Dyma’r blog cyntaf mewn cyfres gan enillydd Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie 2017, Steve Brooks, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Sustrans Cymru. Yma mae’n sôn am y ffordd y mae’r bwrsari wedi’i helpu i weld arweinyddiaeth entrepreneuraidd o safbwynt newydd, a’r ffordd y mae angen i arweinwyr gynnig atebion yn hytrach na dim ond tynnu sylw at y materion dan sylw.
Wrth glywed y gair ‘entrepreneur’ roedd dwy ddelwedd yn dod i feddwl. Y gyntaf oedd ‘millennial’ sy’n giamstar ar dechnoleg ac sydd â gyrfa bortffolio yn gweithio o ddesgiau poeth mewn man cydweithio yn Indycube ac yn gwneud arian wrth wneud pethau ar y cyfryngau cymdeithasol nad ydw i, a dweud y gwir, yn eu llwyr ddeall.
Yr ail oedd y to hŷn, arloeswyr megis Arianna Huffington, Richard Branson neu James Dyson a oedd wedi meddwl am syniad da i wneud dipyn o arian slawer dydd ac wedi’i ehangu ar raddfa enfawr, ac a oedd bellach yn byw oddi ar yr incwm ac yn gwneud gwaith dyngarol. Er bod gen i gyfrif Instagram ac yn rhoi’n rheolaidd i Oxfam, doeddwn i ddim yn cyd-fynd â’r un o’r ddau ddiffiniad. Ond dechreuodd fy marn newid wedi i mi ddarllen am Walter Dickie.
Bu Walter yn arwain Lloyds TSB yng Nghymru am sawl blwyddyn ac roedd yn ymwneud yn helaeth â sefydliad elusennol y banc. Roedd Walter yn ymddiriedolwr i WCVA a chwaraeodd ran ganolog yn sefydlu cronfeydd buddsoddi i fentrau cymdeithasol. Bu farw Walter yn 2017, ond i nodi ei gyfraniad at fywyd cyhoeddus, sefydlwyd bwrsari i gynorthwyo arweinwyr yn y trydydd sector i ddatblygu eu sgiliau arwain entrepreneuraidd eu hunain.
Wrth ddarllen mwy am Walter Dickie a’r bwrsari er cof amdano, newidiodd y ffordd yr wyf yn meddwl am arweinyddiaeth entrepreneuraidd. Mae’n cynnwys unigolyn sy’n gweithio er-elw, ond hefyd unigolion fel fi sy’n arwain mudiadau dielw.
Mae arweinyddiaeth entrepreneuraidd yn ffordd o weithio, yn ogystal ag yn fath o unigolyn. Mae’n ffordd o feddwl. Mae’n golygu gweld angen am newid a chynnig ateb ymarferol sy’n ariannol hyfyw ac (yn hanfodol i entrepreneuriaid cymdeithasol) o fudd y tu hwnt i elw.
‘Wrth ddarllen mwy am Walter Dickie a’r bwrsari er cof amdano, newidiodd y ffordd yr wyf yn meddwl am arweinyddiaeth entrepreneuraidd…’
Pan ymgeisiais am y bwrsari, doedd dim llawer o amser wedi bod ers i mi ddechrau fel Cyfarwyddwr Cenedlaethol Sustrans Cymru. O ran yr amgylchedd allanol, roeddwn yn gwybod yn union beth oedd angen newid. Mae Cymru’n gaeth i’r car. Mae’r ffordd yr ydym wedi dylunio ein trefi a’n dinasoedd yn golygu mai’r car sy’n tra-arglwyddiaethu, a gyda mwy nag erioed o foduron ar y ffordd a’r rhan fwyaf o deithiau byrion yn dal i gael eu gwneud yn y car, mae’r dasg o’n blaenau yn fawr. Mae llawer i’w wneud, ond mae mynd i’r afael â’r daith i’r ysgol a’r gwaith yn ddau gyfle amlwg. Ac eto, er gwaethaf deddfwriaeth dda megis y Ddeddf Teithio Llesol a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae Cymru’n dal i sgrialu i lawr ffordd beryglus.
Mae ‘bwlch darparu’ yn bodoli, sef bwlch rhwng polisi cenedlaethol a’r gwaith ymarferol o’i ddarparu yn lleol, ac mae hon yn broblem yn y mwyafrif o sectorau yng Nghymru. Roedd y Farwnes Thatcher yn adnabyddus am roi pryd o dafod i weision sifil annelwig pan fyddai eu nodiadau cynghori a’u hargymhellion yn methu â phontio’r ‘bwlch darparu’ hwnnw. Yn ei lyfr ‘Winners’ mae Alistair Campbell yn disgrifio’r cyn brif weinidog yn rhybuddio swyddogion; ‘don’t tell me the ‘what’, I know the ‘what’. Tell me the ‘how’!’
Yn hynny o beth, roedd y Farwnes Thatcher yn llygad ei lle. Gallwn ni gyd weld beth sydd angen digwydd. Mae gwneud iddo ddigwydd yn rhywbeth arall.
Roeddwn wrth fy modd o ennill y bwrsari ac o’r cyfle i fynd i Gyfarfod Blynyddol WCVA yn Llandudno i gasglu’r wobr a chwrdd â theulu Walter, a chlywed am ei fywyd a’i frwdfrydedd dros deithio a chynaliadwyedd. Yn y Cyfarfod, traddodwyd y brif araith gan yr Athro Laura McAllister a soniodd am beryglon arweinyddiaeth ‘ddof’. Rhybuddiodd fod arweinyddiaeth ddof – peidio â herio pethau fel y maent – yn arbennig o beryglus mewn gwlad fechan fel Cymru, a siaradodd am y cyfrifoldeb arbennig sydd ar bob arweinydd yn y trydydd sector i’w herio eu hunain ac eraill yn fwy.
A minnau wedi fy ysbrydoli gan Laura (a Thatcher!) defnyddiais y bwrsari i ddatblygu fy syniadau fy hun ar sut i bontio’r ‘bwlch darparu’. Roedd arna’i eisiau ymchwilio’n fanylach i’r problemau sy’n wynebu cymdeithas wrth deithio o A i B, ystyried perthynas trafnidiaeth â materion eraill megis tai, iechyd cyhoeddus a chyflogaeth, ac edrych ar y ffordd yr oedd gwledydd eraill yn newid pethau ar lefel ymarferol iawn.
Felly, ddiwedd y llynedd, es i ati i ymrestru ar y cwrs Heriau Byd-eang Trafnidiaeth ym Mhrifysgol Rhydychen, ac yn gynharach eleni cymerais ran yn y Copenhagenize Master Class ar ddylunio trefol. Yn y blog nesaf, edrychaf ar rai o’r gwersi o Brifysgol Rhydychen ac amlinellaf y ffordd y mae Denmarc wedi chwyldroi’r ffordd y mae ei dinasyddion yn teithio. Yn olaf, trafodaf sut mae’r bwrsari wedi newid fy ffordd o weithio.