Aimee Parker sy’n arwain prosiect Dyfodol Gwell Cymru CGGC, sef prosiect peilot sy’n gweithio gyda thair o gymunedau Cymru er mwyn dychmygu a chynllunio ar gyfer ‘Dyfodol Gwell’. Yma, mae’n esbonio rhagor am y fethodoleg a ddefnyddir gan y prosiect.
HADAU NEWID
Y fethodoleg a ddefnyddiwyd ar gyfer y prosiect yma oedd ‘Hadau Newid’. Cafodd y fethodoleg yma ei datblygu gan brosiect Good Anthropocene, ac mae’n defnyddio dulliau dyfodol hygyrch a syml sy’n gweithio gyda chymunedau ac sy’n eu galluogi i ddychmygu eu dyfodol eu hunain a chreu’r newid maen nhw am ei weld. Mae’r fethodoleg ‘Hadau Newid’ wedi cael ei defnyddio’n effeithiol mewn gwledydd eraill a dyma’r tro cyntaf iddi gael ei defnyddio ym Mhrydain.
Ymrwymodd pob un o’r tair cymuned y buon ni’n gweithio gyda nhw ar y prosiect peilot i gymryd rhan mewn dau weithdy tair awr o hyd (wedi’u rhannu’n llai ar gyfer y bobl ifanc o EYST). Roedd y gweithdy cyntaf yn canolbwyntio ar freuddwydio am ddyfodol gwell gan ddefnyddio ‘hadau newid’ i archwilio’r effaith donnog gadarnhaol mae syniadau neu brosiectau bach ac arloesol yn gallu ei chael.
Diffiniad o hedyn yw rhywbeth ‘sy’n annhebygol o fod yn adnabyddus neu sydd wedi’i rannu’n helaeth. Maen nhw’n gallu bod yn fentrau cymdeithasol, yn dechnolegau newydd, yn declynnau economaidd, yn brosiectau ecolegol-gymdeithasol, neu’n sefydliadau, yn fudiadau neu’n ffyrdd newydd o weithredu sy’n ymddangos fel eu bod yn cyfrannu at greu dyfodol sy’n gyfiawn, ffyniannus a chynaliadwy.’
OLWYNION Y DYFODOL
Yn ystod y gweithdy cyntaf, defnyddiwyd olwynion y dyfodol i nodi’r prif bwyntiau trafod gan bob grŵp. Rhannwyd y cyfranogwyr yn bedwar grŵp, a rhoddwyd tri ‘hedyn’ i bob grŵp. Defnyddiwyd yr hadau yma i annog y grwpiau i feddwl am y ffordd y gall un syniad bach ddatblygu ac arwain at newid ehangach.
Enghraifft
Byddai’n syniad da dangos sut mae hyn yn gweithio gydag enghraifft a ddefnyddiwyd gan un o’r grwpiau.
Yn yr enghraifft yma, yr hedyn yw ‘Mynediad at ddulliau trafnidiaeth cynaliadwy yn y gymuned’. Mae’r grŵp yn cael gweledigaeth ar gyfer yr hedyn sydd wedi’i ddatblygu, ac yn yr enghraifft yma y weledigaeth yw byd lle mae gan bawb yn y gymuned fynediad at drafnidiaeth gynaliadwy a fforddiadwy, sydd wedi’i phweru gan ynni adnewyddadwy y mae’r gymuned leol yn berchen arni.
Effeithiau tonnog yr hedyn yw canolbwynt y drafodaeth. Gofynnwyd i’r grwpiau ystyried effeithiau a goblygiadau posibl yr hedyn yma petai’n realiti. Ar gyfer yr enghraifft yma, bu’r grŵp yn siarad am fyd lle mae llai o draffig ar y ffyrdd, gyda chymdeithas decach, llai o allyriadau carbon, aer glanach, rhagor o arian yn eu pocedi, plant yn chwarae ar y stryd, trafnidiaeth am ddim, gwella cyfleoedd cyflogaeth a mynediad at gyfleoedd.
Cafodd y grwpiau eu hannog i freuddwydio mewn ffordd gadarnhaol heb geisio canfod rhwystrau neu resymau dros pam na fyddai modd gwireddu’r freuddwyd.
Y bwriad gyda damcaniaethau ar gyfer y dyfodol yw bod modd i chi ddychmygu byd gwahanol er mwyn gallu ei greu. Daw hyn wrth gydnabod ‘allwch chi ddim rheoli’r dyfodol, ond gallwch chi ddylanwadu arno drwy’r hyn rydych chi’n dewis ei wneud—a’r hyn rydych chi’n dewis peidio â’i wneud.’ (Wendy Schultz)
COFNODI’R SGWRS
Isod, mae poster o olwyn y dyfodol y defnyddion ni i gofnodi’r sgwrs. Gan mai cyfarfodydd dros Zoom oedd rhain, fe ddefnyddion ni fyrddau miro yn ystod y sesiynau, ond byddai siart troi a nodiadau post-it yr un mor effeithiol hefyd.
Sut mae’n gweithio
Ar ôl y gweithdy cyntaf, gofynnwyd i bob mudiad arweiniol ar gyfer pob cymuned feddwl am y sgyrsiau a gafwyd ac i ddatblygu pedwar datganiad gweledigaeth cynrychioladol yn seiliedig ar y themâu a gododd yn ystod y gweithdy cyntaf. Mae’r datganiadau yma’n cael eu defnyddio yn yr ail weithdy.
TRI GORWEL
Cynhaliwyd yr ail weithdy ychydig wythnosau ar ôl y cyntaf. Yn y sesiwn yma, defnyddiwyd y dull tri gorwel er mwyn galluogi’r cymunedau i ystyried ac archwilio’r dyfodol o ddewis ar gyfer eu cymunedau drwy ddefnyddio’r datganiadau a baratowyd. Mae’r dull tri gorwel yn galluogi’r cyfranogwyr i adeiladu’r camau angenrheidiol ar gyfer eu dyfodol o ddewis.
Isod, mae diagram sy’n cynnwys y camau amrywiol a gymerwyd er mwyn cyrraedd y dyfodol o ddewis. Caiff ystafelloedd trafod eu defnyddio ac mae pob grŵp yn cael un o’r datganiadau dyfodol o ddewis, a dyma yw’r trydydd gorwel yn y diagram isod. Mae’r grwpiau yn ystyried sut beth fydd eu dyfodol o ddewis ac yna’n gweithio drwy gwestiynau 2, 3 a 4 yn y diagram.
Roedd hwn yn gyfle i ymgysylltu, i ddysgu ac i ddeall gweledigaethau a dyheadau cymunedau amrywiol ledled Cymru. Rydyn ni’n awyddus i weld y prosiect yn cael mwy o effaith yn ehangach, ac rydyn ni wedi datblygu’r gyfres yma o flogiadau yn ogystal â phodlediadau, flogiau a phecyn cymorth, ac mae’r cyfan ar gael yn fan hyn. Nod yr adnoddau yma, yn enwedig y pecyn cymorth, yw rhoi cyfle i gymunedau eraill ddefnyddio’r ‘hadau newid’ ac i gryfhau gallu cymunedau Cymru i feddwl ymlaen.
I gael rhagor o wybodaeth am brosiect Dyfodol Gwell Cymru, ewch i wcva.cymru/dyfodolgwellcymru.
Credyd prif ddelwedd:
Gys Loubser
CST-GRAID. 2017. Adroddiad ar y Gweithdy Gweledigaeth Anthropocene, 15-18 Tachwedd 2016, Cape Town, De Affrica. Gweithdy prosiect GRAID. Centre for Complex Systems in Transition, Prifysgol Stellenbosch, De Affrica.