Yn dilyn eu sesiwn yn gofod3, dyma Ben Lewis, Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru, yn rhannu pam a sut rydym yn gweithio gyda’n gilydd i gefnogi mudiadau gwirfoddol.
Fis diwethaf, mynychais ddarlith flynyddol Raymond Williams yn Eglwys Norwyaidd Caerdydd, a drefnwyd gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith. Yn debyg i gofod3, mae’n ddigwyddiad blynyddol y mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn falch o’i gefnogi.
Cyflwynwyd y ddarlith eleni gan Dr Sabrina Cohen-Hatton, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gorllewin Sussex. Mae gan Sabrina radd (a bellach gradd er anrhydedd) o’r Brifysgol Agored yng Nghymru, a hi yw un o’r swyddogion tân benywaidd uchaf yn y DU.
Mae ei stori’n ysbrydoliaeth. Er iddi gael ei gwneud yn ddigartref pan oedd yn 15 oed, daeth yn swyddog tân dair blynedd yn ddiweddarach. Yna, aeth ymlaen i astudio tuag at ei gradd Prifysgol Agored cyn ennill ei doethuriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.
Yn ei haraith, edrychodd Sabrina ar yr effaith negyddol y gall tlodi ei chael ar iechyd a llesiant, a sut mae addysg wedi ei helpu hi ac eraill i ddianc oddi wrtho. Roeddwn yn gallu uniaethu â hyn oherwydd bûm yn gweithio am flynyddoedd yn datblygu rhaglenni a oedd yn helpu i alluogi pobl ifanc agored i niwed i wneud cynnydd mewn addysg uwch. Yma yn y Brifysgol Agored, rydym yn gweld ein hunain fel mudiad cymdeithasol yn ogystal â lle i ddysgu, ac mae stori Sabrina yn cyfleu’r hyn y gellir ei gyflawni.
GWIRFODDOLI A’N CENHADAETH DDINESIG
Y nodau cymdeithasol hyn – ein cenhadaeth ddinesig – yw sail y berthynas sydd gennym gydag CGGC a sector gwirfoddol Cymru. Yn debyg iawn i’r Brifysgol Agored, mae mudiadau gwirfoddol wedi’u sefydlu i roi cyfle i bobl wella eu hamgylchiadau personol, yn ogystal â rhoi rhywbeth yn ôl i’w cymuned.
Yn gofod3 eleni, gwnaethom siarad â chynrychiolwyr am Elwa drwy wirfoddoli, rhaglen rydym wedi’i llunio gyda Cefnogi Trydydd Sector Cymru. Dros wyth sesiwn ar-lein, rydym yn helpu gwirfoddolwyr i ddatblygu sgiliau proffesiynol, fel hyder, gwydnwch ac arweinyddiaeth.
Gwnaethom hefyd drafod Hyrwyddwyr OpenLearn. Yn y fenter hon, rydym yn tywys gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y sector, a gwirfoddolwyr, drwy ein platfform dysgu am ddim, OpenLearn, fel y gallan nhw, yn eu tro, helpu eu defnyddwyr gwasanaethau a chydweithwyr i ddysgu pethau newydd.
(Rydym wedi trefnu sesiwn hyfforddi ar-lein arbennig ar Hyrwyddwyr OpenLearn ar 8 Gorffennaf 2025 i staff y sector gwirfoddol a gwirfoddolwyr. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.)
Ers i ni gyflwyno’r rhaglenni hyn, rydym wedi cefnogi dros 200 o wirfoddolwyr, ac mae rhai wedi symud ymlaen i fodiwlau Mynediad a graddau gyda’r Brifysgol Agored. Erbyn hyn, mae gennym hefyd dros 500 o hyrwyddwyr OpenLearn sy’n wirfoddolwyr ar hyd a lled Cymru.
CYDBERTHNASAU STRATEGOL
Rydym wrthi’n dylunio cytundeb partneriaeth strategol gydag CGGC.
Pam gwneud hyn?
Er bod cydberthynas agos wedi bod rhwng y ddau fudiad erioed, bydd gwneud hyn yn ffurfiol yn ein helpu i ganfod rhagor o ffyrdd o alinio ein prosiectau a’n rhaglenni. Bydd hefyd yn ein dod â ni’n agosach at fudiadau lleol, a Chynghorau Gwirfoddol Sirol ledled Cymru.
Mae Sabrina hefyd yn unigolyn sy’n rhoi ychydig o’i hamser i wirfoddoli fel llysgennad ar gyfer y Big Issue, sef cylchgrawn yr arferai werthu ar strydoedd Casnewydd pan oedd yn ifanc.
Gan fyfyrio ar ei thaith bersonol, daeth y ddarlith i ben gyda hi’n trafod cael gwared â’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag cyflawni eu potensial. Dyma pam y sefydlwyd y Brifysgol Agored yn y lle cyntaf, a pham mae ein gwaith parhaus gyda mudiadau gwirfoddol mor hanfodol.
Ben Lewis yw Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru
RHAGOR O WYBODAETH
Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn noddi gofod3, ac yn gweithio mewn partneriaeth ag CGGC i helpu mudiadau gwirfoddol i uwchsgilio. Gallwch ddysgu rhagor am sut gall y Brifysgol Agored eich cefnogi yn university.open.ac.uk/wales.