Cyn digwyddiad gofod3, mae Ben Lewis, Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru, yn esbonio pam mae’n bwysicach nag erioed i’r sectorau gwirfoddol ac addysg uwch weithio gyda’i gilydd.
Ers dros hanner can mlynedd, mae’r Brifysgol Agored wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth i gynyddu cyfleoedd a galluogi dysgu. Fel addysg, mae gwirfoddoli a’r sector gwirfoddol yn hanfodol i dyfu a gwella ein cymunedau, yr economi a bywyd cenedlaethol.
Mae llawer o wasanaethau cyhoeddus pwysig y mae pob un ohonom yn dibynnu arnynt naill ai’n cael eu cefnogi, neu’n cael eu darparu’n gyfan gwbl, gan y sector gwirfoddol. Mewn oes economaidd anodd, mae’r sector gwirfoddol yn dod yn bwysicach fyth, ac eto mae’n aml dan fwy fyth o bwysau.
CREU CYFLEOEDD NEWYDD
Dyna pam mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn hapus iawn eleni i fod yn un o noddwyr Aur gofod3 CGGC, ar ôl bod yn gysylltiedig â’r digwyddiad ers ei sefydlu yn 2017. Rydym yn parhau i fod yn falch o’n perthynas sy’n datblygu nid yn unig gyda CGGC fel llais cenedlaethol y sector gwirfoddol, ond hefyd gyda chynifer o gynghorau gwirfoddol sirol a mudiadau unigol yn y sector gwirfoddol ar draws ein gwlad.
Drwy’r partneriaethau hyn, gyda’n gilydd, rydym yn creu cyfleoedd newydd i’r unigolion sy’n gweithio ac yn gwirfoddoli yn y mudiadau hynny, yn ogystal â defnyddwyr gwasanaethau a buddiolwyr. Mae’r cyfleoedd hynny’n rhoi cyfle i bobl ehangu eu gwybodaeth, datblygu sgiliau newydd, a gwireddu eu potensial.
DYSGU HYBLYG
Mae ein dysgu hyblyg o bell yn galluogi pobl i sicrhau bod eu hastudiaethau’n cyd-fynd â’u hymrwymiadau amrywiol eraill, boed hynny’n wirfoddoli, cyflogaeth, cyfrifoldebau gofalu, neu unrhyw beth arall. Rydym yn enwog am yr hyblygrwydd hwnnw, a dyna sy’n ein gwneud y darparwr addysg uwch israddedig rhan-amser mwyaf yng Nghymru.
Wrth gwrs, rydym mewn sefyllfa unigryw fel yr unig brifysgol sy’n gweithredu ar draws Cymru gyfan ac yn ei gwasanaethu. Rydym hefyd yn rhan o’r Brifysgol Agored ehangach, sy’n gweithio ar draws pedair gwlad y DU. Mae ein cyfuniad o raddfa a ffocws cenedlaethol yn ei gwneud yn bosibl i ni weithio gyda chynifer o fudiadau a phartneriaid ledled Cymru, a chefnogi’r sector gwirfoddol ledled y wlad.
CEFNOGI’R SECTOR A’I HOLL FUDDIOLWYR
Mae gennym dros 16,000 o fyfyrwyr ledled Cymru ac rydym wedi gweld mwy a mwy o fyfyrwyr yn dewis astudio gyda ni ers diwygio’r system cyllid myfyrwyr chwe blynedd yn ôl. Rydym yn falch bod bron i hanner ein myfyrwyr yn dod o rai o gymunedau mwyaf difreintiedig ein gwlad, a bod dros ddwy ran o dair yn gweithio’n llawn-amser neu’n rhan-amser ochr yn ochr â’u hastudiaethau.
Mae ei gwneud yn bosibl i bawb yng Nghymru – beth bynnag fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau – elwa o effaith drawsnewidiol yr hyn sydd gan addysg uwch i’w gynnig yn hanfodol i lwyddiant ein gwlad a’n cymunedau yn y dyfodol. Mae’n hanfodol i’n datblygiad economaidd, ond hefyd, yn bwysig, i les ein dinasyddion.
ELWA DRWY WIRFODDOLI YN GOFOD3
Mae ein rhaglen Elwa Drwy Wirfoddoli, y mae CGGC yn bartner ynddi, yn un o’r ffyrdd rydym yn gwneud hyn. Mae’r rhaglen, sydd bellach yn ei hail gam, wedi’i llunio gan ac ar gyfer y sector gwirfoddol. Mae’n rhoi cyfle i wirfoddolwyr wella eu sgiliau a’u gwybodaeth er mwyn iddynt fanteisio i’r eithaf ar wirfoddoli.
Rydym yn edrych ymlaen at drafod y rhaglen yn gofod3. Bydd yr adborth a’r syniadau a gasglwn yn ystod y digwyddiad yn helpu i lunio cam nesaf y rhaglen, ac rwy’n falch o ddweud ei bod eisoes yn cael ei datblygu. Rydym yn parhau i fod yn ddiolchgar am gefnogaeth a chyfraniad CGGC ac eraill yn y gwaith hwn.
DEWCH I DDWEUD HELO!
Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am sut y gall y Brifysgol Agored eich helpu chi, eich sefydliad a’ch gwirfoddolwyr, siaradwch â’m cydweithwyr a fydd yn mynychu gofod3 ac yn hapus iawn i siarad â chi. Ar ran fy holl gydweithwyr yn y Brifysgol Agored yng Nghymru, hoffwn ddymuno diwrnod llwyddiannus i bawb a fydd yn mynychu gofod3.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gofod3 a chofrestru ar gyfer sesiwn Y Brifysgol Agored yng Nghymru – Sut gall y Brifysgol Agored yng Nghymru helpu i ddatblygu gwirfoddolwyr – drwy fynd i gofod3.cymru.