Trefnwyd seminar gan Helplu ac Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru, gan ddwyn ynghyd 36 o bobl o wahanol gefndiroedd ym maes ymchwil, ymarfer gwirfoddoli, cynllunio a pholisi. Yma, mae Fiona Liddell, Rheolwr Helplu, yn ystyried y digwyddiad, y themâu sy’n dod i’r amlwg a rôl Helplu.
Rhoddodd Rheolwr Tystiolaeth Helpforce UK, Dr Roland Marden, gyflwyniad ar adolygiad cyffredinol o dystiolaeth a gomisiynwyd gan Helpforce UK a rhai canfyddiadau cynnar hefyd o raglen Arloeswyr Gwirfoddol Helpforce UK. Mae Helpforce UK yn gweithio gyda 12 Ymddiriedolaeth y GIG yn Lloegr sy’n cynnal prosiectau ymyrraeth peilot (wedi’u hariannu gan GIG Lloegr) ac yn archwilio sut i drawsnewid gwirfoddoli mewn ysbytai ac o amgylch ysbytai, er mwyn cynyddu’r effaith ar gleifion, staff a gwasanaethau yn ogystal ag ar y gwirfoddolwyr eu hunain.
Mae profiad y prosiectau a’r partneriaid hyn, ynghyd â’r data a gesglir ar effaith a rhannu syniadau drwy rwydwaith dysgu ehangach, o gymorth i ni wella dealltwriaeth o sut i ddatblygu a dylunio dulliau gwirfoddoli effeithiol mewn sefyllfaoedd gofal iechyd a beth sydd angen ei roi ar waith er mwyn i hyn ffynnu. Y nod yw canfod beth yw elfennau hanfodol llwyddiant sy’n galluogi modelau gwirfoddoli da i gael eu trosglwyddo, a’r hyn sydd angen ei addasu neu ei newid yn lleol.
Mae’r cwestiynau hyn yn rhai pwysig i’r GIG cyfan, er nad ydynt yn aml o ddiddordeb mawr i’r rhai sy’n rhedeg prosiectau ar lefel leol.
Safbwynt Cymru
Ymatebodd tri aelod o’r panel i gyflwyniad Roland Marden: sef Carl Cooper, Angela Hughes a Nick Andrews, gan gyflwyno safbwyntiau cyngor gwirfoddol sirol, profiad nyrsys a chleifion ac ymchwil gofal cymdeithasol, yn y drefn honno. Paratowyd y ffordd ar gyfer trafodaethau eang iawn.
Mae ein fframweithiau strategol yng Nghymru (yn Cymru Iachach a’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant) yn ein hannog i feddwl am atal salwch, darparu gwasanaethau yn nes at y cartref ac adeiladu modelau gofal integredig sy’n croesi ffiniau traddodiadol y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a gwirfoddol.
Mae Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn gyfle i feddwl, cynllunio a chomisiynu mewn ffordd integredig a chynnwys amrywiaeth ehangach o bartneriaid yn y gwaith o lunio gwasanaethau sy’n addas ar gyfer y dyfodol. Mae potensial mawr i unigolion gyfrannu at well iechyd a gofal, fel dinasyddion yn eu cymunedau ac fel gwirfoddolwyr mewn sefydliadau gwirfoddol a sefydliadau yn y sector cyhoeddus, fel y GIG.
Oni fyddai’n wych pe gallai gwaith cynllunio rhanbarthol, fel mater o drefn, gynnwys gwirfoddoli fel dull o ddiwallu blaenoriaethau iechyd penodol, gydag adnoddau priodol yn cael eu neilltuo er mwyn galluogi hyn?
Beth sy’n peri rhwystr?
Mae dadlau o blaid gwirfoddoli fel dadlau dros ‘de a thost’. Mae pawb yn gwybod ei fod yn ‘beth da’ o ran lles unigolion a chymunedau. Mae’n cyfrannu at lawer o Nodau Llesiant Cymru; fel Cymru Iachach ond, hefyd, Cymru Gydnerth, Cymru sy’n Fwy Cyfartal a Chymru o Gymunedau Cydlynus (Lle mae gwirfoddoli yn llwybr tuag at gyflogaeth, mae hefyd yn cyfrannu at Gymru Lewyrchus a lle y defnyddir y Gymraeg, mae’n cyfrannu at Gymru â Diwylliant Bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu).
Ond nid yw hyn yn ddigon i argyhoeddi cynllunwyr a chyllidwyr i fuddsoddi mewn gwirfoddoli nac, ychwaith, i ymddiried yn ei botensial i wneud gwahaniaeth i ganlyniadau iechyd a chanlyniadau cymdeithasol.
Mae angen tystiolaeth arnom. Mae lle i waith ymchwil academaidd, i ateb cwestiynau allweddol gyda thystiolaeth gadarn ddilys (yn mesur yr hyn y dylai ei fesur) a dibynadwy (yn cynhyrchu canlyniadau cyson). Ond mae mathau eraill o dystiolaeth hefyd – dulliau mwy ailadroddol o werthuso a allai helpu i wella ymarfer a dangos effaith. Mae’n bosibl “dysgu am yn ôl”, gan fyfyrio ar yr hyn sydd wedi digwydd, a’r hyn sydd wedi cyfrannu at y canlyniad a ddymunwyd ac a nodwyd.
Mae’r prosiect Datblygu Tystiolaeth –Gwella Ymarfer ym Mhrifysgol Abertawe yn arwain ar greu cysylltiadau rhwng gwaith ymchwil ac ymarfer ym maes gofal cymdeithasol a datblygu methodolegau ar gyfer mesur effaith ystyrlon. Mae Inspiring Impact yn cynnig adnoddau a hyfforddiant ar-lein wedi’u hanelu at sefydliadau gwirfoddol yn ogystal â chyfle i gymryd rhan mewn rhwydweithiau dysgu i gymheiriaid. Mae Helpforce UK yn datblygu pecyn cymorth Insight and Impact, yn seiliedig ar ei brofiad o werthuso’r rhaglen Arloeswyr Gwirfoddol. Pan gaiff hwn ei gwblhau, bydd ar gael fel fframwaith i eraill ei ddefnyddio.
Mae angen mwy o ystyriaeth gydgysylltiedig sy’n seiliedig ar asedau – er mwyn defnyddio adnoddau sydd ar gael eisoes, ac adeiladu arnynt. O ran gwirfoddoli, mae gan sefydliadau gwirfoddol y sgiliau, y profiad a’r capasiti ar gyfer arloesi na ellir ei anwybyddu. Ond mae’r amgylchedd y mae mudiadau gwirfoddol yn gweithredu ynddo yn fregus ac mae mympwyon cyllido a chomisiynu yn golygu bod prosiectau da, staff da a chysondeb yn cael eu colli am y rhesymau anghywir. Yr her o hyd yw llunio systemau gofal integredig gyda lle i bawb: gweithwyr proffesiynol, gweithwyr cyflogedig a gwirfoddolwyr mewn sefydliadau statudol a gwirfoddol, i greu adeiladwaith cydgysylltiedig a chynaliadwy.
Mae angen i ni barhau i ddatblygu dulliau hyblyg a phriodol o gynnwys gwirfoddolwyr. Mewn amgylchiadau ffurfiol, mae safonau ymddygiad a chysondeb wrth ymarfer yn bwysig. Ond ni ddylai hynny olygu bod ‘un dull yn addas i bawb’ o ran recriwtio a chymorth, er enghraifft. Gallai gwirfoddoli gael ei wneud yn fwy deniadol ac yn fwy hygyrch i bobl ifanc, i’r rhai nad oes ganddynt fawr o amser a’r rhai sydd â sgiliau neu anghenion penodol.
Mae arolwg diweddar o dros 10,000 o oedolion, sef Time Well Spent, yn rhoi cipolwg da ar brofiad gwirfoddoli o ansawdd da i wirfoddolwyr, a gall hyn ein helpu i deilwra ein ‘cynnig’ gwirfoddoli i amrywiaeth ehangach o wirfoddolwyr. Mae safon ansawdd Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr wrthi’n cael ei hadolygu ar hyn o bryd, ac yn cynnig fframwaith ymarferol ar gyfer rheoli gwirfoddoli.
Yn llai ffurfiol, mae ysbryd cymunedol a chymwynasgarwch yn cyfrannu’n sylweddol at ein hiechyd a’n lles, gyda llawer iawn o garedigrwydd dynol yn meithrin iechyd a hapusrwydd ar lawr gwlad!
Beth y gall Helplu ei wneud?
Sefydlwyd Helplu prin dair blynedd yn ôl. Deilliodd o’r GIG yn Lloegr, gyda’r weledigaeth o drawsnewid gwirfoddoli o fewn y GIG. Mae wedi datblygu’n gyflym ac mae bellach yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid yn y GIG a’r sector gwirfoddol. Yn ogystal â gweithio gyda phrosiectau lleol fel y disgrifir uchod, mae hefyd yn creu parodrwydd a chapasiti ar gyfer cynnwys gwirfoddolwyr drwy, er enghraifft, weithio gydag arweinwyr clinigol a thrwy ddatblygu adnoddau addysgol a rhwydwaith dysgu i gymheiriaid. Yn ddiweddar, cafodd gontract gan y GIG yn Lloegr i gefnogi’r broses o ddatblygu gwasanaethau iechyd a gofal integredig, rhanbarthol sy’n ymgorffori gwirfoddoli.
Mae Helplu yn gweithio gyda sefydliadau partner yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon sy’n datblygu’r gwaith mewn ffyrdd sy’n berthnasol i’w cyd-destun cenedlaethol eu hunain.
Yng Nghymru, mae gan Helplu, a gaiff ei gynnal gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, rôl yn y gwaith o barhau i agor y ddadl, dylanwadu ar y rhai sydd mewn grym i feddwl yn wahanol am y posibiliadau ar gyfer cynnwys gwirfoddolwyr ac annog buddsoddi mewn adnoddau ac arweinwyr sy’n cefnogi hyn. Mae’n tynnu sylw at ymarfer rhagorol, gan rannu storïau i eraill ddysgu ohonynt a chael eu hysbrydoli ganddynt. Mae’n cysylltu unigolion a phrosiectau gyda mentrau cenedlaethol (Cymru a’r DU) ac arbenigedd ehangach. Mae’n cyflwyno safbwynt Cymru i rai o ddatblygiadau Helpforce UK, gan gynnwys porth addysg ar gyfer gwirfoddolwyr a rheolwyr gwirfoddolwyr a safonau cynefino ar gyfer gwirfoddolwyr mewn iechyd a gofal. Ac yn olaf, mae wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu ychydig o brosiectau peilot yng Nghymru, fel rhan o raglen y DU gyfan gan Helpforce/Marie Curie i gydnabod, gwella ac ehangu rôl gwirfoddoli ym maes gofal diwedd oes.