An older man drinking tea with a younger woman

Ailddychmygu gofal cymdeithasol

Cyhoeddwyd: 20/12/22 | Categorïau: Gwirfoddoli, Awdur: Fiona Liddell

Yn ôl adolygiad tystiolaeth ac ymchwil i gynnwys gwirfoddolwyr wrth ddarparu gofal cymdeithasol i bobl hŷn, caiff buddion eglur a nifer o heriau eu nodi. Yma, mae Fiona Liddell, Rheolwr Helplu Cymru CGGC, yn crynhoi’r canfyddiadau.

Mae’r pwysau ar ein system iechyd a gofal wedi’i deimlo’n fawr gan y bobl sy’n derbyn gofal yn y gymuned ac mewn cartrefi gofal. Ac eto, nid yw gwirfoddoli yn y maes cymdeithasol wedi derbyn yr un ffocws ar bolisïau ac arferion ag y mae gwirfoddoli o fewn y GIG.

Awgryma adolygiad llenyddiaeth, Volunteering in Social Care (Saesneg yn unig) (Gwirfoddoli mewn Gofal Cymdeithasol) a gynhaliwyd gan Brifysgol Caint ar ran y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol (RVS) ac adroddiad ymchwil perthnasol gan yr RVS, Reimagining Social Care (Saesneg yn unig) (Ailddychmygu Gofal Cymdeithasol) fod gan wirfoddolwyr rôl hanfodol i’w chwarae, yn enwedig o fewn cartrefi gofal, o ran gwella’r amgylchedd gweithio a byw i staff a thrigolion.

ROLAU GWIRFODDOLWYR

Nodir amrywiaeth eang ofnadwy o rolau, cyfrifoldebau, tasgau a gweithgareddau gwirfoddolwyr; y rhan fwyaf ohonynt mewn lleoliadau preswyl a gofal dydd ac i raddau llai mewn gofal cartref. Cwmnïaeth a gweithgareddau cymdeithasol/diwylliannol yw’r rhai mwyaf cyffredin. Mae gwirfoddolwyr hefyd yn rhoi help ymarferol gyda phethau fel trafnidiaeth a siopa, llywio’r system iechyd a gofal a chymorth arall sy’n ymwneud â llesiant, fel gwella mannau gwyrdd awyr agored.

Yn gyffredinol, gwelwyd gofal personol yn gyfrifoldeb i weithwyr proffesiynol. Pan oedd gwirfoddolwyr yn teimlo eu bod yn cael eu tynnu i mewn i brosesau biwrocrataidd, teimlwyd fod hyn yn cyfyngu ar eu hyblygrwydd a’u hymreolaeth.

Fel arfer, caiff gwirfoddolwyr eu cynnwys gan ddilyn un o dri model. Mae’r gwaith ymchwil y mae’r rhain yn seiliedig arno, a goblygiadau’r modelau gwahanol wedi’u trafod mewn blog blaenorol ‘Dysgu o wirfoddoli gyda phobl hŷn yn y maes gofal cymdeithasol’.

PWY SY’N GWIRFODDOLI, A PHAM?

Er bod gwirfoddoli o fewn lleoliadau  cartref yn fwy deniadol i fenywod dros 50 oed, dangoswyd cryn ddiddordeb mewn gwirfoddoli mewn cartrefi gofal ymhlith pobl iau, a oedd, gan fwyaf, yn chwilio am brofiad a oedd yn ymwneud â chyflogaeth. Mae profiad o’r fath yn cael ei annog fwyfwy gan ddarparwyr hyfforddiant sy’n ymwneud ag iechyd a gofal. Roedd gwirfoddoli o fewn cyd-destunau ffurfiol wedi’u cydlynu, fel o fewn y GIG neu wasanaethau cymdeithasol, yn fwy deniadol na grwpiau lleol anffurfiol.

Canfu gwaith ymchwil yr RVS fod yr ysgogiad i 25% o wirfoddolwyr cartrefi gofal (n=120) yn gysylltiedig â chael anwylyn yn y cartref gofal. Datganodd oddeutu 40% awydd i wneud gwahaniaeth drwy gynorthwyo staff ac ychwanegu at ansawdd y gofal a ddarparwyd. Dywedodd un o bob tri bod ganddyn nhw sgiliau a doniau a allai fod o ddefnydd. Roedd gan y rhan fwyaf o wirfoddolwyr ddiddordeb mewn darparu cefnogaeth gymdeithasol ac emosiynol drwy weithgareddau un-i-un â phreswylwyr.

PA WAHANIAETH GALL GWIRFODDOLWYR EI WNEUD?

Mae tystiolaeth gref o’r effaith gadarnhaol ar breswylwyr cartrefi gofal – ond nid yw’n eglur a yw’r effaith hon yn deillio o’r rhaglenni o weithgareddau a gyflwynwyd gan wirfoddolwyr neu’n syml, o ganlyniad i ryngweithiad cymdeithasol anffurfiol. Gallai meithrin cydberthnasau ystyrlon fod yn fwy arwyddocaol na’r math o weithgaredd. Awgryma hyn, yn ei dro, y ffafrir cynnwys gwirfoddolwr yn rheolaidd dros amser.

Mae llai o dystiolaeth o’r canlyniadau i’r gwirfoddolwyr eu hunain, ond mae’r rhain yn cynnwys buddion cymdeithasol a gyrfaol ac effaith ymddygiad anhunanol.

Adrodda’r astudiaethau effaith bositif ar staff, gan gynnwys yr effaith ar lefelau straen staff, ond nid yw hyn i ddweud bod gwirfoddolwyr yn lleihau llwyth gwaith staff o reidrwydd – weithiau gall cynnwys gwirfoddolwyr ychwanegu at y llwyth gwaith! Serch hyn, mae rheolwyr cartrefi gofal yn ystyried gwirfoddolwyr fel darparwyr gofal amhrisiadwy, yn enwedig o ran diwallu anghenion cymdeithasol ac emosiynol derbynyddion.

YR HERIAU

Gall y risg o drin gwirfoddolwyr fel opsiwn rhatach na staff cyflogedig a chymwys achosi tensiwn rhwng gwirfoddolwyr a staff. Yn yr un modd, nid yw’n glir pa mor broffesiynol y disgwylir i wirfoddolwyr fod. Mae angen ymddwyn yn gymesurol o ran recriwtio, hyfforddi a chodau ymddygiad, yn dibynnu ar y rôl a wneir.

Mae recriwtio a hyfforddi gwirfoddolwyr mewn cartrefi gofal, a rhoi cymorth parhaus iddynt, yn her. Mae angen amser a phrofiad, ac yn aml, nid oes digon o’r rhain ar gael. Gall model partneriaeth lle mae cydlynwyr gwirfoddolwyr o fewn asiantaethau allanol o’r sector gwirfoddol yn cyflawni’r swyddogaeth hon fod yn ffordd lwyddiannus o fynd ati.

Mae’r heriau cyfathrebu yn cynnwys diffyg eglurder ynghylch rolau a chyfrifoldebau a dim digon o werthfawrogiad o normau diwylliannol gwahanol. Er enghraifft, gall hoffter gwasanaethau cyhoeddus am allu rhagweld pethau a chael parhad wrthdaro â dulliau gweithredu mwy anffurfiol gwirfoddolwyr.

Mae cydnabyddiaeth bod angen i gomisiynwyr adlewyrchu cyfraniad gwirfoddolwyr yn well mewn fframweithiau gwasanaethau, canlyniadau a thystiolaeth ac y dylai gwirfoddolwyr gael eu cynnwys mewn prosesau cydgynhyrchiol o ddylunio a gwneud penderfyniadau.

Mae angen cymorth ariannol ar gyfer gwirfoddoli ac mae’r costau cychwynnol yn uchel ar y dechrau, gydag elw ariannol positif yn cael ei adrodd mewn cartrefi gofal ar ôl 18 mis. Mae angen i’r gwerthusiad o’r budd cymdeithasol gynnwys y buddion i wirfoddolwyr, preswylwyr, staff a’r gymdeithas ehangach. Mae’r rhain yn anodd eu mesur.

EFFAITH EHANGACH

Gall gwirfoddolwyr alluogi cydberthnasau cryfach rhwng gwasanaethau a chymunedau lleol. Gallant helpu i ddod â gwasanaethau a ddarperir gan ddarparwyr gwahanol ynghyd, gan sicrhau bod y gweithgaredd yn cael ei gydlynu, ei fod yn gyson ac yn canolbwyntio ar y defnyddiwr gwasanaeth. Ond, mae’n anodd cael tystiolaeth o honiadau o’r fath.

Mae gwaith ymchwil yr RVS yn arwain yr awduron i gredu y gall mwy o gyfranogiad dinesig drwy wirfoddoli gefnogi model gofal newydd sy’n canolbwyntio ar lesiant staff a phreswylwyr. Ymddengys fod awydd ymhlith y cyhoedd i wirfoddoli mewn cartrefi gofal. Mae tystiolaeth fod staff cartrefi gofal eisiau gweithio gyda gwirfoddolwyr ac y gall rolau gwirfoddoli sydd wedi’u dylunio’n dda gyflwyno buddion sylweddol i breswylwyr, teuluoedd a staff. Gall gwirfoddoli hefyd fod yn borth i yrfa neu gyflogaeth yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Y weledigaeth radical, a gaiff ei chyfleu gan yr RVS, yw am fodel gofal sy’n fwy ‘perthynol’ na ‘thrafodaethol’; un sy’n ymwneud â mwy na diwallu anghenion sylfaenol, ond yn hytrach, sy’n helpu pobl i ffynnu a mwynhau bywyd.

‘Mae gwirfoddolwyr yn cyflwyno wynebau, profiadau a grwpiau oedran newydd i gartrefi gofal, gan roi mwy fyth o gyfleoedd i breswylwyr – yn enwedig y rheini heb deulu neu ymwelwyr rheolaidd – ryngweithio ac ymhél â phobl eraill’ (Aelod staff cymorth cartref gofal)

Mae hyn i gyd yn sylfaen bositif i adeiladu arni.

YNGLYN Â HELPLU CYMRU

Mae Helplu Cymru yn gweithio gyda Chefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC ac 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol (CVCs)), Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu potensial gwirfoddoli i gefnogi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Ewch i dudalen we Helplu Cymru, neu i dderbyn diweddariadau ar e-bost, cofrestrwch yma a dewiswch yr opsiwn ‘gwirfoddoli iechyd a gofal’.