Mae mudiadau gwirfoddol yn rhan fawr o gymdeithas sifil, ochr yn ochr ag undebau llafur ac ysgolheigion. Mat Mathias o ERS Cymru sy’n bwrw golwg ar gymdeithas sifil yng Nghymru ac yn gofyn sut gallwn gynnwys mwy o fudiadau gwirfoddol wrth ei datblygu.
Yn 2018, gofynnodd cydweithwyr yng Nghymdeithas Diwygio Etholiadol yr Alban i fi gadeirio panel mewn cynhadledd o’r enw Democracy 21. Fe’i datblygwyd o amgylch syniad go syml; y dylai fod gan bobl bŵer ar y cyd i wneud i bethau da ddigwydd drostynt eu hunain a’u cymunedau ac i ddefnyddio’r pŵer hwnnw i atal pethau drwg rhag digwydd.
Daeth dros 450 o bobl, gan gynnwys ysgolheigion a deddfwyr, ond ar y cyfan roedd yn ddigwyddiad a ddangosodd gryfder cymdeithas sifil yr Alban. Roedd yn llawn o grwpiau cymunedol, gweithredwyr, trefnwyr cymunedol, artistiaid a chrewyr a oedd yno i drafod yr heriau oedd yn wynebu democratiaeth.
Yn amlwg fe wnaeth i fi feddwl am gymdeithas sifil yng Nghymru. Ein heffaith? Ein rhan ni? A allem gymharu?
Yn hanesyddol efallai bod cymdeithas sifil weddol gydlynol wedi bod yn yr Alban gan fod ganddyn nhw sefydliadau cryfach hyd yn oed cyn i’w Senedd ailymgynnull yn 1999. Wrth gwrs, rydym wedi gweld cymdeithas sifil yng Nghymru hefyd. Os edrychwch chi ar grwpiau cymunedol gweithgar yn y blynyddoedd ar ôl y rhyfel hyd at yr wythdegau – sef cymdeithas sifil gref iawn – ond a fydden ni wir yn gallu ei galw’n gymdeithas sifil unigryw Gymreig?
Mae datganoli yn y ddwy wlad wedi datblygu eu priod gymdeithasau sifil ymhellach. Dywedwch beth y mynnoch ond mae ein sefydliadau nid yn unig yn agosach at y bobl maen nhw’n ceisio eu cynrychioli o ran pellter ond o ran cyfle i ddylanwadu.
Un o’r problemau yw bod nifer o’r grwpiau sy’n ymwneud â chymdeithas sifil ddim yn gwybod eu bod yn rhan ohoni. Mae’n hawdd i grŵp cymunedol sy’n gweithio’n ddiflino ac yn dawel newid bywydau pobl yn eu milltir sgwâr i feddwl am eu gwaith mewn ffordd ynysig, ond maen nhw’n rhan o’r gymuned rydyn ni’n ei hadnabod fel cymdeithas sifil – sut rydyn ni’n rhoi gwybod iddyn nhw? Sut rydyn ni’n eu cynnwys nhw a beth sy’n ddisgwyliedig ohonyn nhw pan maen nhw’n gwneud?
Beth am ein cymdeithas sifil weithredol sydd wedi datblygu ochr yn ochr â sefydliadau gwleidyddol newydd Cymru? Ble nesaf iddyn nhw … ni? A sut rydyn ni’n rhoi’r hwb sydd ei angen ar gymdeithas sifil Cymru i ddechrau efelychu llais sifil cryf ac unigryw yr Alban?
Gofynnodd ERS Cymru, ochr yn ochr â Sefydliad Bevan, yr union gwestiynau hynny ddiwedd y llynedd mewn digwyddiad a gynhaliwyd yn y Pierhead ym Mae Caerdydd. Fe wnaethon ni edrych ar ble rydyn ni nawr ond y prif fwriad oedd drafftio argymhellion ar gyfer yr hyn oedd angen digwydd nesaf.
Gofynnwyd i tua 50 o gynrychiolwyr weithio mewn grwpiau i lunio argymhellion penodol ar sut i wella cymdeithas sifil. Yna pleidleisiodd yr ystafell gyfan i gefnogi (neu beidio) argymhellion pob grŵp ac arweiniodd hynny at restr o 11 argymhellion.
https://docs.google.com/document/d/1LcpSou8NAvuGLzByk9OIqdyS510gtKwUdq0VdqU6eNE/edit?usp=sharing
Yr her sydd gennym yw mynd y tu hwnt i’r ystafell honno. Nid 50 o bobl ym Mae Caerdydd ddylai fod yr unig rai sy’n gyfrifol am ddod o hyd i syniadau ar sut i gryfhau cymdeithas sifil ledled Cymru.
Dyna pam rydyn ni angen i chi fwrw golwg, ychwanegu eich sylwadau a’ch syniadau eich hunan a rhannu hyn ymhlith eich rhwydweithiau fel y gallan nhw wneud yr un peth.
Os ydym am fynd i’r afael â rhai o’r heriau sylfaenol sy’n wynebu cymdeithas sifil yng Nghymru, yna mae angen sgwrs eang arnom ynglŷn â sut i wneud hynny o fewn Bae Caerdydd, ond yn hollbwysig, y tu hwnt i Fae Caerdydd.
Mae dod â 450 o bobl at ei gilydd i siarad am ddemocratiaeth Cymru ac ymrymuso’r gymuned yn teimlo’n bell i ffwrdd, ond gallwn gymryd camau i bontio’r bwlch ac i gryfhau ein cymdeithas sifil er budd yr holl bobl mae’n eu cynrychioli a’u cefnogi.