Isla Horton o Grow Cardiff oedd derbynnydd Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie yn 2018. Yma, mae hi’n trafod ei diffiniad o arweinyddiaeth mentrwr a pham y dylech gymryd eich datblygiad arweinyddiaeth personol o ddifrif.
Mae fy merch ar fin dechrau ym mlwyddyn 7, felly dros y flwyddyn ddiwethaf yr wyf wedi defnyddio fwy na un noswaith yn archwilio ein hysgolion uwchradd lleol.
‘Ai chi yw’r Steve Jobs nesaf?’
‘Fedrwch chi ddyfeisio’r Dyson nesaf?’
Rhain oedd y cyfarchion rheolaidd y cawsoch wrth gerdded drwy ddrysau’r ysgolion, wedi eu gludo ar eu nenfydau a’u grisiau. Yr alwad entrepreuneriadd.
Pan welais fod Bwrsariaeth Arweinyddiaeth Walter Dickie wedi ei dylunio i ddatblygu arweinyddiaeth ‘entrepreuneraidd’, meddyliais gyntaf nad oedd ar fy nghyfer i, a fu bron i mi beidio ymgeisio.
Y arweinydd entrepreneuraiff oedd yn fy meddwl oedd Richard Branson, Elon Musk – cymryd risgiau ac yn adeiliadu eu ymerodraethau busnes, yn deffro am 5yb ar eu hynysoedd preifat ac yn hedfan o amgylch y byd.
Yna roeddwn innau. Gan amlaf rwy’n lwcus os gallaf gael y plant i’r ysgol ar amser, fod gennym ddillad isaf glan, ac nad oes neb wedi marw cyn 9yb.
Ond ydym ni’n entrepreuneriaid hefyd?
Os ydych yn gweithio yn y sector wirfoddol, mae hi’n debygol iawn eich bod yn gyfarwydd iawn gydag ymgeisio am grantiau, bwrsariaethau, benthyciadau, cyllid sbarduno ar gyfer syniadau mentrau cymdeithasol – cyflwyno’r achos dros eich prosiect neu eich achos.
A beth yw hyn os nad yw’n entrepreneuriaeth? Siapio’ch achos i ennill eich plwy mewn diwydiant hynod gystadleuol – llawer o fudiadau gyda phrosiectau gwych oll yn ymgeisio am y cyllid o’r un gronfa.
Ac os yw bwrsari Walter Dickie yn gronfa ar gyfer prosiectau, tybiais hefyd y byddai hwnnw hefyd yn cael ei orddefnyddio – ond roeddwn wedi fy synnu i ddeall nad oedd hyn yn wir, roedd yn gwbl groes.
Efallai fatha mi, nid oes llawer o arweinwyr mudiadau gwirfoddol yn gweld eu hunain fel entrepreneuriaid.
Tybiaf mai’r prif reswm yw eich bod yn meddwl am y bobl, lle neu efallai anifeiliaid sydd yn eich gofal fel arweinydd eich mudiad yn gyntaf oll. Eu gweld hwy yn ffynnu yw eich achos dros godi yn y bore – ac mae hynny ddigon teg.
Mae sicrhau cyllid a chefnogi’r rhai sydd angen eich prosiect, eich staff a’ch gwirfoddolwyr a delio gyda’r holl heriau annisgwyl sy’n dod i’r amlwg ac nad oeddynt ar y rhestr i’w gwneud… wel mae hynny’n ddigon o bethau i ddelio gyda hwy.
Efallai y byddwch yn cymryd diwrnod neu ddwy flynedd i hyfforddi, ond rwy’n tybio bod buddsoddi go iawn yn eich datblygiad proffesiynol ar waelod eich rhestr o bethau i’w gwneud.
Wel, dyna oeddwn i yn yr hydref llynedd. Roedd yn teimlo bron yn hunanol i feddwl beth y gallwn ei wneud gyda Bwrsariaeth Arweinyddiaeth Walter Dickie.
Ac os mai felly ydych chi, wel gellaf eich annog i bwyllo ac ailystyried, i fentro i freuddwydio beth gallwch chi ei wneud i wella’ch gallu i arwain yn effeithiol gyda £2,500.
Buddsoddwch yn eich hun
I mi mae’r amser i ddatblygu fy ngallu arweinyddiaeth wedi bod yn anadl o awyr iach.
Mae wedi rhoi’r cyfle gwych i mi i deithio i Montreal, Canada ble mae tyfu yn gymunedol ugain i ddeg ar hugain mlynedd ar ein blaenau ni yma yng Nghymru.
Mae rhywbeth ynghylch gweld pobl yn goresgyn rhwystrau yr ydych yn eu hwynebu naw, sy’n gwneud i chi greu y gellir gwneud hynny, ac y gallaf i fod yr un i’n harwain ni i wneud hynny.
Roedd 10 diwrnod ar fy mhen fy hun yn Montreal yn antur lwyr, ac wedi fy nhaflu yn llwyr o’m cylch cysur. Yn ddeffroad ac yn ysgytwad i be all Grow Cardiff fod.
Mae’n amlwg i mi fod buddsoddi yn eich hun fel arweinydd yn fuddsoddiad i’ch prosiect a’ch mudiad.
Rwyf wedi ymweld â phrosiectau gwych, wedi cyfarfod â phobl ysbrydoledig, – pobl ifanc – wedi herio fy ffordd o feddwl dro ar ôl tro, ac wedi profi hapurwydd annisgwyl hefyd – cellwair gyda Jesuitiaid ynghylch Mrs Brown’s Boys, gwylio morfilod, gwerthin gyda gwleidyddion ffeministaidd.
Ceifais rhai dyddiau o brysur bwyso hefyd – criais o ddifrif a chael amser angenrehdiol i feddwl am bwy oeddwn i bellach, fy nheulu a beth sydd wirioneddol yn bwysig.
Ond ar gyfer beth oedd hyn oll? Wel rwyf wedi dod â synnwyr ffres o beth sy’n bosib a faint yn fwy sy’n cael ei gyflawni pan rydym yn gweithio gyda’n gilydd mewn partneriaeth weithredol – dim cystadleuaeth – gyda mudiadau eraill.
Camau nesaf
Rhan yn unig o’r daith oedd Canada. Yn defnyddio gweddill y bwrsari, byddaf yn teithio i astudio yn Thrive, canolfan rhagoriaeth garddwriaethol therapiwtig – i ddysgu ac enill sgiliau o’r newydd – rhywbeth na fyddai fy mudiad fel arall yn gallu fforddio galluogi i mi ei wneud.
Felly os ydych mewn rôl arweinydd yn eich mudiad, rwyf wirioneddol yn eich gwahodd i ystyried o ddifrif i ymgeisio am fwrsari Walter Dickie ac i rannu’r cyfle hwn gyda’ch cydweithwyr a’ch partneriaid mewn mudiadau eraill.
Dolen berthnasol: mae Bwrsari Walter Dickie yn cymryd ymgeisiadau nawr – buddsoddwch yn eich sgiliau arweinyddiaeth.
(Hyd yn hyn dim ond dau fudiad yng Nghaerdydd sydd wedi ei dderbyn – efallai ei fod yn gyfle iddo ddod am y gogledd!)
Mae’r broses ymgeisio ei hun yn hawdd iawn ac ni ddylai gymryd fwy nac ychydig o oriau i’w gwblhau.
Dywedodd y tîm yn CGGC wrthaf yn y ddwy flynedd, mai’r pobl sydd wedi derbyn y bwrsari yw’r rhai sydd wedi gwneud galwad. Ffoniwch dîm Buddsoddi Cymdeithasol Cymru yn CGGC cyn ymgeisio ar 0300 111 0124 i drafod y broses.
Cymrwch amser i feddwl am yr hyn yr ydych wirioneddol eisiau ei wneud gyda’r cyfle, hogwch y syniad, siaradwch gyda’ch cyflogwr neu eich bwrdd, i gael eu cefnogaeth – ac ewch ati i ysgrifennu.
Nid oes unrhyw gwestiynau i’ch baglu ac unrhyw gyfyngiadau geiriau hurt o fach, ysgrifennwch fel y mynnwch ac ystyriwch yr hyn gallwch ei gyflawni.
Weithiau’r hyn sy’n ein dal yn ôl fwyaf ydym ni ein hunain
Ac yn ôl i’r negeseuon hynny ar risiau a nenfydau’r ysgol uwchradd.
Efallai nad wyf yr un fath â Steve Jobs neu Elon Musk, neu yn wir Richard Branson, ond roed un dyfyniad a oedd yn cyseinio â mi – rhywbeth a ddywedodd Oscar Romero, offeiriad catholig o El Salvador. Rhoddodd ei fywyd i frwydro dros y tlawd a’r rhai ar yr ymylon ac fe’i merthyrwyd yn y diwedd am wneud hynny.
‘Aspire not to have more, but to be more.’ Dyna’r math o arweinydd yr wyf i eisiau bod ac annog eraill i fod – ac mae’r bwrsari hwn yn gam i’r cyfeiriad cywir.
Mae Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie bellach ar agor.
Cyn ymgeisio, rydym yn awgrymu eich bod yn cael sgwrs anffurfiol ynglŷn â’r broses gyda Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru drwy ebostio sic@wcva.cymru neu ffonio 0300 111 0124.
Mae’r rownd yn cau ar 18 Hydref 2019.