Mae’r Grantiau dan arweiniad Ieuenctid (YLG) yn galluogi pobl ifanc i ddatblygu sgiliau a chael profiad. Siarada Harshdeep Kaur, Cadeirydd ac aelod o Banel Grant dan arweiniad Ieuenctid Caerdydd, am ei phrofiad gwirfoddoli.
Mae gwirfoddoli wedi cael effaith ddofn arnaf i fy hun ac ar bobl eraill. Ymunais i ddechrau fel Panelwr Grant dan arweiniad Ieuenctid, a chefais fy mhenodi’n gyflym fel y cadeirydd, a oedd yn hwb fawr i’m hyder. Trwy’r profiad hwn, bu modd i mi nid yn unig fireinio fy sgiliau rhwydweithio, ond hefyd ddatblygu galluoedd cyfathrebu hanfodol, yn enwedig llywio drwy’r gwahaniaethau diwylliannol, fel rhywun a ddaeth o India i wlad newydd. Mae’r Grantiau dan arweiniad Ieuenctid (YLG) yn galluogi pobl ifanc i ddatblygu sgiliau a chael profiad o arweinyddiaeth ieuenctid drwy ymuno â phaneli llunio grantiau ac arwain prosiectau lleol.
O WIRFODDOLI I GYFLOGAETH
Yn y pen draw, gwnaeth y daith wirfoddoli hon fy arwain i gael gwaith gyda Chyngor Trydydd Sector Caerdydd (C3SC) fel Swyddog Cymorth Datblygu Cymunedol. Mae fy rôl yn cynnwys cynorthwyo’r tîm i gyflawni’r agenda iechyd, gofal cymdeithasol a lles o fewn C3SC, gwneud cysylltiadau a chefnogi gweithgareddau sy’n galluogi a hybu’r sector gwirfoddol a’i rôl mewn darparu gwasanaethau a gweithgareddau lleol.
Ynghyd â hyn, rwy’n gweithio gyda thîm bach, amrywiol i ddatblygu gwasanaethau mwy hygyrch a chynhwysol sy’n seiliedig ar le yn y sector gwirfoddol, cymunedol a mentrau cymdeithasol (VCSE) er mwyn gwella iechyd a lles yn y gymuned leol.
Yn bersonol, mae gwirfoddoli wedi fy ngweddnewid. Mae wedi rhoi cyfleoedd i mi dyfu a datblygu sgiliau amhrisiadwy yn fy myd proffesiynol a phersonol. O wneud penderfyniadau i arweinyddiaeth, mae pob agwedd ar wirfoddoli wedi cyfrannu at fy nhwf personol, ond mae’r effaith yn ymestyn ymhell y tu hwnt i fi fy hun.
GRYMUSO POBL IFANC I HYBU NEWID
Fel cadeirydd, cefais y fraint o ddadansoddi ceisiadau a chymeradwyo cyllid ar gyfer prosiectau dan arweiniad ieuenctid. Mae gweld y newid go iawn y mae’r prosiectau hyn yn ei gyflwyno i gymdeithas a’r cyfleoedd y maen nhw’n eu rhoi i bobl ifanc yn rhoi ymdeimlad cryf o fodlonrwydd. Mae’n bleser gweld unigolion ifanc yn ffynnu ac yn cyfrannu’n bositif at eu cymunedau drwy’r cymorth rydym ni’n ei ddarparu.
Trwy gymryd rhan mewn sesiynau tiwtora drwy fudiadau fel ‘Teaching Personnel’, gwelaf gyfle i fynd ati’n uniongyrchol i gymhwyso’r sgiliau a’r gwerthoedd rwyf wedi’u hennill drwy wirfoddoli. Mae gweithio gyda myfyrwyr o gefndiroedd ac amgylcheddau dysgu amrywiol wedi caniatáu i mi gael effaith ystyrlon, ynghyd â rhoi profiad a mewnwelediadau amhrisiadwy i mi ddilyn fy mreuddwyd o fod yn ddarlithydd.
CYMRYD RHAN
Eisiau ymuno ag Arsha ar Banel Grantiau dan arweiniad Ieuenctid Caerdydd? Mae C3SC yn recriwtio panelwyr newydd ac yn awyddus i weld ceisiadau gan bobl ifanc yng Nghaerdydd sy’n frwd am weithredu cymunedol! I wneud cais am le ar Banel YLG Caerdydd neu os hoffech wybod mwy am y Grantiau dan arweiniad Ieuenctid yn eich ardal leol, cysylltwch â’ch Cyngor Gwirfoddol Sirol (CVC) lleol – gellir gweld y rhestr lawn o CVCs yng Nghymru yn https://thirdsectorsupport.wales/cy/cysylltwch-a-ni/.