Mae Kelly Huxley-Roberts o Sefydliad Banc Lloyds yn myfyrio ar rai o’r sgyrsiau pwerus a gafwyd yn gofod3 eleni a’r camau y bydd yr ariannwr yn eu cymryd nesaf.
MYFYRDODAU AR GOFOD3
Eleni, roedd gofod3 yn gyfle gwych i ni yn Sefydliad Banc Lloyds helpu i ddwyn ynghyd bron i 1,000 o bobl a mudiadau cymunedol sy’n siapio newid ledled Cymru bob dydd. Fel prif ddigwyddiad y sector gwirfoddol yng Nghymru, mae gofod3 yn creu lle i fudiadau sydd wedi’u gwreiddio mewn cymunedau rannu’r hyn maen nhw’n ei weld, yr hyn sydd ei angen ar bobl, a’r cymorth fyddai’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf.
Roedd eleni’n teimlo’n arbennig o arwyddocaol. Cynhaliwyd y digwyddiad ychydig wythnosau’n unig ar ôl etholiad y Senedd ac, ar ôl sawl blwyddyn ariannol ac ymarferol heriol i lawer o elusennau a mudiadau cymunedol, roedd hi’n braf cael y teimlad y gallai newid cadarnhaol fod yn bosibl – os gwnawn ni siarad yn glir fel mudiad unedig o bobl sydd gweithio i sicrhau newid.
Roedd hi’n galonogol gweld y Dirprwy Brif Weinidog, Sioned Williams, yn dangos ei chefnogaeth i’r sector gwirfoddol, gan nodi ei ffocws ar ‘barch, undod a chwarae teg’ a gosod tôn gadarnhaol ar gyfer sgyrsiau trwy gydol y dydd.
Meddai Rheolwr Effaith Gymunedol Cymru, Rachel Marshall:
‘Y rhan fwyaf gwerthfawr o’r diwrnod oedd bod yn rhan o’r sgyrsiau am yr hyn sy’n bwysig yng Nghymru: y pwysau sy’n wynebu cymunedau, pwysigrwydd atal, cryfder arweinyddiaeth leol, a’r angen i gydweithredu’n well fel bod gwaith da yn gallu mynd ymhellach.’
MEWN LLE DA
Fel prif noddwyr, roeddem yn ddiolchgar i gael presenoldeb cryf trwy gydol y digwyddiad, ac am y gefnogaeth ardderchog a gafwyd gan dîm CGGC ar y diwrnod! O’n stondin arddangos a’n hanerchiad croeso, lle lansiwyd ein strategaeth newydd Mewn Lle Da, i’n trafodaeth banel ar newid a arweinir gan y gymuned a’r gweithdy arloesi ym maes gwirfoddoli, gwnaeth gofod3 ein galluogi i gwrdd ag elusennau, grwpiau cymunedol, arianwyr, partneriaid o’r sector cyhoeddus a llunwyr polisi o bob cwr o’r genedl, a gwrando arnynt.
Wrth wraidd Mewn Lle Da mae gweledigaeth syml ond uchelgeisiol: y dylai pawb yng Nghymru a Lloegr allu dweud eu bod mewn lle da yn bersonol, mewn cartref sy’n lle da i fyw, ac mewn cymuned sy’n lle da i berthyn.
Daeth y sgyrsiau yn gofod3 â’r weledigaeth honno’n fyw. Clywsom gan fudiadau sydd eisoes yn gwneud gwaith pwerus yn eu meysydd, yn aml gyda chreadigrwydd, ymrwymiad ac ymddiriedaeth ddofn. Mae’r sgyrsiau hyn wedi cryfhau ymhellach y cyffro rydym yn ei deimlo am y rôl allweddol sydd gennym wrth gysylltu a chataleiddio: defnyddio’r hyn rydym yn ei glywed o sgyrsiau ledled Cymru i lunio ein dull gweithredu, meithrin perthnasoedd cryfach, a helpu i sicrhau’r effaith fwyaf ar gyfer cymunedau.
Meddai Cherrie Bija, un o ymddiriedolwyr Sefydliad Banc Lloyds:
‘Mae ein gweledigaeth i bawb fod mewn lle da yn weledigaeth a rennir ac nid yw’r uchelgais hon yn rhywbeth y gall unrhyw un mudiad neu ran o gymdeithas ei gwneud ar ei ben neu ar ei phen ei hun.
Byddwn ni’n gwneud ein rhan, ac rydyn ni eisiau gweithio gydag eraill i gyflawni hyn.’
Cawsom ein calonogi gan ddidwylledd ac egni’r bobl y gwnaethom siarad â nhw. Croesawodd llawer ein hymrwymiad i fabwysiadu dull hirdymor sy’n cyfuno cyllid, dylanwadu, gwirfoddoli, partneriaethau a dysgu. Gwnaeth eraill ein herio ni i sicrhau bod y strategaeth yn gweithio i Gymru, gan adlewyrchu ei chymunedau, ei diwylliant, ei hiaith a’i chyd-destun gwleidyddol.
DECHRAU NEWYDD
Dim ond y dechrau yw’r sgyrsiau a ddechreuwyd yn gofod3. Maent wedi rhoi sylfaen gryfach i ni feithrin perthnasoedd ledled Cymru a deall ble y gall y Sefydliad ychwanegu gwerth.
Rydym nawr yn symud i gam cyflawni ein strategaeth newydd. Dros y naw mlynedd nesaf byddwn yn gweithio tuag at dri nod uchelgeisiol ledled Cymru a Lloegr:
- cyflawni effaith ym mhob etholaeth seneddol
- pweru newid a arweinir gan y gymuned mewn 100 o leoedd lleol erbyn 2035
- tyfu’r amser a’r arian a roddir bob blwyddyn
Rydym hefyd yn falch iawn o groesawu Rachel Jones fel ein Pennaeth Newid a Arweinir gan y Gymuned newydd yng Nghymru. Mae Rachel yn ymuno ar adeg gyffrous i Gymru a bydd yn chwarae rôl allweddol wrth helpu’r Sefydliad i ddyfnhau perthnasoedd ag elusennau a mudiadau a arweinir gan y gymuned, datblygu ein gwaith mewn mannau lleol, a sicrhau bod yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru yn parhau i siapio a dylanwadu ar gyfeiriad y Sefydliad yn y dyfodol er mwyn sicrhau mwy o effaith.
Ochr yn ochr â hyn, rydym yn dechrau cyflwyno ystod o raglenni newydd sy’n gysylltiedig â’n strategaeth. Un o’n prif flaenoriaethau cynnar yw’r gwaith rydym yn ei wneud ar Lle Da i Fyw, gan gynnwys lansio’r Cronfa Dechrau Newydd, buddsoddiad gwerth £8 miliwn i atal digartrefedd ledled Cymru a Lloegr. Bydd y gronfa yn helpu mudiadau sy’n gweithio gyda phobl ar drobwyntiau critigol, gan helpu i atal digartrefedd cyn iddo ddigwydd.
Roedd y brwdfrydedd, y gonestrwydd a’r cydweithredu a brofwyd gennym yn gofod3 yn ein hatgoffa pam mae’r gwaith hwn yn bwysig. Mae Cymru’n gyfoethog o ran arweinyddiaeth gymunedol, creadigrwydd a phenderfyniad. Ein tasg nawr yw adeiladu ar y cryfderau hynny, parhau i wrando ar y mudiadau sydd agosaf at gymunedau, a defnyddio ein rôl i gysylltu a chataleiddio fel bod mwy o bobl a lleoedd ledled Cymru yn gallu bod mewn lle gwirioneddol dda.
YNGLŶN Â SEFYDLIAD BANC LLOYDS
Diolch yn fawr iawn i Sefydliad Banc Lloyds ar gyfer Cymru a Lloegr am bartneru unwaith eto â CGGC fel prif noddwr gofod3. Ni fyddai’r digwyddiad yn bosibl heb eu cefnogaeth, a gallwch ddarganfod mwy am yr hyn y mae Sefydliad Banc Lloyds yn ei wneud i gefnogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru yn www.lloydsbankfoundation.org.uk.

