Suzanne Mollison, Rheolwr Diogelu CGGC, yn cyflwyno cyngor allweddol i aelodau CGGC ar gyfer recriwtio gwirfoddolwyr mewn ffordd fwy diogel.
Yn ddiweddar, derbyniodd CGGC rybudd gan asiantaeth sy’n bartner iddo am syndicet o wirfoddolwyr a oedd yn defnyddio cyfeiriadau e-bost ffug i wneud cais am rolau gwirfoddol. Gyda sgamiau fel hyn a thwyll ar gynnydd, rydym yn gwybod y gallai sefydliadau eraill gael eu targedu mewn ffordd debyg, felly mae’n amserol i’ch atgoffa am arferion mwy diogel i ‘recriwtio’ gwirfoddolwyr.
PWYSIGRWYDD ARFERION RECRIWTIO DA
Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan hanfodol i wella bywydau pobl fregus. Mae recriwtio neu ddod â phobl newydd i’r sefydliad, boed hynny fel gwirfoddolwyr neu mewn swyddi cyflogedig, yn gyfle i gymryd ymagwedd ataliol i wirio a ydynt yn ddiogel ac yn addas i ymuno â chi.
Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i sefydliadau fabwysiadu arferion cadarn i helpu i leihau risg. Mae arferion recriwtio a dethol da yn cynnwys defnyddio ffurflenni cais a gwirio geirdaon a chymwysterau. Dylid cynnwys gwybodaeth am hyn ym mholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad.
Mae gwybodaeth ac adnoddau ar y materion hyn ar yr Hwb Gwybodaeth sydd ar gael i sefydliadau ei ddefnyddio am ddim! Mae angen i chi gofrestru trwy roi eich cyfeiriad e-bost ac yna mynd i’r adran Llywodraethu Da.
PA WIRIADAU AR GYFER ADDASRWYDD Y DYLECH CHI EU HYSTYRIED?
Rhaid i sefydliadau sicrhau bod ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr a staff yn addas i weithredu yn eu rolau drwy gynnal gwiriadau perthnasol. Dylai mudiadau gwirfoddol fod yn barod i gynnal gwiriadau cefndir priodol ar gyfer staff, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr.
Mae defnyddio gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn chwarae rhan yn eich dull cyffredinol o ddiogelu eich sefydliad a’i bolisi recriwtio mwy diogel. Mae rheolau ynghylch pryd y mae’n briodol defnyddio gwiriadau DBS ac os nad ydych yn siŵr a ddylech gynnal gwiriad ai peidio, gallwch ddefnyddio adnodd cymhwysedd y DBS.
Mae’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn cynnig ‘canllawiau gwirio manylion adnabod’ ar:
- sut y gallwch chi wirio manylion adnabod ymgeisydd trwy archwilio dogfennau
- y dogfennau sy’n ofynnol ar gyfer gwirfoddolwyr o’r DU, a’r rhai o dramor, a
- beth y mae’n rhaid i chi ei wneud fel rhan o’r broses gwirio manylion adnabod
Byddwn yn cynnal gweithdy ‘Recriwtio Mwy Diogel’ ar-lein gyda Carol Eland o Wasanaeth Allgymorth y DBS ddydd Mawrth 18 Mehefin 2024 am 1 pm, sydd am ddim. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r gweithdy hwn, e-bostiwch safeguarding@CGGC.cymru i gofrestru eich diddordeb.
SUT ALLWCH CHI DDWEUD OS YW E-BOST YN FFUG?
Mae sgamiau e-bost, a elwir hefyd yn sgamiau ‘gwe-rwydo’, wedi dod yn fwyfwy cyffredin, mae’r sgamiau hyn yn aml yn golygu bod twyllwr yn anfon e-bost atoch yn honni ei fod o sefydliad adnabyddus.
Mae canllawiau defnyddiol ar adnabod e-bost ffug a rhoi gwybod amdano ar wefannau twyll Which.co.uk ac Action Fraud.
Dyma ddau gam syml i’ch rhoi ar ben ffordd:
- Gwiriwch gyfeiriad e-bost yr anfonwr – Fel arfer bydd e-bost sgâm yn dod o gyfeiriad e-bost na ellir ei adnabod. Gall hyn gynnwys rhifau, llythrennau neu eiriau ar hap nad oes ganddynt unrhyw beth i’w wneud â’r sefydliad y mae’r twyllwr yn cymryd arno ei fod yn rhan ohono.
- Gwiriwch wybodaeth gyswllt a dyddiadau – Ceisiwch hofran eich cyrchwr dros unrhyw le y byddech fel arfer yn disgwyl gweld dolen yn yr e-bost. Er enghraifft, edrychwch ar waelod yr e-bost am fotymau ‘cysylltwch â ni’ neu ddolenni at delerau ac amodau.
Os ydych chi wedi derbyn e-bost amheus, anfonwch ef at y Gwasanaeth Adrodd am Negeseuon E-bost Amheus (SERS): report@phishing.gov.uk Bydd rhoi gwybod am yr e-bost gwe-rwydo yn helpu Action Fraud i weithredu’n gyflym, gan amddiffyn llawer mwy o bobl rhag cael eu heffeithio.
CYFYNGIADAU AR SAFLEOEDD RECRIWTIO
Mae nifer o sefydliadau sy’n cynnig cyfleoedd gwirfoddoli yn defnyddio Gwirfoddoli Cymru. Mae’r llwyfan yn cyfyngu ar fynediad i ymgeiswyr sy’n byw y tu allan i’r DU. Gwnaed y penderfyniad hwn i sicrhau mai dim ond gwirfoddolwyr sy’n gallu gwirfoddoli yng Nghymru all gofrestru ar y safle. Mae’r cyfyngiad hwn yn gweithio mewn dwy ffordd:
- Mae’r rhai sy’n gwneud cais o fewn cylch cyfagos yr UE yn gallu cael mynediad i’r safle, ond wrth gofrestru, bydd angen iddynt roi tic yn y blwch y tu allan i’r DU, sy’n golygu bod angen i’w cais gael ei gymeradwyo gan CGGC. Yna bydd CGGC yn gwirio a all yr ymgeisydd wirfoddoli (gall hyn gynnwys alltudion sydd am helpu o bell a myfyrwyr sy’n dod i’r DU gyda lle wedi’i dderbyn mewn prifysgol).
- Ni all y rhai sy’n gwneud cais y tu allan i gylch cyfagos yr UE weld y safle. Ni fydd yr URL yn dangos yn y gwledydd hyn ac nid oes gan unrhyw un yn y gwledydd hyn fynediad atynt.
Os oes gennych chi lwyfannau recriwtio/gwirfoddoli tebyg neu os ydych chi’n defnyddio un at y dibenion hyn, efallai y byddwch am ystyried gosod yr un cyfyngiadau.
DIOGELU YN GOFOD3
Rydym yn cynnal sesiynau diogelu (gan gynnwys sesiwn ar wirfoddoli) drwy gydol y dydd yn nigwyddiad blaenllaw CGGC, gofod3 ar 5 Mehefin 2024 yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Mae’r rhain yn cynnwys:
- 10am: Diogelu eich gwirfoddolwyr
- 30am: Hyfforddiant ar ddiogelu
- 30pm: Polisïau diogelu
- 3pm: Rôl yr unigolyn diogelu dynodedig
Mae gofod3 am ddim, ond mae llefydd wedi’u cyfyngu ar gyfer y sesiynau, felly dylech archebu ymlaen llaw. Mae rhagor o wybodaeth ar gofod3.cymru.
MWY AM DDIOGELU
Am ganllawiau diogelu cyffredinol, ewch i adran ddiogelu’r Hwb Gwybodaeth i ddilyn y llwybr diogelu.
Os oes gennych ymholiad ynghylch diogelu, e-bostiwch safeguarding@CGGC.cymru a bydd y Tîm Diogelu yn barod i helpu.