Menyw yn pacio bocs anrheg Nadolig mewn papur lapio Nadoligaidd

2023 Anrhegion Nadolig

Cyhoeddwyd: 13/12/23 | Categorïau: Heb gategori, Awdur: Simon Dowling

Mae Simon Dowling, Rheolwr Cyfathrebu CGGC, yn cynnig ei restr flynyddol o syniadau anrhegion Nadolig sy’n cefnogi mudiadau sy’n gwneud da yng Nghymru.

Mae’r rhestr Nadolig yma llawn syniadau am anrhegion sy’n cefnogi mentrau cymdeithasol ac elusennau ledled Cymru ag un o flogiau mwyaf poblogaidd CGGC.

Cofiwch, y Nadolig hwn, y gallwch chi ddefnyddio eich pŵer prynu er daioni a #GwneudGwahaniaethGydanGilydd yng Nghymru drwy ddod o hyd i #PresantauGydaPhwrpas

CEFNOGI POBL I WNEUD GWAHANIAETH TRWY BRYNU’N GYMDEITHASOL Y NADOLIG HWN

Mae’r awgrymiadau siopa yma nid yn unig yn helpu’r economi leol neu’n cefnogi elusennau, mentrau cymdeithasol a chwmnïau sy’n eiddo i’r gymuned, gan fynd i’r afael ag amrywiaeth o faterion sy’n wynebu Cymru a’r byd.

Joiwch y siopa!

1. BWYD A DIOD O GYMRU

Mae llawer o anrhegion blasus i brynu y Nadolig hwn.

Lansiodd y fenter gymdeithasol TetrimTeas eu Te Gwraidd Riwbob newydd sbon yn 2023. Mae’n cynnwys y cynhwysyn Cymreig rhyfeddol, Gwraidd Riwbob o Ynys Môn. Mae treialon clinigol gan Brifysgol Aberystwyth wedi dangos bod gan y te fanteision ‘sylweddol’ ar gyfer meddwl, treuliad a lipidau, gan gynnwys colesterol is. Mae holl elw’r fenter yn cael ei fuddsoddi yn ôl i brosiectau cymunedol yn Nhrimsaran, lle mae’r te yn cael ei gymysgu a’i becynnu.

Câr-y-Môr yw’r fferm gefnfor adfywio gyntaf yng Nghymru sy’n eiddo i’r gymuned ac yn tyfu a gwerthu gwahanol gwymon a physgod cregyn. Mae hyn yn cynnwys cynhyrchion gwych fel sbageti môr, olew tryffl y môr a hyd yn oed gwrtaith gwymon. Caiff yr holl elw ei ail-fuddsoddi yn y gymdeithas budd cymunedol, sy’n eiddo cyfartal i’w holl aelodau a’i haelodaeth.

Mae Manumit Coffee Roasters o Gaerdydd yn un o nifer o gwmnïau coffi annibynnol bach sy’n ceisio gwneud gwahaniaeth yn eu cymuned. P’un a ydych chi’n dewis prynu coffi untro neu danysgrifiad rheolaidd, mae’r cwmni hwn yn cynnig urddas a gobaith i oroeswyr caethwasiaeth fodern trwy hyfforddiant a chyflogaeth. Gan ddefnyddio ffa coffi moesegol, mae eu coffi yn cael ei rostio gan ddynion a menywod sydd wedi cael eu hecsbloetio gan fasnachwyr caethweision modern ac sydd bellach yn ailadeiladu eu bywydau. Rhoddir yr holl elw yn ôl i fentrau gwrth-gaethwasiaeth lleol a byd-eang.

Mae Cwrw Ial yn gwmni bragu cwrw cymunedol o ogledd ddwyrain Cymru, sy’n cynhyrchu cwrw o’r safon uchaf ac yn gweithio ar y cyd â busnesau lleol eraill, artistiaid a mentrau cymdeithasol. Ar gael i’w gludo i unrhyw le ym Mhrydain Fawr, mae ganddo hefyd gyflenwadau am ddim yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.

Pan fyddwch chi’n prynu gin, rðm a chynhyrchion eraill o ddistyllfa St David’s Distillery byddant yn rhoi rhodd i elusen. Er enghraifft, bydd cyfran o Ramsey Island Welsh Dry Gin yn mynd tuag at ariannu prosiectau ar, ac o amgylch, Ynys Dewi sy’n hanfodol ar gyfer y gwaith pwysig a wneir gan RSPB Cymru.

2. HARDDWCH CREFFTWAITH CYMRU

Mae’r elusen Urdd Gwneuthurwyr Cymru yn curadu, yn comisiynu ac yn gwerthu gwrthrychau cyfoes unigryw sydd wedi’u gwreiddio mewn crefftwaith. Eu nod yw ysbrydoli mwy o ymgysylltu â chrefftau, cefnogi crefftwyr Cymreig a dathlu rhagoriaeth mewn crefftau. Mae yna gyfoeth o grefftau unigryw a hardd wedi’u gwneud â llaw o Gymru – nwyddau sydd byth wedi’u fasgynhyrchu ac sydd bob amser yn wreiddiol! Gemwaith, gwydr, serameg a llawer mwy.

Gallwch fod yn hyderus, pan fyddwch yn prynu oddi wrthynt, eich bod yn cefnogi Gwneuthurwyr Cymreig ac yn cefnogi, hyrwyddo a chadw sgiliau crefftau yng Nghymru ac yn rhyngwladol.

Sefydlwyd Melin Tregwynt fel Ymddiriedolaeth a Berchnogir gan Weithwyr y llynedd, gan ei chyn-berchnogion – y teulu Griffiths. Yn cyflogi 40 aelod o staff, mae’r felin wlân hon yn Sir Benfro wedi bod yn gweithredu ers 1841. Mae’r Ymddiriedolaeth yn cadw rheolaeth ar y cwmni’n ddiogel yn nwylo’r bobl sydd wedi bod yn rhan annatod o’i lwyddiant. Bydd rhan fwyaf o eitemau wedi’u disgowntio 10% tan 20 Rhagfyr 2023.

Neu ewch draw i’r elusen ffoaduriaid flaenllaw, Oasis, yng Nghaerdydd i gael eich dwylo ar y cynnyrch chwantus Blancot sydd wedi’u gwneud o flancedi Cymreig hynafol. Mae hwn yn brosiect Teilwr Bach mewn cydweithrediad â ffoaduriaid a cheiswyr lloches Oasis, ac mae’n cynnwys atalyddion drafft hardd a gorchuddion poteli dŵr poeth – perffaith ar gyfer yr adeg hon o’r flwyddyn.

3. ANRHEGION NADOLIG AR GYFER EICH FFRINDIAU BLEWOG

Elusen cŵn annibynnol fach yn Ne Cymru yw Hope Rescue. Mae’r siop ar-lein â detholiad o anrhegion Nadolig, gan gynnwys danteithion Nadoligaidd a theganau ar gyfer eich cŵn yn ogystâl â nwyddau hyrwyddo i chi.

Gallwch hefyd brynu calendr Hope Rescue gyda lluniau hyfryd o’r cŵn sydd wedi’u hachub. Mae’r elw yn helpu’r elusen i achub cŵn mewn angen yn Ne Cymru ac yn darparu cynlluniau seibiant cŵn sy’n cefnogi perchnogion mewn argyfwng i gadw eu hanifeiliaid anwes (fel cam-drin domestig, digartrefedd neu fynd i’r ysbyty).

4. CYNHYRCHION ‘MOLCHI MOETHUS O GYMRU

Mae Good Wash yn gyn fenter gymdeithasol, sydd bellach â’i helusen ei hun. Maen nhw’n ariannu prosiectau sy’n gwella bywydau anifeiliaid a phobl. Maen nhw’n stocio nifer o gynhyrchion golchi moethus o ansawdd uchel fel sebonau, eli corff, cynhyrchion cawod a setiau anrhegion – yr oll yn cynnwys cynhwysion naturiol gorau sy’n rhydd o greulondeb.

Mae nwyddau Good Wash ar gael mewn nifer o siopau ledled Cymru ac ar-lein.

Mae Myddfai yn fenter gymdeithasol sy’n darparu cyfleoedd cyflogaeth a gwirfoddoli yng nghymunedau Sir Gaerfyrddin. Mae eu cynnyrch ‘arloesol, ecogyfeillgar a gwreiddiol’ yn cynnwys sebonau, geliau cawod, siampŵ, eli corff a dwylo, bomiau bath a chanhwyllau, yn ogystal ag amrywiaeth o setiau anrhegion Nadolig. Mae gwerthiannau y siop ar-lein yn ariannu eu Gwaith, sy’n cynnwys cyfleoedd gwirfoddoli i bobl fregus fel y gallant ennill profiad gwaith, rhyngweithio cymdeithasol a hyder mewn amgylchedd gwaith diogel a chyfforddus.

5. ‘RHYFEDDOD CYMRU’ A HWYLIO’R SAITH MÔR

Elusen yw Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru sydd wedi’i hymrwymo i ymchwil a chadwraeth bioamrywiaeth, cynaliadwyedd, dysgu gydol oes a mwynhad ymwelwyr.

Dyma’r ardd sy’n denu’r nifer mwyaf o ymwelwyr yng Nghymru ac mae llwyth o bethau i’w gweld a’u gwneud y tu hwnt i’r gerddi bendigedig gan gynnwys gweithgareddau amrywiol a’r Ganolfan Adar Ysglyfaethus Prydeinig.

Gallwch brynu tocynnau rhodd i’r gerddi neu dalebau (i’w defnyddio yn y caffis, y bwyty neu’r siop) neu gyfuniad o’r ddau. Gallwch brynu’r rhain o’r siop ar-lein yn ogystal â detholiad o eitemau gan gynnwys nwyddau harddwch, gemwaith a mwy.

Daw rhodd arall sy’n seiliedig ar weithgarwch gan Her Cymru. Mae’r Elusen yn cynnig ‘profiad hwylio cwch mawr cyffrous’ i rywun a allai ffansio cymryd y llyw mewn cwch rasio rownd y byd. Mae talebau rhodd ar gael (i oedolion hyd at 85 oed) ac nid oes angen profiad.

Mae’r elw’n mynd yn uniongyrchol i weithgareddau dysgu awyr agored arloesol Her Cymru ar y môr gyda phobl ifanc dan anfantais, gan gwella eu hiechyd meddwl, ehangu eu sgiliau cyflogadwyedd, a helpu i ehangu eu gorwelion i gyflawni eu llawn potensial.

6. EWCH MASNACH DEG

Mae SUSSED yn fenter gymdeithasol wych sydd wedi’i lleoli ym Mhorthcawl. Ffurfiwyd y siop gan yr elusen Cymru Gynaliadwy yn 2006, ac mae’n arbenigo mewn cynhyrchion moesegol, yn benodol nwyddau Masnach Deg, ecogyfeillgar, di-blastig a lleol. Mae’r siop yn cael ei harwain yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr ac yn codi arian i’r elusen.

7. RHODDION ECO-GYFEILLGAR I’R HOLL DEULU GAN GANOLFAN Y DECHNEGOL AMGEN

Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen (CAT) yn elusen addysgol sy’n ymroddedig i ymchwilio a chyfleu atebion cadarnhaol ar gyfer newid amgylcheddol.

Mae gan eu siop ar-lein ystod ANFERTH o gynhyrchion (gormod i’w rhestru yma!) sy’n eco-gyfeillgar ac o ansawdd uchel. Mae hyn yn cynnwys tecstilau (fel sanau a blancedi bambŵ cyfforddus), offer gardd (fel blychau adar, camerâu is-goch, a phorthwyr), llyfrau i’ch cefnogi yn eich ymdrechion i ddysgu a bod yn fwy caredig i’r blaned, nwyddau cartref eco-gyfeillgar (ee. pethau ymolchi, cwpanau, pethau ailddefnyddiadwy ac ati), offer antur awyr agored, a gemau plant, posau a theganau (gan gynnwys teganau meddal wedi’u hailgylchu – a’u dysgu trwy chwarae).

Gallwch hefyd brynu aelodaeth CAT i rywun, mae prynu anrheg gan CAT yn helpu i gefnogi atebion cadarnhaol i’r her newid hinsawdd.

8. SIOPA DI-WASTRAFF

Mae siopa di-wastraff yn dod yn boblogaidd yng Nghymru. Mae gan Awesome Wales, siop ddi-wastraff gyntaf y Fro, siop yng nghanol y Barri, a gallwch hefyd ddewis o lefydd eraill fel Y Tŷ Gwyrdd, Dinbych.

Mae profiad siopa di-blastig yn cynnig cynhyrchion sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd ac wedi’u cynhyrchu’n foesegol. Mae’r ddau gwmni hefyd yn ailgylchu eu elw yn ôl i’w busnesau ac yn buddsoddi mewn grwpiau a gweithgareddau cymunedol lleol, gan ganiatáu i fwy o bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau tra’n lleihau arwahanrwydd cymdeithasol.

CHWILIO AM RAGOR O SYNIADAU AR GYFER #PRESANTAUGYDAPHWRPAS?

Mae’r criw gwych yn Social Enterprise UK wedi creu Canllaw Anrhegion #PresantauGydaPhwrpas unwaith eto – cylchgrawn cyfan yn llawn syniadau ar gyfer anrhegion Nadolig gan fentrau cymdeithasol ar hyd a lled gwledydd y DU. Ewch i gael cip ar y canllaw defnyddiol yma ar-lein yn www.socialenterprise.org.uk/gift-guide-2023.

Pwy ydym wedi’i anghofio?

Ydych chi’n gwybod am anrhegion â chydwybod gymdeithasol o Gymru sydd ddim ar y rhestr? Rhowch wybod i ni drwy ebostio sdowling@wcva.cymru.

Ydych chi’n rhan o fenter gymdeithasol?

Mae CGGC yn ariannu Mentrau Cymdeithasol trwy dîm Buddsoddi Cymdeithasol Cymru, felly cysylltwch i gael gwybod mwy.