Dyma Siân Eagar, Swyddog Gwydnwch CGGC, yn blogio am ein gwaith parhaus yn cynorthwyo mudiadau gwirfoddol i adeiladu eu gwydnwch
Yn ystod gofod3, roedden ni’n falch o ddechrau sgwrs ynghylch y model gwydnwch y mae CGGC yn ei ddatblygu ar gyfer y sector yng Nghymru.
Adeiladu gwydnwch y sector gwirfoddol sydd wrth wraidd cynllun strategol newydd CGGC. Mae ein gwaith yn y maes hwn wedi’i lywio gan brofiadau’r sector yn ystod y cyfnod heriol y mae pob un ohonom ni wedi bod yn byw o’i fewn. Rydyn ni’n deall bod gwydnwch mudiadau gwirfoddol yn gydgysylltiedig â gwydnwch unigolion a chymunedau ac â phroblemau ehangach o fewn sectorau. Er mai nod gwaith polisi CGGC yw hyrwyddo buddiannau’r sector a mynd i’r afael â’r materion ehangach hynny, rydyn ni hefyd yn gweithio i roi’r wybodaeth a’r cymorth sydd eu hangen ar fudiadau i ddatblygu eu gwydnwch.
DIFFINIAD O WYDNWCH A’I NODWEDDION
Mae CGGC yn diffinio ‘gwydnwch’ fel:
gallu mudiad i gynllunio ar gyfer newid ac ymateb ac addasu iddo, gan ei alluogi i oroesi a ffynnu, nawr ac yn y dyfodol.
Mae hwn yn gysyniad positif sy’n ymwneud â hyblygrwydd, symud ymlaen (yn hytrach nag yn ôl), esblygu a datblygu ein nodau yn ôl amgylchiadau ac anghenion newidiol.
Rydyn ni wedi edrych ar yr hyn sy’n gwneud mudiadau yn wydn ac wedi nodi rhai meysydd allweddol, yr ydyn ni’n eu galw’n nodweddion gwydnwch. Rydyn ni wedi dwyn y nodweddion ynghyd o dan benawdau lefel uchel, ac mae hyn wedi ein galluogi i greu ein model gwydnwch.
MODEL GWYDNWCH
Mae’r model hwn yn cyflwyno’r nodweddion gwydnwch fel rhannau sy’n gweithredu ar wahanol lefelau o fudiad;
- Canolbwynt y mudiad
Dangosir hyn drwy’r Gwerthoedd a Diben a Phobl
- Meysydd craidd
Mae hyn yn adlewyrchu’r Llywodraethu a Rheoli, Adnoddau Cynaliadwy, Cydberthnasau, Dysgu a Gwella sydd eu hangen ar fudiadau i ffynnu
- Themâu trawsbynciol
Mae hyn yn cynnwys Diwylliant a ffyrdd o weithio a Chyfathrebu, nodweddion sy’n croesi pob rhan o’r mudiad
Mae’r holl nodweddion hyn yr un mor bwysig, a phob un ohonyn nhw’n gweithio i greu mudiad gwydn.
Rydyn ni wedi creu’r darlun gweledol hwn i helpu i ddangos y prif feysydd sydd angen i fudiad weithio arnyn nhw er mwyn adeiladu ei wydnwch. Wrth i ni barhau i ddatblygu’r model hwn, rydyn ni’n gobeithio y bydd yn cael ei ddefnyddio gan fudiadau i hybu dealltwriaeth ac fel pwynt cychwynnol i ennyn trafodaeth. Bydd CGGC hefyd yn ei ddefnyddio fel sylfaen i ddatblygiad parhaus ein gwasanaethau gwybodaeth a chymorth.
CWESTIYNAU ALLWEDDOL
Wrth i ni ddatblygu ein model gwydnwch, gwnaethon ni lunio rhai cwestiynau allweddol a’n helpodd ni i nodi’r meysydd y dylen ni eu blaenoriaethu. Os hoffech chi ddechrau sgwrs yn eich mudiad am wydnwch, yna rydyn ni’n credu y bydd y cwestiynau hyn hefyd yn ddefnyddiol i chi:
- Beth sy’n gyrru ein mudiad?
- Beth sydd ei angen arnon ni i weithredu’n effeithiol?
- Pwy ydyn ni a sut ydyn ni’n cyflawni pethau?
- Ydyn ni’n gwneud pethau’n dda?
- Sut ydyn ni’n ymgysylltu ag eraill ac yn cynyddu ymwybyddiaeth o’n gwaith?
Trwy weithio drwy’r cwestiynau hyn, byddwch chi’n cael dealltwriaeth well o’ch mudiad, eich cryfderau a gwendidau presennol a’ch anghenion a blaenoriaethau, sef y cam cyntaf i adeiladu gwydnwch.
Y DAITH WYDNWCH
Mae pob mudiad gwirfoddol yn wahanol – o ran anghenion, adnoddau, amgylchedd gweithredu a ble y mae o ran ei ddatblygiad. Pan ddaw hi i adeiladu gwydnwch, nid oes un dull sy’n addas i bawb, ond bydd parodrwydd i ddysgu ac ymrwymiad i weithio ar y nodweddion gwydnwch yn eich rhoi chi ar y trywydd cywir.
CAMAU NESAF
Bydd CGGC yn defnyddio’r model gwydnwch fel sylfaen i waith yn y dyfodol i gynorthwyo mudiadau gwirfoddol. Ein nod yw creu’r blociau adeiladu a fydd yn galluogi mudiadau i gael gafael ar wybodaeth a chyngor sy’n berthnasol i’w hanghenion a’u lefel ddatblygu bresennol yn hawdd. Byddwn ni’n parhau i ymhél â chi er mwyn gwneud yn siŵr bod eich gwaith ar y pwnc hwn yn ymarferol ac yn werthfawr.
Os nad ydych chi eisoes wedi gwneud, dechreuwch siarad am yr hyn y mae gwydnwch yn ei olygu i’ch mudiad a rhowch wybod i ni. Bydden ni’n hoffi clywed gennych chi drwy e-bost at seagar@wcva.cymru
Beth am gofrestru i gael ein cylchlythyr hefyd ac edrych ar ein tudalen hyfforddiant am ragor o wybodaeth am y cymorth y mae CGGC yn ei gynnig ar bynciau sy’n ymwneud â nodweddion gwydnwch.