Mae Victoria Martin, Rheolwr Datblygu Busnes Evouchers yn edrych ar yr ochr ymarferol i fudiadau gwirfoddol sy’n dosbarthu cyllid a hanfodion i’r gymuned gan ddefnyddio adnoddau digidol fel Evouchers.
Mae dosbarthu cyllid a chymorth yn hanfodol i elusennau ond yn gymhleth i’w weithredu. Mae llawer o fudiadau gwirfoddol yng Nghymru’n cael anhawster ymdopi â’r baich gweinyddol, y cyflymder cyflenwi a sicrhau profiad urddasol i fuddiolwyr.
Nawr, mae llawer o fudiadau yn chwilio am ffyrdd o leihau’r baich gweinyddol ar eu timau, ac anfon arian a chyflenwadau’n gyflym a diogel i’r rheini sydd eu hangen fwyaf, gan sicrhau ar yr un pryd bod derbynyddion yn derbyn cymorth hyblyg ac urddasol.
Mae hynny’n dipyn o her!
Yma yn *Evouchers, noddwyr balch digwyddiad gofod3 CGGC, rydym yn ymrwymedig i gynorthwyo mudiadau i ddosbarthu cyllid ar unrhyw adeg ac yn unrhyw le, a hynny mewn modd di-dor, diogel a diymdroi, fel y gallwch chi ganolbwyntio ar yr hyn sydd bwysicaf – eich cymuned.
CYMORTH CYMUNEDOL AR FLAENAU’CH BYSEDD
Mae platfform Evouchers yn arbenigo mewn helpu elusennau i gefnogi eu cymunedau’n effeithlon a chydag urddas. Rydyn ni’n deall bod eich tîm angen datrysiadau dibynadwy i ddarparu hanfodion fel bwyd, dillad, ynni a phethau angenrheidiol i’r cartref, a’r cwbl gan un platfform.
Mae ein dulliau dosbarthu diogel a hyblyg – drwy e-bost, decst, neu bost – yn golygu y gall eich tîm helpu unigolion neu filoedd o bobl yn syml a rhwydd.
Gall Evouchers alluogi’ch elusen i anfon cymorth ar gyfer:
- Bwyd a hanfodion cartref gyda thalebau bwyd ac archfarchnadoedd.
- Tlodi tanwydd gyda thaliadau dŵr, ynni, olew, nwy, a thaliadau oddi ar y grid.
- Anghenion bob dydd gyda thalebau manwerthu.
- Anghenion penodol neu unigryw gyda chardiau rhagdaledig.
- Cefnogaeth urddasol gyda datrysiadau arian parod yn gyntaf.
- Cysuron cartref gyda dodrefn a nwyddau gwyn.
- Rhyddhad brys gyda throsglwyddiad uniongyrchol i’r banc.
A mwy…
Mae pob trafodiad yn dod ag adroddiadau cynhwysfawr ar y cylch bywyd cymorth llawn a dim costau cudd na ffioedd tanysgrifio. Mae hyn yn sicrhau bod gan eich tîm hyder llwyr fod y gefnogaeth yn cyrraedd y rhai sydd ei angen fwyaf.
YR EFFAITH GO IAWN
The Lincolnshire Community Foundation
*Darllenwch ein hastudiaeth achos gan The Lincolnshire Community Foundation a fabwysiadodd blatfform Evouchers ym mis Gorffennaf 2025 er mwyn rheoli dosbarthu talebau archfarchnadoedd i aelwydydd cymwys.
Diolch i Evouchers, mae’r sefydliad bellach wedi:
- Prosesu dros 3,000 o geisiadau.
- Dosbarthu gwerth mwy na £400,000 o gyllid.
- Darparu cymorth wedi’i dargedu ar gyfer aelwydydd sy’n profi caledi ariannol.
- Arbed amser ac adnoddau trwy allu swmp-brynu talebau.
- Gallu gweld ac olrhain y broses o gyflwyno ac adbrynu talebau mewn amser real.
- Symleiddio gweithrediadau mewnol a lleihau’r amser a dreulir ar dasgau gweinyddol.
‘Mae profiad y Sefydliad gyda’r system a’r tîm Evouchers wedi bod yn berffaith.’ – Aaron Bailey, The Lincolnshire Community Foundation
Gweithredu dros Blant
Trawsnewidiodd Gweithredu dros Blant *gefnogaeth i deuluoedd agored i niwed gydag arloesedd digidol.
Fel y soniais i, rwy’n gwybod y gall fod llawer o heriau i ddosbarthu cymorth i’ch cymuned – mae Gweithredu dros Blant yn gwybod hyn hefyd. Roedden nhw’n teithio bob dydd i brynu a dosbarthu talebau yn uniongyrchol i deuluoedd yn eu hardaloedd.
Roedd yr amser, y logisteg a’r risgiau a oedd yn gysylltiedig â’r broses hon yn anghynaliadwy i’r tîm.
Gwnaeth y tîm fabwysiadu Evouchers a manteisio ar y canlynol:
- Arbed llawer o amser trwy beidio â theithio a dosbarthu’n gorfforol
- Mwy o ddiogelwch trwy roi’r gorau i drin arian parod
- Proses gyflymach drwy anfon cymorth ar unwaith
- Cymorth preifat, urddasol a hyblyg i deuluoedd
DARGANFYDDWCH SUT GALL EVOUCHERS EICH HELPU CHI
Mae Evouchers yn galluogi The Lincolnshire Community Foundation, Gweithredu dros Blant a llawer mwy o elusennau i ddarparu cymorth cyflym a dibynadwy sy’n ei gwneud hi’n haws i chi ddarparu’r gefnogaeth sydd ei hangen ar eich cymuned.
Edrychaf ymlaen at ddangos y platfform ar waith i chi ym marchnad gofod3 ym mis Mehefin.
Mae *Victoria Martin yn Rheolwyr Datblygu Busnes yn Evouchers, noddwr caredig gofod3.
Darganfyddwch fwy am Evouchers yn *www.evouchers.com.
Archebwch eich lle am ddim yn gofod3 drwy fynd i gofod3.cymru.
*Saesneg yn unig