Yn 2021, comisiynodd CGGC yr Arolwg Incwm cyntaf ar gyfer y Sector Gwirfoddol i ganfod mwy am y dirwedd codi arian ar draws mudiadau gwirfoddol yng Nghymru. Yma, mae’r Rheolwr Cyllid Cynaliadwy, Alison Pritchard, yn ystyried canfyddiadau’r adroddiad.
Cafodd yr adroddiad ei ymchwilio a’i gwblhau gan Richard Newton Consulting.
PAM MAE CODI ARIAN YN BWYSIG?
Yn hanesyddol, mae sector gwirfoddol Cymru wedi dibynnu ar grantiau. Fel merch radd yn ystod cwymp ariannol 2008/9, gallaf dim ond gwrando’n geg agored wrth i gydweithwyr ddweud wrthyf am yr “oes aur” pan oedd arian yn llifo i mewn i’r sector ar ddechrau’r ganrif hon.
Fodd bynnag, mae’r dyddiau hynny wedi hen fynd heibio ac nid ydynt yn debygol o ddychwelyd. Er bod mwy o gyllidwyr yn edrych nawr ar sut gallant gadw’r hyblygrwydd y gwnaethant ei ddangos yn ystod y pandemig, mae’r grantiau anghyfyngedig dyheuedig (Saesneg yn unig) (sy’n siŵr o gael eu defnyddio amlaf i dalu costau fel rhent a chyflogau nad ydynt yn rhan o brosiect) yn parhau i fod yn anodd dod o hyd iddynt. Gellir dadlau mai’r ffordd orau o sicrhau incwm anghyfyngedig yw drwy godi arian; pan mai chi sy’n pennu beth ellir gwario’r arian arno.
Mae incwm misol o unigolion sy’n rhoi drwy ddebyd uniongyrchol yn ddibynadwy mewn modd nad yw’n wir am grantiau. Gall cymynroddion gyflwyno chwistrelliadau o arian a all arwain at wasanaethau newydd sbon (Saesneg yn unig) a gall nawdd arwain at gydberthnasau blynyddoedd o hyd â busnesau a all gynnig pob math o gyfleoedd a gwerth ychwanegol.
Mae codi arian yng Nghymru yn werth mwy na £550,000,000 i’n cymunedau a’n buddiolwyr.
Ac eto i gyd, rydyn ni’n gweld dro ar ôl tro pa mor gyndyn mae mudiadau i fynd ati’n wirioneddol i fuddsoddi amser, pobl ac adnoddau ariannol mewn cynhyrchu incwm gwirfoddol (incwm a roddir i chi’n wirfoddol, yn hytrach nag incwm yn gyfnewid am nwyddau, gwasanaethau neu gyflenwi gwasanaeth).
PAM WNAETHOM NI’R GWAITH YMCHWIL
Yn adroddiad Cyllid Cynaliadwy ar gyfer y Trydydd Sector 2019, gwnaethom ymrwymo i gael dealltwriaeth well o fudiadau gwirfoddol yng Nghymru a’u hincwm. Daw’r rhan fwyaf o’r wybodaeth am incwm y sector gwirfoddol o adroddiadau blynyddol a gyflwynir i’r Comisiwn Elusennau. Ond nid yw’r wybodaeth hon yn cynnwys microelusennau nad ydynt yn gorfod cwblhau datganiadau blynyddol, ac nid yw’n rhoi llawer o fewnwelediad i sut mae mudiadau gwirfoddol yn codi arian drwy ddulliau codi arian mwy “traddodiadol” fel digwyddiadau, rhoddion gan unigolion a nawdd.
Bydd cael darlun mwy eglur a manwl o incwm sector gwirfoddol Cymru drwy’r arolwg yn:
- Cynyddu’r ddealltwriaeth gyfredol o ba mor gyffredin yw ffrydiau incwm a dulliau codi arian gwahanol
- Rhoi mewnwelediad i fudiadau gwirfoddol a’u codwyr arian, lle y bo’n berthnasol, i ble i fuddsoddi adnoddau hanfodol er mwyn cynhyrchu incwm, ac yn
- Rhoi sylfaen i CGGC a chyrff seilwaith a chymorth eraill gynllunio a chynnig cymorth priodol i helpu mudiadau gwirfoddol i arallgyfeirio eu gweithgareddau cynhyrchu incwm.
YR HYN A GANFUOM NI
Yn ogystal â diffinio gwerth codi arian yng Nghymru, gwnaeth yr adroddiad nodi bod llawer o wahaniaethau a heriau ar draws y sector gwirfoddol yn gyffredinol a rhwng gwahanol is-sectorau (er enghraifft, celfyddydau, addysg a gofal cymdeithasol) a allai, pe bai nhw’n cael sylw, arwain at fwy fyth o incwm codi arian i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru.
Gwnaeth yr adroddiad ddangos elw clir ar fuddsoddiad o ran codi arian. Mae hyn yn cadarnhau i ni – CGGC, y cynghorau gwirfoddol sirol a chyrff cymorth eraill (Fel Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, y Rheoleiddiwr Codi Arian, y Sefydliad Siartredig Codi Arian a Sefydliad Cymunedol Cymru, ymhlith eraill) – fod cymorth o ansawdd o ran codi arian yn hanfodol os ydyn ni am sicrhau y gall mudiadau fod yn hyderus ynghylch eu dyfodol hirdymor ac ynghylch eu cyfraniad at lesiant cymunedau yng Nghymru.
Amlinellir fersiynau cryno o argymhellion yr adroddiad isod:
- Mae angen ennyn dealltwriaeth ehangach o ran codi arian, gan ei gyflwyno fel un o swyddogaethau hanfodol mudiadau’r sector gwirfoddol, ac nid fel gweithgaredd i godwyr arian yn unig.
- Wrth ddatblygu dealltwriaeth ehangach o rym codi arian, mae angen gwneud gwaith gyda chynllunwyr gwasanaethau a chomisiynwyr i ddeall gwerth codi arian a’r rôl y mae’n ei chwarae o ran gwella bywyd y cyhoedd a chymunedau, sy’n aml yn ychwanegu ansawdd at wasanaethau statudol.
- Dylid ystyried cymorth dechrau codi arian i fusnesau bach a allai fel arall ei chael hi’n anodd cymryd y camau cyntaf i ddechrau codi arian.
- Rhaid i gynllunio a datblygu’r gweithlu fod yn brif flaenoriaethau i fudiadau sy’n codi arian. Wrth gynllunio’r gweithlu, mae angen sefydlu codi arian fel opsiwn gyrfaol hyfyw a chyfiawn.
- Rhaid i gyrff seilwaith a chyllido ledled Cymru ddod ynghyd i ddiwallu anghenion unigryw mudiadau gwirfoddol bach, sy’n dweud eu bod angen mwy o gymorth ond ddim yn manteisio arno.
- Dylai cyllid fod ar gael i gefnogi datblygiad codwyr arian a sgiliau codi arian, dros nifer o flynyddoedd,, er mwyn galluogi mudiadau i wireddu buddion ariannol a buddion eraill gweithlu codi arian medrus.
- Rhaid i’r sector hefyd ystyried sut mae’n diwallu anghenion elusennau iaith Gymraeg yn benodol.
- Mae angen cymorth a chymhelliant ar fudiadau sydd wedi cofrestru y tu allan i Gymru i ddiffinio’r incwm gwirfoddol y maen nhw’n eu cynhyrchu drwy godi arian yng Nghymru fel y gall eu cyfraniad allweddol at y sector gael ei gyfathrebu’n effeithiol.
BETH SY’N DIGWYDD NESAF?
Mae’r adroddiad yn nodi’n gywir fod ‘codi arian yn swyddogaeth hanfodol i fudiadau’r sector gwirfoddol ac nid yn weithgaredd i godwyr arian yn unig’. Ond faint o fudiadau a phobl o fewn y sector sy’n meddwl am godi arian fel rhan hanfodol o’u mudiad ac yn ymddwyn felly, yn hytrach na’i weld fel rhywbeth dymunol y mae angen i ni geisio chwilio amser ar ei gyfer?
Yn ddiweddar, mae cynrychiolwyr o nifer o fudiadau (y rheini a grybwyllwyd uchod, ynghyd â chwmni Cwmpas, Sefydliad Lloyds Bank a chymorth Llywodraeth Cymru) wedi bod yn edrych ar sut gallwn ni, yn unigol a gyda’n gilydd, ddatblygu argymhellion yr adroddiad hwn (a rhai eraill) drwy gynigion cymorth a chyllido cyfredol a newydd. Byddwn yn cyhoeddi ein sylwadau a’n cynllun gweithredu arfaethedig ar hwn yn ddiweddarach yn ystod 2022.
CYMORTH CODI ARIAN CYFREDOL GAN CGGC A TSSW
Yn y cyfamser, edrychwch ar Hwb Gwybodaeth Cefnogi Trydydd Sector Cymru (TSSW) am daflenni gwybodaeth a chyrsiau e-ddysgu ar amrywiaeth o bynciau codi arian a chynhyrchu incwm.
Diddordeb mewn uwchsgilio eich tîm staff? Cysylltwch â’n tîm hyfforddiant i drafod cyrsiau hyfforddi pwrpasol fel ‘Cyflwyniad i Strategaeth Codi Arian’ a ‘Chynllunio ac Ysgrifennu Cynigion Cyllido Llwyddiannus’.