Group of happy looking teenagers

‘Allwch chi ddim bod yn rhywbeth allwch chi ddim ei weld’

Cyhoeddwyd: 27/04/21 | Categorïau: Heb gategori, Awdur: Aimee Parker

Fel rhan o brosiect Dyfodol Gwell Cymru, Aimee Parker sy’n siarad am ei phrofiadau o weithio gyda Thîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig a Ieuenctid Cymru (EYST) er mwyn ennyn diddordeb pobl ifanc a’u helpu nhw i ddychmygu ‘dyfodol gwell’.

Defnyddiodd y prosiect peilot Dyfodol Gwell Cymru broses recriwtio agored i nodi tair cymuned i weithio gyda nhw, dwy gymuned ar sail lle ac un gymuned o bobl ifanc.

Ar gyfer y gymuned o bobl ifanc, buon ni’n gweithio gyda EYST er mwyn ennyn diddordeb pobl ifanc (rhwng 11 a 25 oed) o wahanol gefndiroedd ethnig ledled Cymru i gymryd rhan yn y prosiect. Sefydlwyd EYST i rymuso pobl ifanc i deimlo’u bod wedi’u hintegreiddio yng Nghymru, felly roedd yn gweddu’n dda ar gyfer y prosiect.

PLANNU’R HADAU

Yn y gweithdy cyntaf, cafodd y bobl ifanc gasgliad o ‘hadau’ a ddefnyddiwyd i’w hannog i freuddwydio ac i ddychmygu dyfodol gwahanol. I gael rhagor o wybodaeth am yr hadau a’r fethodoleg, darllenwch fy mlogiad am y fethodoleg a ddefnyddiwyd.

Roedd y drafodaeth gyda’r bobl ifanc yn frwdfrydig, yn fywiog ac yn agored. Roedd y trafodaethau eang yn cynnwys:

  • hawliau tai
  • benthyciadau llog isel i bobl ifanc sefydlu busnesau
  • mynediad at gyfleoedd addysg anffurfiol
  • hwb ar-lein er mwyn datrys problemau yn y gymuned, a
  • cheginau a gerddi cymunedol.

 

Deilliodd themâu cryf o’r trafodaethau ac roedd rhain yn cynnwys cydsefyll, cyfranogiad, y gymuned a phwysigrwydd cael modelau rôl cadarnhaol.

Dangosodd y bobl ifanc lawer iawn o empathi a thosturi tuag at ei gilydd yn y gweithdy a thuag at y dyfodol gwell roedden nhw am ei weld. Roedden nhw am weld ffoaduriaid a phobl ifanc yn cael eu croesawu, yn cael eu cynnwys ac yn cael cynnig cyfleoedd. Roedden nhw am weld cymunedau cydlynus a theimlad o gyd-dynnu.

BREUDDWYDION AM DDYFODOL GWELL

Ar gyfer yr ail weithdy, gofynnwyd i dîm EYST feddwl am y themâu a gododd yn ystod y gweithdy cyntaf ac i feddwl am ddatganiadau uchelgeisiol a oedd yn cyfleu breuddwydion y bobl ifanc am ddyfodol gwell.

Dyma oedd y datganiadau:

  • Byd o gyfleoedd lle mae pobl ifanc yn cael eu haddysgu a’u grymuso i gymryd rhan mewn cyfleoedd pwrpasol ar gyfer pobl ifanc – yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
  • Bydd modd i bobl ifanc dduon a lleiafrifoedd ethnig herio sefyllfaoedd a phobl pan fyddan nhw’n teimlo eu bod yn gwahaniaethu yn eu herbyn
  • Bydd pobl ifanc dduon ac o leiafrifoedd ethnig yn gallu canfod y sgiliau newydd maen nhw’n dymuno eu cael ac yn cael cyfleoedd i’w hymarfer

 

Rhannodd y bobl ifanc yn grwpiau trafod a defnyddiwyd y dull tri gorwel i archwilio’r camau sydd eu hangen er mwyn sicrhau’r dyfodol oedd wedi’i ddisgrifio yn y datganiadau.

GOFODAU DIOGEL, MODELAU RÔL CADARNHAOL, A CHWALU’R CWRICWLWM

Roedd gan y bobl ifanc lawer o syniadau am y ffordd o symud tuag at y dyfodol maen nhw am ei weld, ac roedd y rhain yn amrywio o ddylanwadu ar bolisïau, datblygu fframweithiau cyfreithiol newydd, chwalu’r cwricwlwm ysgolion presennol, manteisio i’r eithaf ar botensial y cyfryngau cymdeithasol a chydnabod cymwysterau o wledydd eraill.

Roedden nhw hefyd am greu gofodau diogel lle mae ganddyn nhw’r rhyddid i fynegi eu hunain. Cafwyd trafodaeth drylwyr am fodelau rôl cadarnhaol hefyd; nododd un cyfranogwr, ‘allwch chi ddim bod yn rhywbeth allwch chi ddim ei weld’. Nodwyd bod cael modelau rôl cynrychioladol ym maes addysg, cyflogaeth, chwaraeon a gweithleoedd yn hanfodol.

NEWID Y BYD

Rhannodd y bobl ifanc eu bod yn mwynhau gallu breuddwydio. Roedden nhw’n teimlo’n falch a’u bod yn cyflawni rhywbeth drwy fod yn rhan o’r prosiect, ac roedden nhw’n gwerthfawrogi’r cyfle i siarad am y pethau oedd yn bwysig iddyn nhw.

Roedd y gweithdy’n fywiog ac yn hwyliog, ac yn ystod yr egwyl cafodd cerddoriaeth ei chwarae a buon ni’n tynnu wynebau gwirion ar y camera. Roedd hi’n anrhydedd cael gweithio gyda’r bobl ifanc yma – pobl fynegiannol a brwdfrydig fydd yn sicr yn newid y byd mewn rhyw ffordd!

RHAGOR O WYBODAETH AM BROSIECT DYFODOL GWELL CYMRU

Rydyn ni’n awyddus i weld y prosiect yn cael mwy o effaith yn ehangach, ac rydyn ni wedi datblygu’r gyfres yma o flogiadau yn ogystal â phodlediadau, flogiau a phecyn cymorth, ac mae’r cyfan ar gael yn fan hyn.