Yn dilyn ein digwyddiad diweddar, ‘Arwain mewn Argyfwng: Cefnogaeth gan Gymheiriaid, mae Alison Pritchard, Pennaeth Cymorth, yn myfyrio ar drafodaethau ac yn rhannu awgrymiadau da ar gyfer cynnal llesiant yn ystod argyfwng.
SEICOLEG ARWEINYDDIAETH MEWN ARGYFWNG
Rydyn ni’n ddigon ffodus yn CGGC i gael Prif Weithredwr sy’n siŵr o’i phethau pan ddaw hi i seicoleg a lles meddyliol. Mae gan Dr Lindsay Cordery-Bruce, i roi ei theitl llawn iddi, Ddoethuriaeth mewn Seicoleg Gymhwysol.
I ni, mae hyn yn golygu llawer o sgyrsiau mewnol am amgylcheddau a hysbysir gan seicoleg (yn aml mewn gwasanaethau tai a digartrefedd ond yn gymwys ym mhob gweithle), gwybodaeth emosiynol a, wel, gwenyn.
I’r rheini ohonoch a allodd ymuno â ni am y digwyddiad Arwain mewn Argyfwng, gwnaeth hyn olygu cwrs carlam mewn elfennau o’n seicoleg sy’n hysbysu sut rydyn ni’n ymdrin ag argyfyngau. Dyma rai o’r prif bwyntiau a gafodd sylw:
- Mae pobl sy’n gweithio mewn galwedigaethau gofalu ac elusennau yn debygol o fod wedi cael profiad o angen yn gynnar yn eu bywydau, ac mae hyn yn llywio’r ffordd y maen nhw’n ymdrin â phethau yn eu gwaith.
- Rydyn ni’n gallu ail-fframio’r ffordd rydyn ni’n meddwl am rywbeth – gallwn ni ddewis pa ystyr i’w gymhwyso. Gallwn ni benderfynu a yw rhywbeth yn argyfwng personol neu’n her y byddwn yn ei datrys.
- Gallwn ni newid sut rydyn ni’n ymateb i argyfwng o’n blaen ni.
- Gall bod mewn cyflwr *ymladd, ffoi neu rewi am rhy hir (er enghraifft, ers Mawrth 2020!) arwain at bethau fel cystadleuaeth wenwynig a *gorflinder tosturiol.
- Gall dadsensiteiddio, dod yn llai emosiynol ymatebol i rywbeth dros amser am eich bod yn wynebu’r un sefyllfaoedd dro ar ôl tro, sleifio i fyny arnom ac effeithio ar sut rydyn ni’n ymateb i sefyllfaoedd.
- Mae’r *Theori Polyvagal yn edrych ar sut mae ein cyrff yn gweld bygythiadau ac yn ymateb. Gallwn ni ddefnyddio’r wyddor hon i ddysgu bod yn ddigynnwrf a theimlo’n ddiogel.
AWGRYMIADAU LINDSAY
Gwnaethom ni hefyd glywed rhai awgrymiadau da gan Lindsay a rhai gan arweinwyr eraill yn yr ystafell:
- Ewch ati i ymarfer hunan-dosturi, byddwch mor garedig i’ch hun ag ydych chi i’r rheini o’ch cwmpas.
- Bwytewch yn iawn – bwydwch eich ymennydd â’r cemegau sydd ei angen arno er mwyn bod yno i bawb arall.
- Mae angen bod yn bengaled, neu’n ‘badass’ fel medde Lindsay; llenwch y lle a bod yn feiddgar ‘.
- Ail-fframiwch y meddyliau negyddol a thrafferthus hynny.
- Mae angen i chi ‘wybod beth sydd gennych, gweld beth allwch chi ei wneud, gwneud beth allwch chi. A chael digon o gwsg!’
- Peidiwch â cholli golwg o bwy ydych chi y tu allan i genhadaeth yr elusen.
- Ewch ati i ymarfer bod yn ddiolchgar – hyd yn oed os mai dim ond tri pheth bach y diwrnod i gadw’r pethau positif ar flaen eich cof hefyd.
- Myfyrio, ioga, cerdded – rhywbeth i chi’ch hun i feddwl a theimlo.
CEFNOGAETH GAN GYMHEIRIAID – RHANNU’R BROBLEM, RHANNU’R BAICH…
Nid yw rhannu’r broblem o reidrwydd yn rhannu’r baich, ond mae’n gwneud i chi sylweddoli nad ydych chi ar eich pen eich hun o ran sut rydych chi’n teimlo amdani.
‘Mae’n help mawr i glywed pobl eraill yn cyfleu’r un teimladau – mae’n ein hatgoffa nad ydyn ni ar ein pen ein hunain.’
Roedd cysylltu ag eraill yn thema go iawn drwy gydol y trafodaethau. Roedd yn amlwg fod cysylltu â chyfoedion, hyd yn oed ar Zoom, yn helpu’r rheini a oedd yn bresennol i ymdrin â sefyllfaoedd y maen nhw’n eu hwynebu. Nododd un mynychwr:
‘Diolch bois…wrth foddi rydych chi’n rhoi’r geiriau i mi am sut rydw i’n teimlo!’
FFYNONELLAU O GYMORTH
Dyma rai o’r ffynonellau o gymorth y gwnaethon ni eu trafod:
- Bydd CGGC yn rhedeg mwy o ddigwyddiadau rhwydweithio i arweinwyr ac aelodau wrth fynd ymlaen. Cadwch lygad ar ein cylchlythyr wythnosol am fanylion digwyddiadau newydd.
- Mae’r Cynghorau Gwirfoddol Sirol (CVCs) hefyd yn rhedeg rhwydweithiau ar lefel sirol. Gallwch ddod o hyd i’ch CVC lleol a’u manylion cyswllt ar Hwb Gwybodaeth Cefnogi Trydydd Sector Cymru (TSSW).
- Mae gan yr Hwb Gwybodaeth ardal Eich Rhwydwaith hefyd – lle i chi gysylltu â chymheiriaid o bob rhan o Gymru, naill ai o dan faner pynciau penodol (cyllid, llywodraethu, gwirfoddoli, diogelu ac ati) neu’n gyffredinol.
- Dechreuwch eich grŵp cefnogaeth gan gymheiriaid eich hun! Dechreuwyd trafod digwyddiadau rhwydweithio fel ‘Coctêls a Chawlach’ yn y cyfarfod – byddai CGGC a TSSW yn hapus i hybu digwyddiadau sy’n cael eu trefnu yn y gofod hwn.
BETH ARALL ALLWN NI EI WNEUD AMDANO?
Ystyriwch gael cwnsela neu therapïau tebyg fel therapi gwybyddol ymddygiadol i helpu i ryddhau eich hun o batrymau meddwl negyddol a meddylfryd ymladd neu ffoi:
- Mae RCS yn cynnig cymorth, hyfforddiant a therapïau wedi’u personoli i helpu pobl a busnesau ym mhob cwrs o Gymru i wella eu llesiant ar gyfer gwaith.
- Rydyn ni wedi comisiynu Platfform i gynnig cwnsela a gwasanaethau cymorth eraill i bobl sy’n gweithio yn y maes diogelu ac mewn amgylcheddau diogelu uchel. Daw hyn diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru a gellir eu cael am ddim.
- Edrychwch beth sydd ar gael drwy unrhyw gynllun cymorth iechyd yn y gweithle sydd gennych ar waith (dylai arweinwyr ystyried y buddsoddiad hwn os nad oes gennych chi un ar waith ar hyn o bryd).
- Dewch o hyd i gymorth preifat drwy *Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain.
Chwiliwch am goetsiwr neu fentor i roi lle i chi leisio eich teimladau a’ch helpu chi i weithio trwy eich heriau proffesiynol:
- Gofynnwch i rywun yn eich rhwydwaith i fod yn fentor i chi
- Mae Academi Wales yn cynnig gwasanaethau coetsio a mentora, sydd ar gael i bobl sy’n gweithio mewn elusennau cofrestredig
- Chwiliwch am goetsiwr proffesiynol
Ewch ati i ddarllen. Mae Lindsay wedi awgrymu’r ‘llyfrau dewr i arweinwyr dewr’ canlynol:
- Everything is F*cked collection – Mark Manson
- My 31 Practices: release the power of your values for authentic happiness – Alan Williams ac Alison Whybrow
- Beyond collaboration overload – Rob Cross
- Drive: the surprising truth behind what motivates us – Daniel H. Pink
- Stolen focus: why you can’t pay attention – Johann Hari
- I thought it was just me (but it isn’t) – Brené Brown
- Dare to lead – Brené Brown
- The gifts of imperfection – Brené Brown
CADW MEWN CYSYLLTIAD
Byddwch ymhlith y cyntaf i wybod am ddigwyddiadau a chyfleoedd hyfforddi eraill gan CGGC drwy gofrestru i fod ar ein rhestr bostio.
*Saesneg yn unig