surgeon tying headscarf

Amser dathlu

Cyhoeddwyd: 10/05/19 | Categorïau: Heb gategori, Awdur: Fiona Liddell

Fiona Liddell yw’r Rheolwr Helplu newydd i Gymru yn WCVA. Yn y blog hwn, mae’n cyhoeddi lansiad Helpforce yng Nghymru, a’i gynllun i drawsnewid gwirfoddoli yn y GIG a’r cyffiniau.

Mae hi bob amser yn amser da i ddathlu gwirfoddolwyr, ond mae Wythnos Gwirfoddolwyr (1 – 7 Mehefin bob blwyddyn) yn amser arbennig o dda i wneud hynny; mae geiriau ac arwyddion o ddiolch, cydnabyddiaeth a gwerthfawrogiad o amgylch y Deyrnas Unedig gyfan yn cael mwy o effaith yn ystod yr Wythnos nag y gallwn ei chael ar ein pen ein hunain.

Dwi am fanteisio ar y cyfle, eleni, i ddathlu cyfraniad gwirfoddolwyr at iechyd a gofal cymdeithasol ac i nodi lansiad Helplu yng Nghymru.

Mae ein poblogaeth yn heneiddio ac mae disgwyliad oes ar gynnydd sydd, ynghyd â llai o adnoddau ariannol, yn rhoi pwysau ar wasanaethau cyhoeddus. Mae llawer o unigolion yn brif ofalwyr i aelodau o’u teulu; mae eraill yn cyfrannu’n fwy anffurfiol at lesiant pobl eraill drwy wneud cymwynas â’u cymdogion a ‘chadw llygad’ ar y rheini sydd efallai’n fregus.

Yn gynyddol, mae cyfle i bobl wirfoddoli yn y Gwasanaeth Iechyd neu fudiadau cymunedol a chyfrannu mewn ffyrdd penodol sy’n gwneud gwahaniaeth i gleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Ymysg y gweithgareddau lu a wneir gan wirfoddolwyr y mae cynlluniau teithio i’r ysbytycymorth cyfeilliocymorth mewn profedigaethhelpu mâs ar wardiau,  Gall y rhain fod yn gyfleoedd buddiol iawn i’r rheini sydd â phrofiad bywyd a thosturi i’w rhannu, yn ogystal â chynnig profiad i’r rheini sy’n ystyried gyrfa ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae Helplu yn ymdrechu i weddnewid gwirfoddoli mewn lleoliadau gofal iechyd. Yn Lloegr, mae’r fenter wedi bod yn ariannu arloesedd ac yn datblygu sylfaen dystiolaeth ar gyfer ymyriadau gwirfoddol effeithiol ers dros 2 flynedd nawr. Yng Nghymru, mae Helplu wrthi’n bwrw gwreiddiau ac yn datblygu rhaglen waith sy’n cyd-fynd â’n blaenoriaethau a’n cyd-destun penodol ni.

image

Mae Cymru Iachach a’n fframwaith deddfwriaeth (Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a’r Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn sefydlu egwyddorion arloesedd, partneriaeth a chydweithio, a datblygu gwasanaethau wedi’u seilio ar egwyddorion cyd-gynhyrchu a’r hyn sy’n bwysig i gleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd o weithio ar draws ffiniau traddodiadol er mwyn gwireddu ein hymrwymiad i integreiddio gwasanaethau. At ei gilydd, mae gwirfoddolwyr yn gyfle i roi cynnig ar ddulliau newydd a gweithio mewn ffyrdd hyblyg.

Mae angen i ni adeiladu ar yr hyn sydd eisoes yn digwydd, i ganfod beth sy’n gweithio’n dda a chasglu tystiolaeth i roi gwybodaeth i’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau strategol. Hoffem weld mwy a mwy, gwirfoddolwyr yn cael eu cydnabod am wneud gwahaniaeth go iawn ym mywydau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau ac yn hybu effeithiolrwydd gwasanaethau.

Hoffem ddatblygu’r offer a’r diwylliant i gefnogi twf gwirfoddoli, gan gynnwys diogelu priodol a dealltwriaeth dda gydag undebau a rhanddeiliaid eraill o rôl briodol gwirfoddolwyr. Hoffem ddysgu oddi wrth ein gilydd i wella’n barhaus yr hyn rydym yn ei wneud ac i godi llais uchel ynglŷn â’n llwyddiannau.

Rôl y Trydydd Sector ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yw pwnc cynhadledd am ddim a gynhelir ar 23 Mai yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Yn un o’r gweithdai byddwn yn ystyried sut ellir canfod prosiectau gwirfoddoli peilot neu untro, eu rhoi ar waith yn ehangach a’u prif-ffrydio yn effeithiol. Bydd y drafodaeth hon yn llywio datblygiad gwaith Helplu yng Nghymru.

Yn y cyfamser, rhaid i ni beidio anghofio am Wythnos Gwirfoddolwyr. Os ydych wedi cyhoeddi straeon am wirfoddolwyr sy’n weithgar ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, anfonwch ddolenni at y rhain ac fe fyddaf yn falch o’u hyrwyddo yn ystod yr Wythnos. Croeso i chi anfon ebost ataf drwy fliddell@wcva.cymru neu tryddar @FionaMLiddell

Os ydych yn cynllunio’ch gweithgareddau’ch hun ar gyfer Wythnos Gwirfoddolwyr, cymerwch olwg ar yr adnoddau sydd ar y wefan.  Gallwch darganfod beth sydd yn digwydd yn eich ardal, drwy cysylltu â’ch canolfan gwirfoddi lleol.

Fiona Liddell yw Rheolwr Helplu Cymru, gan weithio o fewn WCVA. Gellir cysylltu â hi drwy ebostio fliddell@wcva.cymru neu ffonio 029 2043 1730.