Mae grŵp o bedwar o weithwyr, dwy fenyw a dau ddyn, yn eistedd ac yn sefyll o amgylch desg, mae'r ddau ddyn yn ysgwyd llaw

Adeiladu gofal cymunedol integredig trwy bartneriaeth

Cyhoeddwyd: 06/02/26 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Awdur: Amy Meredith-Davies

Amy Meredith-Davies o Gyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe (CGGA) sy’n edrych ar wersi o fodel iechyd meddwl a lles Clwstwr Cwmtawe ar gyfer gweithio mewn partneriaeth.

MAE INTEGREIDDIO YN DECHRAU DRWY DDEALL Y GYMUNED

Wrth wraidd gofal cymunedol integredig mae egwyddor syml: caiff iechyd a lles pobl eu llunio gan fwy na gofal clinigol yn unig. Mae cysylltiad cymdeithasol, cymorth emosiynol, diogelwch ariannol ac ymdeimlad o berthyn i gyd yn chwarae rhan bwysig yn y ffordd y mae pobl yn profi iechyd a salwch.

Mae mudiadau gwirfoddol wedi gweithio o fewn y realiti hwn ers tro. Maent yn cefnogi pobl sy’n byw gyda gorbryder, unigrwydd, trawma a chyflyrau hirdymor mewn ffyrdd sy’n hyblyg, yn berthnasol ac sydd wedi’u gwreiddio mewn cymunedau lleol. Daw eu cryfder o ymddiriedaeth, hygyrchedd a’r gallu i ymateb i sefyllfaoedd cymhleth mewn ffyrdd nad yw gwasanaethau traddodiadol yn gallu ei wneud yn aml.

Gwnaeth partneriaeth Clwstwr Cwmtawe gydnabod hyn o’r cychwyn cyntaf. Yn hytrach nag ystyried yr hyn oedd ar goll, canolbwyntiodd partneriaid ar ddeall yr hyn oedd eisoes yn gweithio’n dda ar draws y sector gwirfoddol a sut y gallai’r arbenigedd hwn gysylltu’n well â gofal sylfaenol a chymunedol.

SYMUD O WEITHIO CYFOCHROG I WEITHIO MEWN PARTNERIAETH

Yn hanesyddol, mae gwasanaethau’r sector gwirfoddol a gwasanaethau iechyd statudol wedi gweithio ochr yn ochr â’i gilydd yn hytrach na gyda’i gilydd. Gall atgyfeiriadau fod yn anghyson, gall ymwybyddiaeth fod yn gyfyngedig a gall cyfleoedd i gydweithredu gael eu colli. Mae hyn wedi arwain at ddarnio, dyblygu ac aneffeithlonrwydd ar draws y system.

Nod y newid yng Nghlwstwr Cwmtawe oedd gweithio mewn partneriaeth bwrpasol, creu dealltwriaeth gyffredin, gwella cyfathrebu, ac ennyn ymddiriedaeth. Doedd e’ ddim yn ymwneud â chynnwys mudiadau gwirfoddol mewn strwythurau statudol; roedd yn ymwneud â’u cydnabod fel partneriaid cyfartal sydd â’u harbenigedd eu hunain.

Trwy adeiladu perthnasoedd a chynllunio mewn ffordd gydweithredol, daeth gwasanaethau’r sector gwirfoddol yn fwy gweladwy mewn llwybrau lleol. Yn sgil hyn, gallai pobl gael eu cefnogi’n gynharach, mewn ffordd fwy holistaidd, ac mewn ffyrdd oedd yn adlewyrchu eu profiad bywyd.

MAE BUDDSODDI YN BWYSICACH NA DYBLYGU

Un o’r gwersi hanfodol o Gwmtawe yw bod integreiddio yn gofyn am fuddsoddiad, nid efelychiad. Yn rhy aml, mae systemau iechyd a gofal yn ymateb i angen heb eu diwallu trwy geisio ailadrodd dulliau cymunedol mewn gwasanaethau statudol. Er bod y bwriadau’n dda, mae risg y bydd y rhain yn anwybyddu’r ffaith bod gan fudiadau gwirfoddol y sgiliau, y perthnasoedd a’r wybodaeth sydd eu hangen eisoes.

Mae mudiadau gwirfoddol yn arbenigwyr mewn gweithio gyda phobl. Mae eu dulliau gweithredu yn aml yn arloesol, yn ystyriol o drawma, ac wedi eu llunio’n uniongyrchol gan leisiau’r bobl y maent yn eu cefnogi. Mae digon o arbenigedd ganddynt; yr hyn sydd ei angen arnynt yw cyllid cynaliadwy a chydnabyddiaeth ar lefel system.

Trwy fuddsoddi mewn gwasanaethau’r sector gwirfoddol a’u hymwreiddio mewn llwybrau gofal integredig, gall systemau adeiladu ar yr hyn sydd eisoes yn gweithio. Mae hyn yn arwain at well defnydd o adnoddau, canlyniadau cryfach i unigolion, a system gofal cymunedol fwy gwydn yn gyffredinol.

INTEGREIDDIO FEL PROSES BERTHYNOL

Un o’r mewnwelediadau pwysicaf yw bod integreiddio yn dibynnu ar bobl yn cymryd yr amser i wrando, i ddeall rolau ei gilydd, ac i fynd i’r afael â gwahaniaethau mewn iaith, diwylliant ac atebolrwydd.

Mae cymorth ymroddedig ar gyfer datblygu partneriaethau, gan gynnwys rolau sy’n cysylltu gofal sylfaenol, gofal cymdeithasol, a gwasanaethau’r sector gwirfoddol, wedi bod yn hanfodol wrth sicrhau bod y gwaith hwn yn gallu mynd rhagddo. Yn CGGA, mae’r Pennaeth Iechyd a Lles, Trawsnewid a Phartneriaeth yn chwarae rôl allweddol wrth bontio sectorau, cysylltu partneriaid, alinio blaenoriaethau strategol a chefnogi perthnasoedd sy’n helpu i roi gweithgarwch integreiddio ar waith. Y llwyddiant go iawn yw’r ymrwymiad cyffredin i weithio’n wahanol ac i osod arbenigedd cymunedol wrth wraidd y gwaith o ddylunio gwasanaethau.

EFFAITH AR BOBL A CHYMUNEDAU

Pan fydd integreiddio’n gweithio, caiff y manteision eu teimlo gliriaf gan y bobl sy’n defnyddio’r cymorth. Mae gofal cymunedol integredig yn ei gwneud hi’n haws dod o hyd i’r help cywir ar yr adeg gywir, heb i bobl orfod mynd i’r afael â systemau cymhleth ar eu pennau eu hunain. Mae’n lleihau’r pwysau ar ofal sylfaenol, yn cefnogi gweithgarwch atal ac ymyrraeth gynnar, ac yn helpu pobl i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi mewn ffyrdd sy’n adlewyrchu eu bywydau cyfan, nid dim ond eu symptomau.

GWERSI A DDYSGWYD

Mae gwaith Cwmtawe yn adeiladu ar lwyddiant hanes hirsefydlog o weithio mewn partneriaeth rhwng CGGA, y trydydd sector, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a’r clystyrau. Mae Cwmtawe yn dangos bod partneriaethau â’r sector gwirfoddol yn fwy nag ychwanegiad dewisol i ofal integredig; maent yn un o gonglfeini’r gofal hwnnw.

Mae’n dangos bod gofal cymunedol integredig yn cael ei adeiladu trwy werthfawrogi perthnasoedd, buddsoddi yn yr arbenigedd sy’n bodoli eisoes, a gweithio ar y cyd ar draws sectorau.

Mae mudiadau gwirfoddol yn cynnig gwybodaeth ddofn am brofiadau bywyd pobl a chymunedau. Pan gaiff yr arbenigedd hwn ei gydnabod a’i ymwreiddio mewn systemau gofal, a phan gaiff adnoddau eu darparu ar ei gyfer, ceir cymorth mwy ymatebol a chynaliadwy sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Wrth i ofal integredig barhau i esblygu, mae’n amlwg nad yw trawsnewid yn cael ei weld wrth ailadrodd ymarfer cymunedol mewn gwasanaethau statudol; yn hytrach, mae’n cael ei weld drwy fuddsoddi yn y rhai sydd eisoes yn gwneud hyn yn dda a phartneru â nhw.

AM FWY O WYBODAETH

Darganfyddwch fwy am Brosiect Iechyd a Gofal CGGC.

Darganfyddwch fwy am Fodel Iechyd Meddwl a Lles Clwstwr Cwmtawe.