Mae prosiect Ailgysylltu 50+ ym Merthyr wedi bod yn cadw mewn cysylltiad â phobl hŷn sy’n teimlo’n ynysig mewn ffyrdd newydd yn ystod y pandemig.
Prosiect mentora/cyfeillio dan arweiniad gwirfoddolwyr yw Ailgysylltu 50+ a’i nod yw ailgysylltu’r rheini sy’n teimlo’n unig ac yn ynysig yn eu cartrefi â’r gymuned. Mae gwirfoddolwyr hyfforddedig yn cynnal grwpiau gweithgarwch mewn gwahanol rannau o Ferthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf, gan annog rhyngweithio cymdeithasol a helpu cleientiaid i ail-fagu hyder i gwrdd ag eraill er mwyn gwella’u hunan-barch a pharhau i fod yn annibynnol. Mae’r prosiect yn hybu pobl i feddwl yn bositif ac yn gwella’u hiechyd a lles.
Cyflogir Helen McShea, Rheolwr Prosiect Ailgysylltu, gan Ferthyr Tudful Mwy Diogel (Saesneg yn unig) a hi sy’n goruchwylio’r prosiect, sy’n cynnig cyfleoedd gwirfoddoli amrywiol i’r rheini dros 18 oed. Darperir hyfforddiant llawn i gyflawni’r holl rolau gwirfoddoli o fewn y prosiect.
Caiff atgyfeiriadau eu gwneud gan asiantaethau amrywiol a derbynnir hunanatgyfeiriadau hefyd – mae croeso i unrhyw un 50+ oed sy’n dioddef o unigrwydd a theimlo’n ynysig. Mae Ailgysylltu 50+ yn cynnig gwasanaeth mentora 12 wythnos, cymorth dros y ffôn a’r cyfle i roi cynnig ar wahanol weithgareddau mewn grwpiau gweithgareddau bach, yn dibynnu ar anghenion a diddordebau’r cleientiaid.
CADW MEWN CYSYLLTIAD
Ar ddechrau’r pandemig, gwnaeth y cyfnod clo beri i’r holl grwpiau gweithgareddau cymdeithasol hyn gau, felly symudodd y prosiect i gynnig gwasanaeth cymorth dros y ffôn bob wythnos. Aeth mentoriaid gwirfoddol ati i gadw mewn cysylltiad dros y ffôn gorau y gallent, ond yn gyffredinol, ffonau hen ffasiwn a ddefnyddiwyd nad oedd yn caniatáu cyfathrebiadau dros negeseuon WhatsApp na galwadau fideo. Yn ogystal â hyn, roedd rhai cleientiaid yn drwm eu clyw, felly byddai galwadau fideo a oedd yn caniatáu iddynt ddarllen gwefusau wedi helpu.
Diolch i gydweithwyr yn Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful (VAMT) a’r awdurdod lleol, anogwyd prosiect Ailgysylltu 50+ i wneud cais am grant Ffrind mewn Angen. Defnyddiwyd y grantiau hyn, a gafodd eu cyflwyno i gefnogi strategaeth Unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol Llywodraeth Cymru, i gefnogi nifer o brosiectau cyfeillio ym Merthyr.
CYSYLLTU DRWY DECHNOLEG
‘Gwnaethon ni ganolbwyntio ar TG oherwydd roedd angen i ni wella ein cyfarpar er mwyn cysylltu’n well â’n gilydd a chyda’n cleientiaid’ eglurodd Helen. ‘Bu modd i ni brynu ffonau i’n gwirfoddolwyr a rhai cyfrifiaduron llechen Samsung Galaxy wedi’u llwytho ymlaen llaw. Mae’r rhain yn wych ac yn galluogi rhai o’n cleientiaid i gysylltu â pherthnasau sy’n byw ymhell i ffwrdd. Mae gennym ni gleient yn ei 80au sy’n gallu cysylltu nawr â theulu yn Awstralia.
‘Cafodd gwirfoddolwyr lawer o anogaeth yn eu rôl, i gael cyfarpar newydd fel y gallent gyfathrebu’n well â’u cleientiaid a chyda’i gilydd. Roedden nhw’n gwneud llawer o alwadau ffôn; nid galwadau ‘bod yn gyfeillgar’ yn unig, ond yn trafod rhai problemau a phryderon difrifol iawn ac yn cynnig cefnogaeth emosiynol a chlust i wrando.
‘Yn aml, bydd gwirfoddolwyr yn dechrau fel cleientiaid sy’n mynychu grŵp, sydd eisiau gwneud mwy i helpu eraill. Gwirfoddolwyr yw craidd canolog y prosiect. Maen nhw’n rhoi cymaint o’u hamser ac yn mwynhau helpu pobl eraill.’
ADEILADU SGILIAU
‘Mae cymorth a chyfleoedd hyfforddi i wirfoddolwyr mor bwysig’, meddai Claire Williams, Rheolwr Iechyd a Lles, VAMT ‘Gwnaeth y grant hefyd dalu am hyfforddiant i wirfoddolwyr, mewn cymorth cyntaf, adnabod gwydnwch, atal hunanladdiadau a chefnogaeth ar ôl profedigaeth.’
Er bod rhai grwpiau wedi dechrau cwrdd unwaith eto, nid yw pawb yn barod i ddod yn ôl. Ond nawr, mae ffyrdd eraill o gadw mewn cysylltiad, diolch i’r cyfarpar newydd a’r sgiliau digidol newydd sydd wedi’u hennill. ‘Rydyn ni wedi ailddechrau rhai o’n grwpiau ac wedi gallu cyflwyno cyfrifiaduron llechen i’n cleientiaid a’u haddysgu ar sut i’w defnyddio’ meddai Helen. ‘Rydyn ni wedi gallu cyflogi unigolyn ifanc drwy’r rhaglen Kickstart yn ddiweddar, sy’n mynd i’n holl sesiynau gweithgareddau, yn cyflwyno ac yn addysgu’r genhedlaeth hŷn ar sut i ddefnyddio TG – ac maen nhw’n mwynhau eu hunain hefyd.’
Mynegodd Helen pa mor falch oedd hi â’r hyn y mae’r cyllid wedi gallu ei gyflawni. ‘Rydyn ni eisiau dweud diolch o galon i VAMT am yr arian Ffrind mewn Angen’, meddai‘. ‘Bydd yn newid llawer o fywydau, ymhlith ein tîm o wirfoddolwyr ac yn enwedig ymhlith ein cleientiaid’.
HELPLU
Astudiaeth achos gan Helplu Cymru. Mae Helplu yn gweithio gyda Cefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC a’r 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol (CVCs)), Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu potensial gwirfoddoli i gefnogi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae tudalen Helplu ar ein gwefan yn cynnwys dolenni i erthyglau diweddar, blogiau a storïau achos.