Sesiwn Carnegie yn Treorci

Adrodd straeon er mwyn sicrhau llwyddiant trefi Cymru

Cyhoeddwyd: 27/05/20 | Categorïau: Heb gategori, Awdur: Lauren Pennycook

Mae Lauren Pennycook, Uwch Swyddog Polisi a Datblygiad gyda Carnegie UK Trust yn edrych ar sut y gall adrodd straeon gynorthwyo i wella trefi ledled Cymru unwaith y bydd argyfwng Covid-19 wedi gostegu.  

Mae’r enfys wedi dod yn symbol o obaith mewn ffenestri ledled Cymru yn ystod pandemig COVID-19. Maen nhw’n codi calonnau plant lleol; yn ein hatgoffa nad yw stormydd yn para am byth; ac, yn y pen draw, yn ein hannog i ddilyn trywydd yr enfys. Ond mae iddynt bwrpas dyfnach na hynny. Maen nhw’n symbol o’r hyn ydym ni a’r hyn mae cymunedau’n dyheu am fod – yn gefnogol, yn unedig, ac yn canolbwyntio ar y dyfodol. Maen nhw’n adrodd stori’r hyn mae cymunedau’n ei brofi heddiw, ynghyd â gobaith ar gyfer yfory.

Does unman lle ceir adlewyrchiad amlycach na hyn o stori cymuned na Threorci. Mae’r dref fechan yng Nghwm Rhondda yn ne Cymru wedi gweddnewid o’i gorffennol cynddiwydiannol i fod mewn lle blaenllaw ymysg strydoedd mawr Prydain. Fe’i trawsnewidiwyd o gael ei hadnabod am ei diwydiant glo, i gorau meibion, i fandiau pres, i gyfyngu ar frandiau mawrion ar ei stryd fawr. Mae hi wedi profi’r uchelfannau – darganfyddiad yr ‘Aur Du’ yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg – a’r iselfannau – colli’i diwydiant a’i phobl. Mae pob un o’r penodau hyn yn rhan o stori Treorci. Ond pwy sy’n ysgrifennu’r naratif hwn, a sut, a phryd?

Ceir tystiolaeth ryngwladol  glir ynglŷn â grym adrodd straeon fel arf i wella llefydd. Fel rhan o gyfres o fesurau a gynlluniwyd i drawsnewid ffawd cymunedau, ceir prawf bod trefi sydd â stori glir o ran eu hanes a’u pwrpas wedi ffynnu. Ond o dan ba amgylchiadau y gellir atgynhyrchu’r canlyniadau a welwyd yn America, Awstralia a Seland Newydd yn nes at adref? Ydy hi’n bosibl defnyddio straeon i gefnogi trefi yn y DU?

Aeth y Carnegie UK Trust – un o’r sefydliadau mwyaf yn y DU a leolir mewn tref – ati i archwilio’r union gwestiwn hwn trwy ei brosiect Talk of the Town. Yn dilyn proses ymgeisio gystadleuol, dewisodd y sefydliad gefnogi Treorci a Scarborough gydag arbenigedd adrodd straeon – dwy dref wahanol â gorffennol, amgylchiadau presennol a dyheadau gwahanol iawn. Gyda chefnogaeth broffesiynol ym maes adrodd straeon, daethpwyd â dinasyddion ar draws strydoedd, sectorau, ac amgylchiadau at ei gilydd i adnabod stori eu tref nhw sy’n llinyn euraidd o’i gorffennol, ei phresennol a’i phosibiliadau i’r dyfodol. Yn Nhreorci, mae eu stori’n cydnabod treftadaeth ddiwydiannol y dref, yn dathlu ei llwyddiannau ar y stryd fawr, ac yn edrych ymlaen at yr hyn y gall ei  hardaloedd awyr agored, ei chreadigrwydd, a thwristiaeth wneud trwy weithio mewn partneriaeth.

Ond sut gellir atgynhyrchu hyn ledled Cymru? Profodd Treorci lwyddiant sylweddol wrth ymwrthod â thueddiadau cenedlaethol, rhyngwladol hyd yn oed, ar y stryd fawr, gyda thros 80% o fusnesau yn siopau bŵtig annibynnol; digwyddiadau sinema awyr agored sy’n denu 500 o bobl; a phartneriaethau unigryw yn eu lle rhwng bysiau a busnesau. Wrth gwrs nid yw’n bosibl, a ni ddylid ceisio, copïo’r gweithgareddau hyn ledled y wlad – mae gan bob tref ei hanes, ei rhinweddau a’i chyfleoedd gwahanol. Yn hytrach, mae hyn yn ymwneud â dwyn cymunedau ynghyd mewn naratif cyfunol fel bod eu stori wedi’i saernïo a’i bod, yn anad dim, yn cael ei defnyddio wrth ddatblygu trefi.

Yr hyn y gallwn gynnig yw adlewyrchiadau, o fod wedi cynnig y gefnogaeth adrodd straeon hon, gennym ninnau a thrigolion Treorci a Scarborough – i gyllidwyr, gwneuthurwyr polisi ac ymarferwyr sydd â diddordeb mewn cefnogi adrodd straeon yng nghymunedau Cymru.

Yn gyntaf, yr angen am drysor – pot bychan o gyllid neu ddarpariaeth o gefnogaeth uniongyrchol – i ddatgloi capasiti ar gyfer cyfranogiad llawn a gweithgar; i dalu costau; ac i gyflenwi allyriadau creadigol er mwyn parhau â’r sgwrs. A lle darperir cefnogaeth trwy arbenigedd adrodd straeon, gall defnyddio sgiliau mudiad o fewn y gymuned ddarparu’r hyder, yr annibyniaeth a’r didueddrwydd y mae rhai aelodau o’r gymuned yn dyheu amdano.

Ond ni all arian brynu amser. Mae dwyn aelodau’r gymuned ynghyd er mwyn datblygu stori eu tref yn broses hir-dymor, ailadroddol o alluogi, ymgysylltu a golygu. Gall defnyddio cyfleoedd lle mae’r gymuned eisoes yn dod ynghyd, fel mater o drefn neu mewn argyfwng, gefnogi’r broses trwy ddefnyddio perthnasau a rhwydweithiau sy’n bodoli eisoes i’w llawn effaith.

Dyna pam fod ymddiriedaeth yn allweddol. Hynny yw, ymddiriedaeth rhwng aelodau’r gymuned sydd ynghlwm yn y broses o saernïo’r stori, ac ymddiriedaeth rhwng y cyllidwr a’r gymuned. Mae’r parodrwydd i gyd-gynhyrchu; y grym ymgynulliol i gario’r gymuned ar y siwrnai; a’r defnydd o wagleoedd yr ystyrir eu bod yn ddiogel, yn niwtral ac yn garedig, oll yn cynorthwyo i hyrwyddo ymddiriedaeth a pherthnasoedd gweithio effeithiol.

Ac yn olaf sicrhau amrywiaeth mewn meddylfryd – rhaid i’r rheiny ar draws gwahanol strydoedd, gwagleoedd a sectorau gael eu cynrychioli mewn trafodaethau ynglŷn â stori’r dref. Byddai absenoldeb cynrychiolaeth lawn o ddemograffeg y dref, o’i strwythurau economaidd a chymdeithasol, yn arwain at ddiffyg dilysrwydd.

Rhaid i’r trigolion fedru gweld eu hunain yn stori’r dref – yn yr hyn a ddywed y stori am orffennol y dref, ei hamgylchiadau presennol, a’i gobeithion ar gyfer y dyfodol. Mae ymdriniaeth sy’n pontio’r cenedlaethau yn sicrhau nad yw’r stori’n byw yn y gorffennol; nid yw’n berchen yn gyfangwbl i’r rheiny yn y presennol; ac yn ystyried anghenion a dyheadau cenedlaethau’r dyfodol. Yn Nhreorci, cafodd plant ysgol eu cynnwys yn y prosiect o’r cychwyn cyntaf, a thrwy ystyried eu gobeithion ar gyfer eu tref yn y dyfodol, mae eu stori’n ceisio dal gafael ar ei thrigolion, a denu eu cyfatebwyr i sicrhau ei chynaliadwyedd.

Felly, pan ddaw’r amser i ni dynnu pob enfys i lawr o ffenestri Cymru, gall y bennod nesaf yn stori ei chymunedau gychwyn – pennod ynglŷn â’r modd y newidion nhw eu ffyrdd o fyw a gweithio; sut y dalion nhw eu gafael ar eu ffyrdd newydd o ddod ynghyd yn ystod y pandemig; sut yr ailadeiladon nhw’n gryfach. Ond bydd y bennod hon wedi’i gwreiddio’n gadarn yn hanesion ein cymunedau a’u gobeithion ar gyfer y dyfodol. Bydd y bennod hon wedi’i gwreiddio’n gadarn yn y modd y daeth pandemig byd-eang wyneb yn wyneb ag ymateb lleol, o ganlyniad i’r man y daeth cymunedau Cymru ohono, lle maen nhw ar hyn o bryd, a’r hyn maen nhw’n dyheu am gael bod.