Ar adeg pan na fu gwasanaethau iechyd a gofal erioed o dan gymaint o bwysau, nac mor brin o staff, beth yw rôl briodol gwirfoddolwyr? Mae Fiona Liddell yn archwilio.
Mae wedi’i nodi bod gwirfoddoli ‘yn galluogi cymdeithas i weithio fel y dylai’. Mae hyn yn ei dro yn cyfrannu at lesiant cymunedol ac atal anhwylderau, ynghyd â chynyddu gwydnwch cymunedol. Mae Fiona Liddell yn archwilio.
GWIRFODDOLI YN Y GYMUNED
Mewn papur a baratowyd i’w drafod gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, gwnaethom gyflwyno rhai enghreifftiau o wirfoddoli yn y gymuned, y sector gwirfoddol ac mewn lleoliadau awdurdodau lleol. Mae pob un ohonyn nhw’n cynnwys gwirfoddolwyr wrth ddarparu gofal lefel isel yn y gymuned, sy’n cyfrannu at wydnwch cymunedol. Gwnaethom nodi pa fath o strwythurau cymorth ac adnoddau oedd ei angen ym mhob achos i ategu gwirfoddoli llwyddiannus.
Nodwyd tair enghraifft benodol, un yn y gymuned, un a gyflawnwyd gan rwydwaith o fudiadau gwirfoddol ac un a oedd wedi’i hymwreiddio o fewn awdurdod lleol.
ENGHREIFFTIAU O WIRFODDOLI
Mabwysiadodd Gofal Cardi fodel llwyddiannus Gofal Solfach i mewn i gymuned Aberporth (mae adroddiad gwerthuso ar gael bellach). Mae gwirfoddolwyr yn cynnig cwmnïaeth ac yn hwyluso cysylltiad cymunedol drwy weithgareddau a digwyddiadau. Mae cydlynydd rhan-amser yn rheoli gwirfoddolwyr, yn eu paru â rolau a thasgau ac yn ymddwyn fel pwynt cyswllt.
Yng Nghwm Taf, mae chwe mudiad gwirfoddol yn gweithio gyda’i gilydd i gynnig gwasanaeth cyfeillio ac yn galluogi ymgysylltiad cymdeithasol yn ardal y bwrdd iechyd. Mae’r gwirfoddolwyr yn gweithio gyda phobl dros 50 oed a’u teuluoedd a’u gofalwyr, gan fynd ati mewn modd strwythuredig a chydgynhyrchiol i gefnogi teithiau newid personol. Cydlynir y prosiect gan fudiad Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful, a chaiff ei gyllido gan grant o’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol (RIF).
Yn Sir Ddinbych, mae’r gwirfoddoli a ddechreuodd yn ystod y pandemig i gynorthwyo pobl yn y gymuned wedi’i brif ffrydio bellach o fewn darpariaeth yr awdurdod lleol. Fel rhan o’r tîm ‘ar ymyl gofal’, o fewn y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion, ac yn cyd-weithio gyda mudiadau trydedd sector, caiff gwirfoddolwyr eu paru â dinasyddion i gynnig cymorth lefel isel. Mae eu hadborth nhw yn helpu i ddiweddaru ymarferwyr Gofal Cymdeithasol Oedolion ac yn galluogi achosion cymhleth i gael eu huwchgyfeirio. Mae hyblygrwydd a meddwl agored gwirfoddolwyr yn galluogi canlyniadau gwell sy’n seiliedig ar ‘yr hyn sy’n bwysig’ i ddinasyddion a gofalwyr.
Gallwch chi ddarllen y papur briffio yma.