eu harwain i gyflawni eu nodau drwy gael gwared â’r rhwystrau neu roi’r adnoddau a’r cymorth i’w helpu i ddarparu gofal o ansawdd uchel.
  • Deall – mae hwn yn ddibynnol ar wrando’n astud. Mae’n gofyn i ni roi o’n hamser i wrando er mwyn deall yr heriau sy’n wynebu’r rheini rydyn ni’n eu harwain yn eu gwaith.
  • Dangos empathi – Teimlo straen, poen, gorbryder a rhwystredigaeth y rheini rydyn ni’n eu harwain heb gael ein llethu gan y teimladau hynny. Mae hyn wedyn yn ysgogi arweinwyr i helpu neu wasanaethu’r rheini rydyn ni’n eu harwain.

PAM MAE ARWEINYDDIAETH DOSTURIOL YN BWYSIG

Pam mae’n bwysig felly? Bydd rheolwr da, cefnogol a thosturiol yn cael effaith bositif ar lesiant ei staff. Rydyn ni’n fwy tebygol o ddal ati i weithio i fudiad sy’n ein gwerthfawrogi ac yn ein cefnogi. Ond mae’n fwy na hynny. Mae’r ffordd rydyn ni’n teimlo yn y gwaith yn cael effaith uniongyrchol ar y bobl rydyn ni’n eu cynorthwyo. Rydyn ni’n rhoi gofal o ansawdd gwell i bobl eraill pan rydyn ni’n teimlo ein bod yn cael ein gwerthfawrogi a bod rhywun yn gofalu amdanom ni.

Ac os ydych chi’n rheolwr, mae hyn yn berthnasol i chi hefyd. Mae angen i ni ofalu am ein hunain ac ymarfer hunan-dosturi. Dim ond bodau dynol ydyn ni ac mae angen i ni fod yn fwy caredig i ni’n hunain.

Mae wedi bod yn gwpwl o flynyddoedd anodd i ni i gyd. Rydyn ni i gyd yma am ein bod eisiau helpu pobl i fyw’r bywyd gorau y gallant, i wneud yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw. Mae’r trydydd sector a’r sector gwirfoddol yn ddarn allweddol o’r jig-so gofal cymdeithasol. Rydyn ni’n sector cymhleth, gyda llawer o wahanol bobl, gwasanaethau a mudiadau. Yr hyn sy’n ein clymu at ein gilydd yw ein gwerthoedd a’n gweledigaeth gyfunol. Er mwyn helpu i gefnogi hynny, rydyn ni’n datblygu rhaglen arweinyddiaeth newydd, sy’n canolbwyntio ar werthoedd arweinyddiaeth dosturiol.

EIN RHAGLEN ARWEINYDDIAETH NEWYDD

Mae’r rhaglen newydd hon wedi’i hanelu at uwch-arweinwyr yn y maes gofal cymdeithasol, er mwyn helpu i adeiladu arweinyddiaeth gyfunol a thosturiol yn y sector. Mae’r rhaglen wedi’i thargedu at

  • Penaethiaid gwasanaethau cymdeithasol mewn awdurdodau lleol
  • Rolau uwch yn y sector gwirfoddol a’r trydydd sector, fel rheolwyr gweithredol rhanbarthol neu ddirprwy gyfarwyddwyr

Mae’r rhaglen wedi’i hanelu at y rheini â chymysgedd o gyfrifoldebau strategol, fel gweithredu polisïau, strategaethau a deddfwriaeth, a chyfrifoldeb gweithredol dros arwain nifer o wahanol dimau neu wasanaethau yn y maes gofal cymdeithasol.

Yn y trydydd sector neu’r sector gwirfoddol, gallai hyn fod yn rheolwr gweithredol rhanbarthol, yn gyfarwyddwr neu’n brif weithredwr neu ei ddirprwy. Os ydych chi’n gyfrifol am weithio gydag awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaeth gofal cymdeithasol, gan gynnwys gwasanaethau ataliol, yna mae’r rhaglen hon i chi.

BETH MAE’R RHAGLEN YN CEISIO’I CHYFLAWNI

Diben y rhaglen yw:

  • Rhoi cyfleoedd i uwch-arweinwyr weithio gyda’i gilydd ar draws ffiniau
  • Cynorthwyo arweinwyr i ddeall a datblygu eu dulliau arwain

Nodau’r rhaglen yw

  • Gwell ymwybyddiaeth a mewnwelediad o rolau ar draws y sector
  • Dysgu a rhannu o ymarfer
  • Cefnogi a datblygu cydberthnasau ymhlith uwch-arweinwyr
  • Dealltwriaeth a gweledigaeth gyfunol o ran egwyddorion arweinyddiaeth dosturiol
  • Mwy o wydnwch mewn rolau arweinyddiaeth uwch

DYWEDWCH WRTHYM NI’R HYN RYDYCH CHI EI ANGEN O RAGLEN FEL HON

Byddem yn croesawu safbwyntiau unrhyw un a all fod yn gymwys i ddilyn y rhaglen, neu’n rheoli pobl a all fod yn gymwys, ar yr hyn a fyddai’n gweithio orau. Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod y rhaglen hon yn berthnasol i chi, felly rydyn ni’n gwerthfawrogi eich barn yn fawr iawn.

Gallwch rannu eich sylwadau ar ein harolwg (Saesneg yn unig). Fel arall, gallwch chi ymuno â ni am weithdy ar-lein i helpu i lunio’r rhaglen ar 23 Tachwedd 2022 rhwng 1pm – 2.30pm.

Felly gadewch i ni barhau i weithio gyda’n gilydd i wireddu hyn, i sicrhau bod pob gweithlu yn teimlo’n ddiogel, yn groesawgar ac yn ofalgar. Rydych chi’n cael eich gwerthfawrogi ac rydych chi’n bwysig.

RHAGOR O WYBODAETH

Os nad ydych chi’n siŵr a yw’r rhaglen yn addas i chi, cysylltwch â ni am sgwrs drwy anfon e-bost at kimdarkin@leaderfulaction.com neu rebecca.cicero@socialcare.wales.

Gallwch ddarllen mwy am arweinyddiaeth dosturiol yma.