[Fe ymddangosodd y blog hwn yn wreiddiol ar wefan Comisiwn Bevan ar 30 Ebrill 2020]
Yma mae Aelod o Fwrdd CGGC, Fran Targett, cyn Gyfarwyddwr Cyngor ar Bopeth Cymru, yn edrych ar sut mae’r argyfwng Covid-19 wedi pwysleisio anghydraddoldebau iechyd a gofal cymdeithasol, a oedd yn bodoli eisoes, ac mae’n gofyn sut allwn ni symud ymlaen i sicrhau canlyniad cadarnhaol.
Er ei bod yn amlwg bod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymdrechion sylweddol i liniaru rhai o effeithiau economaidd Covid-19, i’r rhai a oedd mewn sefyllfa economaidd ansicr cyn hyn ac i’r rhai y mae eu hincwm wedi lleihau’n sylweddol, mae’r sefyllfa’n parhau i fod yn anodd iawn. Er ein bod yn wynebu bygythiad Covid-19 gyda’n gilydd, mae’n bwysig cydnabod nad yw ei effaith economaidd a chymdeithasol wedi’i ddosbarthu’n gyfartal.
Cyn y pandemig
Hyd yn oed cyn y pandemig hwn, roedd gan 11.5 miliwn o bobl yn DU lai na £100 o gynilion i’w defnyddio ac nid oed gan fwy na chwarter yr aelwydydd yng Nghymru ddigon o gynilion i dalu eu hincwm rheolaidd am fwy na mis. Mae’n amlwg bod bylchau yn effeithiolrwydd y cymorth llywodraethol presennol. Mae cymorth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru wedi llenwi rhai o’r bylchau hyn yn rhannol yng Nghymru. Cafodd y cynigion hyn ar gyfer Llywodraeth Cymru eu cofnodi yn adroddiad Cyngor ar Bopeth Cymru, ‘Helping people through the Covid-19 pandemic’, ond bydd yr effaith ar lawer o unigolion yn parhau i fod yn aruthrol.
Effaith Covid-19
Gyda llawer o unigolion yn colli eu swyddi, yn derbyn llai o oriau neu’n cael eu rhoi ar ffyrlo, mae llawer yn ceisio ymdopi ar incwm is. Y bobl sydd wedi’u heffeithio fwyaf gan hyn yw pobl oedd ag incwm a oedd eisoes yn ansicr. Mae pobl hunangyflogedig yn cynrychioli 13% o’r gweithlu 16-64 oed (183,000 o bobl) ac mae’r mwyafrif o’r rhain wedi profi gostyngiad mewn incwm a bron wedi colli eu hincwm yn llwyr. Ni fydd llawer o’r rhain yn bodloni’r meini prawf ar gyfer derbyn cymorth gan y llywodraeth. Yn ystod pythefnos olaf mis Mawrth, cynyddodd y nifer o hawliau am y Credyd Cynhwysol 100,000 ar gyfartaledd mewn cyfnod o bythefnos, i 950,000 o hawliadau. Mae’r oedi gyda’r taliadau cychwynnol, y lefel uchel o fudd a’r anawsterau sy’n cael eu nodi gan bobl sy’n ceisio hawlio’r arian hwn o bell, yn peri pryder.
Mae’r Credyd Cynhwysol a gwybodaeth am gyflogaeth wedi bod yn elfennau canolog o lawer o’r ymholiadau a wnaed i wefan Cyngor ar Bopeth yn y gorffennol sy’n dangos mai’r materion hyn yw prif bryderon pobl. Mae’r wybodaeth drwy gyfrif Twitter Cyngor ar Bopeth (gweler y graff isod) yn adlewyrchu’r cynnydd mewn hawliadau. Cafwyd 185,000 o ymweliadau â thudalennau cyngor Cyngor ar Bopeth ar y Credyd Cynhwysol mewn un wythnos, cynnydd aruthrol o 265% ar yr un wythnos y flwyddyn flaenorol.
O ystyried y sefyllfa gydag incwm pobl, mae Cyngor ar Bopeth yn rhagweld y bydd anhawster pobl i dalu biliau a dyled yn gyffredinol yn cynyddu. Er ei bod yn wir dweud bod Llywodraeth y DU wedi gweithredu’n eithaf beiddgar yn helpu gyda dyledion – gan gynnwys seibiannau morgais ac atal sefyllfa lle mae pobl yn cael eu troi allan – mae’r rhain yn gohirio’r trefniadau (mae’r ddyled yn parhau ond mae’r taliadau’n cael eu dal yn ôl). Y pryder yw y gallai’r trefniadau hyn ddod i ben pan nad yw incwm pobl wedi adfer yn yr un amser. Y risg yw y bydd problemau dyled yn cronni hyd yn oed pan fydd mesurau ar waith, a fydd yn creu ton anferth o fethdaliadau, troi allan a datgysylltu gwasanaethau.
Edrych i’r dyfodol
Er bod pryder y gallai’r ymateb i ddyledion yn y dyfodol, os na chaiff ei reoli’n dda, arwain at gynnydd mewn problemau tai a digartrefedd, un llygedyn o obaith yw pan fydd argyfwng yn llywio polisi, mae’n bosibl gwneud gwahaniaeth aruthrol i ddigartrefedd ar y stryd. O ystyried effaith uniongyrchol a difrifol tai gwael neu ddigartrefedd ar iechyd gwael, dylai parhau i ddarparu tai fforddiadwy a phriodol i’r unigolion hyn barhau i fod yn flaenoriaeth. Bydd yn bwysig cofio’r hyn y llwyddwyd i’w gyflawni mor gyflym mewn sefyllfa a ddisgrifiwyd fel un amhosibl i’w datrys yn y gorffennol!
Rydym wedi ein hysgogi i fabwysiadu llawer o ffyrdd newydd o weithio a bu newidiadau mawr i’r ffordd o gysylltu â’r GIG, gan gynnwys cysylltiadau fideo a gwasanaethau dros y ffôn. Mae’n bwysig nad yw’r wlad yn dychwelyd i sefyllfa ‘busnes fel arfer’ ar ôl i’r argyfwng ddod i ben. Mae’n amlwg eisoes bod llawer o bobl wedi newid eu barn ynglŷn â beth sy’n argyfwng, yn hytrach na phryder iechyd mwy cyffredinol, o ystyried y gostyngiad yn nifer yr ymweliadau i adrannau achosion brys. Mae angen annog pobl i gynnal hunanasesiad gwell (a hunan-driniaeth mewn llawer o achosion) yn y dyfodol. Mae’n ymddangos bod mynediad at ofal sylfaenol wedi gwella wrth i bobl allu derbyn galwad ffôn yr un diwrnod yn hytrach na gorfod aros dyddiau neu hyd yn oed wythnosau am apwyntiad.
Os nad yw’r sefyllfa hon wedi dangos i ni y gyd-ddibyniaeth unigol rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, yna rydym wedi bod yn ddall i’r gwaith sy’n cael ei wneud yn awr. Yn yr un modd, y diffyg cyfatebiaeth adnoddau rhwng y ddau sector, a oedd yn bodoli ac sy’n parhau i fodoli, (er enghraifft mynediad at Gyfarpar Diogelu Personol).
Dod o hyd i ganlyniadau cadarnhaol
Yn gyffredinol, rwy’n gweld y posibilrwydd o sicrhau canlyniad cadarnhaol yn y pen draw; a allai wneud i golledion erchyll yr epidemig hwn ymddangos yn ystyrlon. Gall hyn fod yn gatalydd ar gyfer newid ein hagwedd at yr economi, mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau sy’n endemig yn ein cymdeithas a sut yr ydym yn mesur llwyddiant (ffocws ar lesiant ehangach yn hytrach na chyfoeth yn unig).
Mae derbyn a deall y cyswllt uniongyrchol rhwng mynediad cyffredinol at iechyd a gofal cymdeithasol a’r angen i sicrhau iechyd economaidd a thai priodol i bawb yn hollbwysig os ydym am gyflawni canlyniadau cyfartal. Trethiant blaengar yw’r afr bwysicaf sydd gan y llywodraeth i ddarparu mynediad cyffredinol at iechyd a gofal hollbwysig. Mae’n rhaid i’r prosesau o ddarparu iechyd a gofal fod yn seiliedig ar yr egwyddor o gynnal lles ac yn benodol sicrhau sylfaen gadarn o iechyd i bawb.
Dyma’r adeg i fod yn feiddgar (fel y bu Aneurin Bevan yn ei gyfnod) a rhoi ystyriaeth wirioneddol i fath o Incwm Sylfaenol Cyffredinol sy’n seiliedig ar Gyflog Byw gwirioneddol sy’n cael ei reoli drwy’r system drethiant er mwyn sicrhau bod y rhai mewn angen yn derbyn cymorth. Dyma’r adeg i ailystyried yn briodol effeithiau polisi ariannol a budd-daliadau ar bobl anabl a sicrhau mai nod unrhyw gynllun ar gyfer Incwm Sylfaenol Cyffredinol yw galluogi cyfranogiad llawn mewn cymdeithas i bawb. Rwy’n cydnabod y bydd hyn yn costio. Bydd yn rhaid cyflawni cost economaidd Covid-19 ac mae’n anochel y bydd angen cynyddu trethi.
Rwy’n cynnig ein bod yn mesur llwyddiant ein hymateb i’r argyfwng hwn (yn rhannol) yn ôl a yw Cymru hefyd wedi codi i’r dasg a bennwyd gan Syr Michael Marmot yn ei adroddiad diweddaraf ar anghydraddoldebau iechyd:
‘Nid oes tasg bwysicaf i’r rhai sy’n ymwneud ag iechyd y boblogaeth na lleihau anghydraddoldebau iechyd.’