Dr Lindsay Cordery-Bruce yn y Senedd

Ar ôl yr etholiad: beth sy’n dod nesaf

Cyhoeddwyd: 11/05/26 | Categorïau: Dylanwadu, Awdur: Dr Lindsay Cordery-Bruce

Wrth i Gymru edrych i’r dyfodol ar ôl yr etholiad, mae Prif Weithredwr CGGC, Dr Lindsay Cordery-Bruce, yn myfyrio ar wydnwch cymunedau, y pwysau sy’n wynebu mudiadau gwirfoddol, a pham mae partneriaeth â’r sector gwirfoddol yn hanfodol i sicrhau newid parhaol.

Mae pobl Cymru wedi dweud eu dweud. Mae neges glir yn yr etholiad hwn: mae pobl eisiau i bethau newid. Maen nhw eisiau gweld gweithredu ar y pwysau maen nhw’n eu teimlo o ddydd i ddydd. Ac maen nhw eisiau i wleidyddiaeth deimlo’n nes at fywyd go iawn eto.

Mae pwy sy’n ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru yn bwysig, wrth gwrs. Ond yr hyn sydd hefyd yn bwysig yw beth sy’n digwydd nesaf, a sut rydym yn gweithio gyda’n gilydd dros y pedair blynedd nesaf.

Ledled Cymru, ymhell cyn unrhyw ganlyniad etholiadol, mae cymunedau wedi bod wrthi’n gwneud y gwaith caled o gefnogi ei gilydd.

Y PWYSAU Y TU ÔL I’R YMRODDIAD 

Yn dawel bach, mae mudiadau gwirfoddol, grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr yn dal pethau at ei gilydd. Maen nhw’n cefnogi pobl gyda’u hiechyd meddwl, yn helpu pobl hŷn i aros yn gysylltiedig, yn cefnogi pobl ifanc i ddod o hyd i gyfleoedd, ac yno i’r rhai sydd heb unman arall i droi.

Mewn llawer le, maen nhw’n rhan hanfodol o’r ffordd y mae cymorth yn cyrraedd pobl. Nid fel ychwanegiad, ond fel rhan o wead y ffordd y mae Cymru’n gweithio.

Ond nid yw hyn yn hawdd.

Y tu ôl i hyn oll mae pobl sydd dan straen mawr. Mae costau byw yn parhau i frathu. Mae’r galw am gymorth yn cynyddu. Ac mae llawer o fudiadau gwirfoddol eu hunain dan bwysau gwirioneddol, yn delio â chostau cynyddol, cyllid tymor byr a’r her o gynllunio y tu hwnt i’r ychydig fisoedd nesaf.

I rai, nid yw hi bellach ynglyn â gwneud mwy gyda llai. Mae’n ymwneud ag a allant gadw i fynd o gwbl.

Ac eto, yr hyn sy’n sefyll allan — a’r hyn a ddylai roi rhywfaint o obaith i bob un ohonom — yw bod pobl yn dal i gamu ymlaen. Maen nhw’n dal i ofalu am eu cymunedau. Maen nhw’n dal i fod eisiau gwneud pethau’n well.

Mae hynny’n teimlo’n bwysig ar hyn o bryd. Oherwydd ochr yn ochr â’r heriau, mae cyfle gwirioneddol hefyd.

EILIAD O GYFLE 

Nid yw newid gwirioneddol yn dod o lywodraeth yn gweithredu ar ei phen ei hun. Mae’n dod pan fydd gwasanaethau cyhoeddus, mudiadau gwirfoddol a chymunedau yn gweithio ochr yn ochr, gan ddod ag arweinyddiaeth, gwybodaeth leol, ymddiriedaeth a gweithredu ymarferol ynghyd.

Dyna sut mae cynnydd yn digwydd yn y byd go iawn.

Mae’r sector gwirfoddol yn barod i chwarae ei ran yn hynny, fel y mae wedi bod erioed.

Yn y cyfnod cyn yr etholiad, fe wnaethom nodi sut y gallai’r bartneriaeth honno edrych: sector gwirfoddol cryfach a mwy cynaliadwy, cymunedau sy’n cael eu cefnogi a’u grymuso, a ffordd o weithio sy’n gwneud cydweithio yn arferol yn hytrach nag yn eithriad.

Mae’r syniad y tu ôl i hyn yn syml. Os ydym am wella bywydau a chryfhau cymunedau, mae angen i ni gefnogi’r bobl a’r mudiadau sydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth bob dydd.

Mae hynny’n golygu edrych y tu hwnt i atebion tymor byr. Mae’n golygu rhoi’r sefydlogrwydd a’r ymddiriedaeth y mae mudiadau eu hangen arnynt i gynllunio ymlaen, i arloesi, ac i ymateb i’r hyn y mae cymunedau’n ei ddweud wrthynt. Ac mae’n golygu gweithio gyda chymunedau fel partneriaid, nid dim ond gofyn iddynt godi’r darnau.

Nid yw pobl yn disgwyl i lywodraeth gael yr holl atebion. Ond maen nhw’n disgwyl arweinyddiaeth sy’n deall pa mor anodd yw pethau ar hyn o bryd ac sy’n barod i weithio gydag eraill i wireddu newid.

PARTNERIAETH — NID ATEBION TYMOR BYR 

Bydd y sector gwirfoddol yn parhau i gamu ymlaen. Y cwestiwn go iawn yw a allwn greu’r amodau sy’n caniatáu iddo wneud hynny mewn ffordd sy’n para.

Mae CGGC yn barod i weithio gyda Llywodraeth nesaf Cymru, a gydag Aelodau o’r Senedd o bob plaid. Fel partneriaid dros gynnydd, mae ein nod ar y cyd yn syml: cefnogi gwirfoddolwyr a mudiadau gwirfoddol i sicrhau’r newid y mae pobl ledled Cymru yn gofyn amdano, a helpu cymunedau nid yn unig i ymdopi, ond i ffynnu.

Y CAMAU NESAF 

Os hoffech glywed mwy am ofynion CGGC i Lywodraeth nesaf Cymru, edrychwch ar ein Maniffesto’r Sector Gwirfoddol a gwnewch yn siŵr eich bod yn ymuno â ni yn gofod3, sef lle i ddysgu, cysylltu a chryfhau ein llais sector gwirfoddol ar y cyd ar bolisi a dylanwadu.