man having a video call on phone

Argyfwng COVID-19 yn magu arloesedd yn sector gwirfoddol Cymru

Cyhoeddwyd: 24/04/20 | Categorïau: Gwirfoddoli,Gwybodaeth a chymorth, Awdur: Judith Stone

Yma, mae Judith Stone yn darparu rhai enghreifftiau ar sut mae mudiadau gwirfoddol yng Nghymru’n addasu ac yn codi i heriau’r pandemig.

Wrth ymateb i’r achosion o COVID-19 yn y dyddiau cynnar, ysgrifennais flog ar gyfer CGGC ynghylch sut gall elusennau ddal ati i wneud daioni cymdeithasol wrth gadw pellter cymdeithasol.

Wrth i gamau diogelu pellach a chyfyngiadau gael eu rhoi mewn lle, mae aelwydydd yn addasu i’r ‘drefn arferol newydd’, ac mae realiti’r bygythiadau uniongyrchol i gynaliadwyedd ariannol unigolion a mudiadau yn dechrau eu taro. Ond yng nghanol yr olygfa ddu hon, mae gwirfoddolwyr, mudiadau gwirfoddol a mentrau dyngarol yn dod i’r amlwg ac yn llewyrchu! Mae argyfwng yn wirioneddol magu arloesedd yn ein sector ni.

Mae’r blog hwn yn amlygu rhai enghreifftiau yn unig o sut mae mudiadau o fewn sector gwirfoddol Cymru yn codi i’r her yn wirioneddol ac yn addasu sut rydyn ni’n rhedeg busnesau i gefnogi’r bobl fwyaf agored i niwed drwy achos COVID-19.

Gwirfoddoli 

Mae’r 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol ledled Cymru yn bartneriaid allweddol ag awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill sy’n arwain y gwaith o drefnu camau gweithredu gwirfoddol lleol, gan gadw pobl yn gysylltiedig o fewn eu cymunedau a helpu’r rheini sy’n fwyaf agored i niwed i gael mynediad at wasanaethau hanfodol.

Gall gwirfoddolwyr a mudiadau sy’n chwilio am wirfoddolwyr i ymateb i argyfwng COVID-19 gofrestru ar blatfform cenedlaethol Gwirfoddoli Cymru.

Iechyd meddwl 

‘Gallwn ni ym Mind Cymru, ac elusennau iechyd meddwl eraill yng Nghymru, weld fod hwn yn bendant yn argyfwng iechyd corfforol. Ond mae hefyd yn brawf sylweddol o’n gallu i barhau i ddarparu gwybodaeth, cymorth a gofal tosturiol ar gyfer pobl mewn trallod ac anhwylder seicolegol. Mae pobl sy’n profi salwch meddwl difrifol neu hirdymor ddwywaith mor agored i niwed.

‘Yn gyntaf, am fod gan lawer ohonynt iechyd corfforol gwael a disgwyliad oes cyffredin sydd 20 mlynedd yn llai na’r boblogaeth gyffredinol. Yn ail, gan fod llawer o’r ffynonellau cymorth maen nhw’n dibynnu arnynt yn y gymuned wedi’u cau neu eu hailgyfeirio. Pan ychwanegwch chi hyn at y lefelau digyffelyb o orbryder a thrallod y mae’r boblogaeth gyffredinol yn eu profi, wrth reswm, mae’n golygu ein bod wedi gorfod ymateb yn gyflym.

‘Mae llawer o fudiadau Mind lleol wedi bod yn darparu cymorth therapiwtig a llesiannol dros y ffôn a Skype. Rydyn ni wedi cynyddu’r wybodaeth a ddarperir gennym, ac wedi datblygu cynnwys yr wybodaeth honno’n gyflym i gynnwys gofalu am eich iechyd meddwl ar yr adeg hon – waeth a ydych chi’n oedolyn neu’n berson ifanc. Rydyn ni hefyd yn gwneud yn siŵr y gall mwy o bobl ddefnyddio Elefriends, platfform cefnogi cymheiriaid ar-lein Mind, a chael cyngor gan ein Llinell Wybodaeth.

‘Nid wyf erioed wedi gweld y trydydd sector yn symud mor gyflym. Mae cyfoedion yn Samariaid Cymru, Hafal, Platform, y Sefydliad Iechyd Meddwl a llawer mwy yn gweithio gyda’i gilydd a chyda Llywodraeth Cymru i wneud yn siŵr nad yw pobl â phroblemau iechyd meddwl yn cael eu hanghofio ac ein bod ni yma ar gyfer y dyfodol yn ogystal â nawr.’

Sara Mosely, Cyfarwyddwr, Mind Cymru 

Digartrefedd 

‘Yma yn y Wallich, d’oes gennym ni mo’r opsiwn i gau, ac ni fydden ni eisiau ta beth. Byddwn ni yma am gyn hired ag y mae ar bobl ein hangen. Rydyn ni wedi datblygu cynllun cyflenwi gwasanaethau critigol ac wedi pennu 24 o wasanaethau fel rhai critigol. Byddwn ni’n parhau i ddarparu bwyd, gwybodaeth a chysur hanfodol i’r bobl hynny sy’n parhau i gysgu ar y stryd.

‘Mae ein tîm arbenigol a chryf o 400 aelod o staff, a’u hymroddiad a’u hymrwymiad nhw i wneud “popeth posibl”, yn sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn parhau i redeg, yn parhau i gynorthwyo pobl ac yn parhau i weithredu am gyn hired ag y bydd eu heisiau. Ni allwn ddiolch digon i’n staff am eu gwydnwch, eu dewrder a’u gwroldeb.

‘Rydyn ni wedi gweld ffrwydrad o gefnogaeth gan gymunedau, busnesau, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru. Ymdrechion arwrol mewn cyfnod digyffelyb.’ 

Lindsay Cordery-Bruce, Prif Weithredwr, The Wallich 

The Pituitary Foundation 

‘Fel elusen iechyd, mae gan y Pituitary Foundation rôl fawr i’w chwarae ar hyn o bryd mewn cynnig cefnogaeth a chysur i’n buddiolwyr (pobl ag afiechyd y chwarren bitẅidol neu bobl a effeithir gan afiechydon y chwarren bitẅidol), felly ein blaenoriaeth ni’n gyntaf oll ddylai fod i wneud popeth y gallwn ni i ddarparu’r gofal a’r cymorth gorau iddyn nhw, drwy unrhyw fodd posibl.

‘I fi, mae’n adeg dyngedfennol ar gyfer magu cydberthynas gryfach â phawb – eich staff, gwirfoddolwyr, buddiolwyr, cefnogwyr ac aelodau.

‘Gallwch wneud hyn drwy ddefnyddio technoleg – e-fwletinau, sgyrsiau Twitter, cyfarfodydd ar-lein a digwyddiadau mwy rheolaidd, ac ati. Mae’n gyfle i roi cynnig ar bethau newydd a defnyddio’ch sianeli cyfryngau cymdeithasol i greu cynnwys ar-lein diddorol, cysylltu â’ch cynulleidfa a chynyddu eich dilynwyr mewn adeg pan fydd pobl yn defnyddio mwy nag erioed o ddulliau digidol. Yn bersonol, rwy’n credu mai galwadau fideo a ffôn yw’r pethau allweddol – mae angen cyswllt dynol ar bobl, i glywed llais a gweld wyneb.’

Menai Owen-Jones, Prif Weithredwr, The Pituitary Foundation 

Cyngor ar Bopeth 

‘Yn y cyfnod cwbl ddigyffelyb hwn, mae pobl yn troi atom ni yn Cyngor ar Bopeth i ddeall sut bydd yr holl newidiadau’n effeithio arnyn nhw. Rydyn ni’n ymateb drwy symud cymaint â phosibl o’n darpariaeth i gyngor o bell dros y ffôn ar unwaith. Mae pethau’n newid bob dydd, ond hwn yw ein newid mawr cyntaf. Rydyn ni eisiau gweithio gyda phartneriaid o bob rhan o’r sector i wneud y gyfres nesaf o newidiadau, oherwydd rydyn ni’n credu bod hyn yn rhywbeth sy’n rhaid i ni ei wneud gyda’n gilydd er mwyn cael yr effaith fwyaf.’

Rebecca Woolley, Cyfarwyddwr, Cyngor ar Bopeth Cymru 

Diverse Cymru

‘Hanfod ein cyfathrebiadau ni yw deall y bobl rydyn ni’n cyfathrebu â nhw, rhagweld dryswch a chyflwyno negeseuon eglur a chadarnhaol i’n defnyddwyr gwasanaethau. Mae daioni cymdeithasol ar gyfer cyfathrebiadau elusennau’n ymwneud yn llwyr â sicrhau bod gwybodaeth i’r cyhoedd yn gwneud synnwyr i’n cynulleidfaoedd.’

Joe Stockley, Arweinydd Cyfathrebiadau, Diverse Cymru 

Beth ydych chi’n ei wneud yn ystod yr argyfwng hwn? 

Bydd CGGC yn parhau i rannu straeon o’r sector er mwyn dangos i’r llywodraeth a chyllidwyr y gwaith hanfodol y mae mudiadau gwirfoddol yn ei wneud i fynd i’r afael ag argyfwng COVID-19. Mae’r grwpiau hyn yn parhau i gefnogi’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, ac yn helpu i leihau’r galw ar y sector cyhoeddus. Mae angen sector gwirfoddol iach a bywiog, nid yn unig ar gyfer argyfwng heddiw, ond hefyd am flynyddoedd i ddod.

Cysylltwch â ni os oes gennych chi rywbeth i’w rannu – news@wcva.cymru.