Yn ddiweddar, cynhaliodd CGGC fforwm gyda Elusen GIG Awyr Las i fudiadau sy’n gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol i weithio allan sut y gallai cyllidwyr gefnogi’r sector yn fwyaf effeithiol. Mae Jennifer Preston yn crynhoi’r hyn a drafodwyd.
Wythnos diwethaf, cynhaliodd ni fforwm gydag Awyr Las a Richard Newton Consulting ar gyfer elusennau, awdurdodau lleol, cynrychiolwyr gofal iechyd a rhanddeiliaid nid-er-elw eraill sy’n gweithio yn yr amgylchedd iechyd a gofal cymdeithasol.
Nod y drafodaeth oedd amlinellu’r hyn sydd wedi’i ddysgu o bandemig COVID-19 er mwyn edrych ar flaenoriaethau ar gyfer gweithio mewn partneriaeth a blaenoriaethau buddsoddi ar gyfer cyllid Apêl COVID-19 NHS Charities Together (Ail Gylch Grant).
NHS Charities Together
Mae pob Elusen GIG yng Nghymru wedi derbyn grantiau gan NHS Charities Together i helpu i gyllido llesiant uniongyrchol cleifion a staff y GIG sydd wedi’u heffeithio gan COVID-19.
Bydd y cylch grantiau nesaf gan NHS Charities Together ar gyfer Elusennau’r GIG yn cefnogi partneriaethau strategol â mudiadau gwirfoddol er mwyn helpu gwaith adfer a gwydnwch yn y tymor canolig a’r hirdymor.
Nod y digwyddiad oedd casglu gwybodaeth gan y sector gwirfoddol (iechyd a gofal cymdeithasol) yng Nghymru, a oedd yn ymwneud yn benodol â sut gallai cyllid NHS Charities Together a chyllidwyr posibl eraill gefnogi partneriaethau rhwng y sector gwirfoddol, y sector statudol ac asiantaethau eraill yng Nghymru yn y modd mwyaf effeithiol.
Cafodd y drafodaeth ei chadeirio gan Kate Young, Cyfarwyddwr Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan ac un o ymddiriedolwyr CGGC. Gwnaeth y fforwm ganolbwyntio ar y cwestiynau allweddol hyn:
- Newid ein dull gweithredu yn sgil COVID-19: beth wnaeth weithio a beth oedd yn heriol?
- Etifeddiaeth Covid – pa wersi neu wahanol ffyrdd o weithio ydyn ni eisiau eu cadw?
- Blaenoriaethau datblygu wrth symud ymlaen – canlyniadau cyflym i newidiadau polisi
Newid ein dull gweithio
Mae’r cyfyngiadau a osodwyd yn sgil y cyfyngiadau symud cenedlaethol wedi cyflwyno cyfleoedd i’r sector iechyd a gofal cymdeithasol ddod o hyd i ffyrdd newydd o weithio.
Mae rhai mudiadau wedi gallu cadw mewn cysylltiad â phartneriaid ysbyty drwy ymuno o bell â chyfarfodydd rhyddhau cleifion er mwyn parhau â thrafodaethau ynghylch cefnogi teuluoedd a gofalwyr yn ogystal â chleifion.
Mae llawer o weithwyr gofal iechyd wedi canfod bod peidio â theithio i ysbytai nid yn unig wedi atal yr haint rhag lledaenu, ond mae hefyd wedi cael gwared â’r rhwystrau yn sgil mynd i leoliadau gwledig ac wedi eu galluogi i wneud defnydd mwy effeithiol o’u hamser.
Un agwedd allweddol ar y gwaith sydd wedi bod ar droed ar draws mudiadau gwirfoddol iechyd yw cefnogi pobl yn y grwpiau gwarchod a chadw eu mynediad at grwpiau cymorth.
Mae elusennau iechyd sy’n gweithio gyda phobl anabl wedi galw arnom i fod yn ofalus, oherwydd mae’r cyfyngiadau a osodwyd ar grwpiau a warchodir wedi ailgyflwyno model meddygol ar gyfer pobl anabl yn hytrach na model cymdeithasol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Mae angen canolbwyntio ar gydweithio a chynnwys er mwyn atal y dull hwn rhag datblygu ymhellach, sy’n golygu cynnwys safbwynt pobl anabl ar bob cam a sicrhau eu bod yn bartneriaid cyfartal yn eu gofal eu hunain.
A beth am y grwpiau a warchodir nad ydynt yn cael eu trafod? Mae’r cyfryngau wedi bod yn canolbwyntio ar bobl hŷn a warchodir, ond mae carfan fawr o bobl o dan 55 oed â chyflyrau iechyd sydd hefyd wedi peri iddynt fod yn bobl a warchodir. Mae angen cynnwys y grŵp hwn mewn trafodaethau er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i gael mynediad at gymorth gofal iechyd a llesiant.
Yn yr un modd, mae angen i gymorth fod ar gael i gymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) sy’n wynebu rhwystrau mynediad at ofal iechyd o dan amgylchiadau ‘arferol’ ac sydd wedi’u heffeithio’n anghymesur gan COVID-19. Mae rhwystrau a oedd yn bodoli eisoes, fel trafnidiaeth a chymorth iaith, wedi gwaethygu yn sgil y pandemig.
Fel arfer, mae mudiadau gwirfoddol yn darparu trafnidiaeth gymunedol er mwyn galluogi mynediad at ofal iechyd. Fodd bynnag, mae’r gwasanaeth hwn yn dibynnu ar yrrwyr gwirfoddol dros 70 oed, ac mae hyn wedi arwain at golli gweithlu, ynghyd â’r ffaith fod rheolau cadw pellter cymdeithasol wedi lleihau capasiti minibysiau yn sylweddol. Gyda’i gilydd, rhaid cwestiynu sut bydd y gwasanaethau hyn yn gallu diwallu’r angen cynyddol a chadw pobl yn ddiogel.
Gwnaeth Apêl COVID-19 NHS Charities Together ddangos ymrwymiad y cyhoedd i gefnogi’r maes gofal iechyd a’n gweithwyr gofal iechyd. Yn ystod y drafodaeth, lleisiwyd pryder fod ymgyrch codi arian proffil uchel y GIG yn tynnu rhoddion oddi ar fudiadau gofal iechyd llai o faint yn y trydydd sector, a bod hwythau bellach dan bwysau ariannol. Mae hyn yn cynnwys yr elusennau bwrdd iechyd unigol sydd hefyd wedi colli canran uchel o’u hincwm codi arian.
I fynd i’r afael â hyn a galluogi mudiadau gofal iechyd y trydydd sector i barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol yn y gymuned, a oes lle i frocera sgyrsiau rhwng elusennau iechyd a gofal cymdeithasol a’r GIG, gan greu cyfleoedd ar gyfer gwasanaethau cynaliadwy a gyllidir ar y cyd? Bydd oddeutu un rhan o dair o’r arian a godir gan Apêl COVID-19 NHS Charities Together yn cael ei wario ar gefnogi prosiectau cydweithredol (gan gynnwys cydweithio ag asiantaethau yn y sector gwirfoddol).
Etifeddiaeth COVID-19
Oherwydd y cyfyngiadau symud, rydyn ni wedi symud i ddarparu gwasanaethau ar-lein.
Mae rhai elusennau wedi nodi bod mwy o bobl yn derbyn eu gwasanaethau a’u bod yn gallu cyrraedd cynulleidfa ehangach yn sgil cael gwared â rhwystrau trafnidiaeth neu effaith pellter daearyddol. Er ei bod yn hawdd canolbwyntio ar lwyddiant llawer o elusennau sydd wedi addasu i ddarparu gwasanaethau ar-lein, mae problem ehangach o hyd o ran cynhwysiant a mynediad digidol. Mae grwpiau o bobl o hyd nad ydynt â mynediad ar-lein oherwydd eu lleoliad, diffyg incwm, diffyg gwybodaeth, trwy ddewis neu rwystrau mynediad eraill.
Wrth i wasanaethau symud tuag at gael eu darparu ar-lein, mae elusennau’n wynebu’r her o sicrhau bod yr holl grwpiau’n cael eu cynnwys a’u bod yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau y mae arnyn nhw eu hangen.
Mae rhai elusennau wedi dewis darparu cylchlythyrau copi caled ochr yn ochr â rhifynnau ar-lein er mwyn mynd i’r afael â hyn, ond amlygir hefyd y baich ariannol ychwanegol ar elusennau pan fo adnoddau eisoes yn brin.
Gwirfoddolwyr
Mae gwirfoddolwyr wedi bod yn allweddol yn yr ymateb cenedlaethol i COVID-19, gyda nifer digyffelyb o bobl yn rhoi o’u hamser i helpu eu cymuned.
Ar lefel leol, mae cymunedau a Chynghorau Cymuned wedi arwain y gwaith o ddarparu elfennau o ofal cymdeithasol, gan gynnwys cludo presgripsiynau a chynlluniau cyfeillio.
Wrth i’r cyfyngiadau symud leihau, mae’n bwysig bod y grwpiau gwirfoddoli newydd hynny sydd eisiau parhau yn cael eu hintegreiddio yn y sector mewn modd cynhyrchiol sy’n sicrhau nad yw gwasanaethau’n cael eu dyblygu a, phan fydd grwpiau eisiau gwasgaru, yn sicrhau nad oes bwlch.
Mae angen i ni, fel sector, ystyried: sut ydyn ni’n cynnal y lefel hon o ymgysylltu â gwirfoddolwyr a chefnogi camau gweithredu ar lefel gymunedol?
Y Dyfodol
Wrth i ni ddechrau edrych at fyd ar ôl y cyfyngiadau symud, mae’r sector iechyd yn gofyn am fwy o ffocws ar bresgripsiynu cymdeithasol er mwyn lleihau’r baich ar y GIG a chynorthwyo pobl yn eu cymunedau.
Er mwyn i bresgripsiynu cymdeithasol fod yn llwyddiannus, mae angen cyllid cynaliadwy sy’n sicrhau diogelwch hirdymor ar gyfer y sector gwirfoddol a gweithgarwch cymunedol. Heb y diogelwch hwn, mae’n anodd i’r GIG ddibynnu ar y sector gwirfoddol i gynorthwyo lleoliadau iechyd a lleihau’r pwysau arnyn nhw.
Mae angen adeiladu ar y gwaith sydd wedi’i wneud ar bresgripsiynu cymdeithasol a chasglu tystiolaeth o bob rhan o Gymru sy’n dangos effaith presgripsiynu cymdeithasol ar draws y sector gofal iechyd.
Cydgynhyrchu a chyd-gyflawni sydd wedi bod yn greiddiol i lwyddiant gweithgareddau dan arweiniad gwirfoddolwyr. Mae angen cefnogi cydgynhyrchu ar lefel strategol er mwyn ailadrodd y llwyddiant hwn; gan greu gwasanaeth gofal iechyd cryfach a fwy holistaidd ledled Cymru.
Mae’r angen i ymateb ar frys i’r pandemig wedi arwain at gael gwared ar fiwrocratiaeth a fyddai wedi rhwystro datblygiadau prosiect cyn hyn. Mae’r pandemig wedi dangos y gellir cael gwared ar fiwrocratiaeth pan fo angen, felly sut gallwn ni gadw’r fiwrocratiaeth yn isel a pharhau i ddarparu’r gwasanaethau newydd arloesol sydd eu hangen yn ein cymunedau?
Camau Nesaf
Mae Richard Newton Consulting wrthi’n creu adroddiad a fydd yn crynhoi’r drafodaeth a’r pwyntiau a godwyd yn ystod y digwyddiad. Gall yr holl lunwyr polisi gofal iechyd a gofal cymdeithasol strategol yn sector cyhoeddus a sector gwirfoddol Cymru ddefnyddio’r adroddiad hwn i lywio penderfyniadau ar gynlluniau a chyllid sy’n ceisio sicrhau adferiad a gwydnwch tymor canolig a hirdymor y GIG a’r sector gwirfoddol yng Nghymru. Mae CGGC yn ymrwymo i rannu’r adroddiad gyda rhwydweithiau a chysylltiadau perthnasol ar draws y sectorau gwirfoddol a statudol.
Bydd CGGC a chynhrychiolwyr Elusennau’r GIG yng Nghymru yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod elusennau yng Nghymru’n cael eu diweddaru’n gyson am gyllid NHS Charities Together yng Nghymru. Diolch unwaith eto i bawb a gymerodd ran yn y drafodaeth.