Yn sgil y datblygiadau diweddaraf yn Senedd San Steffan a Chiparolwg diweddar WCVA, mae Anna Nicholl, Cyfarwyddwr Strategaeth a Datblygu’r Sector yn WCVA, yn edrych ar y rhagolygon i’r trydydd sector yng Nghymru.
Mewn digwyddiad a drefnwyd gan Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru ar Brexit yn San Steffan ddydd Llun (14 Ionawr), disgrifiodd Tom Brake AS (Llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd) lefel yr ansicrwydd fel annibendod sy’n ddigynsail yn ystod yr 20 mlynedd y mae ef wedi bod yn y Senedd.
Mae’r bleidlais i wrthod cytundeb y llywodraeth ddoe (15 Ionawr) yn ein gadael ni gyd yn dal i nofio mewn llif cyflym o ansicrwydd. (Mae podlediad y Fforwm yn trafod rhai o’r ffactorau hysbys ac anhysbys, a’r goblygiadau i’r sector).
Rôl WCVA yw deall y goblygiadau i’r sector, sicrhau bod lleisiau’r trydydd sector yn cael eu clywed, darparu gwybodaeth a helpu mudiadau i baratoi at bob posibilrwydd…
Rydym wedi canfod pryderon mawr ynghylch effaith negyddol Brexit Heb Gytundeb ar 29 Mawrth. Mae angen i ni fod yn glir y byddai hyn yn achosi canlyniadau difrifol, nid yn unig i fudiadau trydydd sector, ond yn bwysicach, y bobl a’r cymunedau maent yn gweithio gyda nhw. Gobeithiwn y bydd y neges hon yn cael ei chlywed yn y dyddiau a’r wythnosau sydd i ddod.
Heddiw rydym yn cyhoeddi canlyniadau ein ciparolwg Brexit, a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2018. Mae’n dilyn arolwg tebyg yn 2017 i gasglu barn pobl sy’n gweithio i fudiadau sy’n aelodau o WCVA. Mae’r canfyddiadau yn rhoi negeseuon cryf i ni.
Llai na 3% o ymatebwyr oedd yn credu mai Brexit ‘Heb Gytundeb’ fyddai’r canlyniad gorau yn y trafodaethau ar gyfer y bobl maent yn gweithio gyda nhw neu eu mudiadau. Dywedodd wyth o bob deg ymatebydd mai’r canlyniad gorau ganddynt yn y trafodaethau fyddai aros yn yr UE.
Ffigwr 1: ‘Pa ganlyniad fyddai orau gennych yn y trafodaethau Brexit?’
Mae wyth o bob deg ymatebydd yn credu y bydd Brexit yn cael effaith negyddol ar y cyfan ar Gymru ac mae tri chwarter yn credu y bydd Cymru yn waeth yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol ar ôl gadael yr UE.
Mae dros hanner yn meddwl y byddwn yn ‘llawer gwaeth’ yn economaidd ac yn gymdeithasol. Ni ddywedodd yr un ymatebydd y byddai gadael yr UE yn cael effaith bositif iawn ar y trydydd sector.
Ffigwr 2: ‘Pa mor dda ydych chi’n meddwl y bydd Cymru’n ei wneud ar ôl gadael yr UE?’
Y tri phwnc sy’n achosi’r pryder mwyaf i ymatebwyr yw economi Cymru, arian cyhoeddus a cholli grantiau a chymorthdaliadau. Mae hyn yn newid clir ers 2017, pan hawliau ac amddiffyniadau dynol, cymdeithasol ac amgylcheddol ddaeth i’r brig.
Mae’r rhan fwyaf o ymatebwyr yn credu y bydd Brexit yn effeithio’n negyddol ar eu gallu i gyflawni amcanion, darparu gwasanaethau, cael at grantiau, cynhyrchu incwm a dylanwadu ar bolisïau a deddfwriaeth.
Mae Cynghrair Cymdeithas Sifil Brexit, sef cynghrair o elusennau, mudiadau gwirfoddol a mudiadau ymgyrchu ledled y Deyrnas Unedig, wedi cyhoeddi ei phryderon ynghylch effaith Brexit Heb Gytundeb ar hawliau, safonau, llywodraethu a thryloywder wrth ddeddfu.
Mae’r ffaith mai Brexit Heb Gytundeb yw’r canlyniad cyfreithiol awtomatig yn niffyg dim arall yn peri pryder. Ond ceir materion y dylid eu hystyried ni waeth i ba gyfeiriad y mae’r trafodaethau yn mynd. Adlewyrchir y rhain yn nogfen y Fforwm sy’n nodi materion a gofynion allweddol y sector. Yn eu mysg y mae egwyddorion trawsbynciol megis datganoli a chraffu yn ogystal â phryderon penodol ynghylch cyllid, yr amgylchedd a lles anifeiliaid, hawliau dynol a chydraddoldeb a mudo a dinasyddion yr UE.
Ond mae hyn yn ehangach na dim ond yr hyn sy’n digwydd yn San Steffan. Mae angen i fudiadau ystyried beth allai hyn ei olygu i’r bobl maent yn gweithio gyda nhw a’u mudiadau. Mae un o ddogfennau eraill y Fforwm, Paratoi at Brexit: canllawiau i fudiadau trydydd sector mawr a bach yng Nghymru, yn cynnig cymorth gyda hyn.
Yng nghanol yr annibendod presennol, mae angen i ni ddelio gyda’r sefyllfa sydd ohoni ar hyn o bryd yn ogystal â throi ein sylw at y dyfodol. Pa fath o gymdeithas yr ydym am ei gweld yn y blynyddoedd nesaf? Mae’r dadleuon ynghylch Brexit wedi amlygu materion mawr y mae angen i ni edrych arnynt fel cymdeithas. Rydym wedi clywed bod cymunedau yn teimlo nad oes ganddynt rym na rheolaeth ac yn teimlo eu bod wedi cael eu gadael ar ôl. Rydym wedi gweld rhaniadau cynyddol ynglŷn â materion mawr ym mhob rhan o gymdeithas.
Mae nawr angen i ni ystyried sut y gallwn greu dyfodol positif i’n cymdeithas a’r hyn sydd ei angen i wireddu hynny. Mae gan elusennau a mudiadau gwirfoddol ran hanfodol i’w chwarae yn arwain ac yn siapio’r dadleuon hyn, gan gynorthwyo pobl a chymunedau ledled Cymru i gyfrannu atynt a dweud eu dweud.
Mae rhai o’r trafodaethau hyn wedi dechrau. Mae gwahanol fudiadau trydydd sector wedi bod yn edrych ar ba ddyfodol rydym am ei greu i’n plant a’n pobl ifanc a pha ddeddfau y gall y Cynulliad eu pasio i sicrhau hynny. Mae sgyrsiau tebyg yn cael eu cynnal ynglŷn â mudo a hawliau dynol. Yn Lloegr, mae sgyrsiau wedi’u sbarduno drwy ymchwiliad o’r enw Civil Society Futures. Bydd WCVA yn chwarae ei ran yn arwain y ddadl genedlaethol hon yng Nghymru.
Fforwm Cymdeithas Sifil Cymru ar Brexit
Mae WCVA, ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd, wedi ffurfio prosiect i helpu’r trydydd sector i ymwneud yn well â’r ddadl ynglŷn â Brexit ac i ddylanwadu arni.
I gael gwybod mwy am y prosiect, ewch ar y wefan