Mae Ruth Marks, Prif Weithredwr CGGC, yn rhannu ei haddunedau yn ymwneud â’r sector gwirfoddol ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Roedd 2020 yn flwyddyn wahanol, a chyda dathliadau wedi’u gohirio am y tro, nid yw’n syndod fod cychwyn y Flwyddyn Newydd yn teimlo’n hynod wahanol hefyd.
Mae’r pandemig byd-eang yn parhau – gyda newyddion da ynglŷn â brechlynnau wedi’i lesteirio gan ledaeniad brawychus y feirws a’r cyngor a’r rheoliadau cysylltiedig.
I’r sector gwirfoddol, mae’r pandemig yn parhau i olygu cynnydd mewn galw a golyga hyn, ynghŷd ag ymadawiad y DU o’r EU, fod ansicrwydd hefyd yn parhau i gynyddu.
Yn ystod 2020 cafwyd ffocws enfawr ar y sector – o alwadau am wirfoddolwyr i gydnabyddiaeth o’r gwasanaethau niferus a ddarperir gan elusennau cenedlaethol yn ogystal â rôl mudiadau llawr gwlad lleol sy’n gweithio’n ddi-flino mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru yn cael eu hamlygu’n gyson.
Cafodd agweddau o fiwrocratiaeth eu tynnu yn ôl yn lleol ac yn genedlaethol, gan sicrhau bod modd i gefnogaeth mawr ei angen gyrraedd grwpiau sy’n gweithio ar y rheng flaen. Mae mudiadau’r sector gwirfoddol sy’n derbyn cyllid cyhoeddus wedi hen arfer â monitro ac adrodd rheolaidd ac, yn wir, yn ymgyrchu dros graffu a thryloywder.
Fe ddysgodd y sector gryn dipyn y llynedd ac mae angen i ni ddal ein gafael ar yr hyn a ddysgom, tra’n cynnal y lefel briodol o drylwyredd a gymhwysir i grantiau a chytundebau.
Felly, yn ysbryd dysgu ac adeiladu ar 2020, dyma fy rhestr o addunedau yn ymwneud â fy ngwaith gydag CGGC ar gyfer 2021:
CYFYNGU AR AMSER SGRIN
Rydym ni i gyd wedi bod yn treulio ychydig gormod o amser ar ein hamrywiol sgriniau dros y flwyddyn ddiwethaf – boed hynny mewn cyfarfodydd Zoom, ar y cyfryngau cymdeithasol, neu’n pori’n boenus (‘doomscrolling’) trwy’r newyddion diweddaraf, credaf y gallem elwa eleni o rywfaint yn fwy o drefn yng nghyd-destun ein gweithgarwch ar-lein.
HYRWYDDO GWEITHREDU CYMDEITHASOL GAN BOBL IFANC
Bu 2020 yn flwyddyn hynod gythryblus i bobl ifanc. Mae’r feirws yn parhau i achosi problemau o ran addysg a chymdeithasu, gan effeithio’n sylweddol ar eu lles meddyliol. Buom yn weithredol wrth hyrwyddo gwirfoddoli ymysg pobl ifanc a phwer ieuenctid yng Nghymru – ac ni fydd 2021 ddim gwahanol.
AMLYGU GWAITH GRWPIAU LLEOL WRTH GWRDD AG ANGHENION LLEOL
Gwelsom gymunedau anhygoel yn dod ynghyd i wneud mwy o wahaniaeth gydol y pandemig. Aeth mudiadau gwirfoddol fel Clwb Rygbi Nant Conwy a’r Ganolfan Entrepreneuriaeth Affricanaidd ati i addasu eu gwasanaethau gan ddod yn hybiau o fewn eu cymunedau lleol. Byddwn yn tynnu sylw at waith arbennig mwy o grwpiau lleol (a mudiadau gwirfoddol Cymru) dros y flwyddyn sydd i ddod.
RHANNU PROFIAD Y SECTOR GWIRFODDOL YNG NGHYMRU YN COP26
Mae’r argyfwng hinsawdd byd-eang yn mynd yn fwy dyrys bob dydd. Rydym yn falch o weithio mewn partneriaeth â Cynnal Cymru, sy’n gweithio tuag at newid agweddau ynglŷn â chynaliadwyedd ar lefel gorfforaethol. Mae ein prosiect Partneriaethau Natur Lleol yn adeiladu rhwydwaith adfer byd natur led led Cymru. A phan fydd Glasgow yn cynnal Uwchgynhadledd COP26 y Cenhedloedd Unedig yn 2021, byddwn yn hyrwyddo negeseuon ynglŷn â’r gwaith arbennig sy’n cael ei wneud yn y sector gwirfoddol yng Nghymru i godi ymwybyddiaeth a lliniaru effeithiau newid hinsawdd – felly rhowch wybod am yr hyn rydych chi’n ei wneud.
CYNNAL CYSYLLTIADAU Â PHARTNERIAID EWROPEAIDD
Ym mis Chwefror 2020 (sy’n teimlo fel degawd yn ôl) fe aethom â chriw draw i Frwsel i gysylltu ac ymgysylltu ag amrywiaeth o fudiadau gwirfoddol Ewropeaidd. Yn 2021 byddwn yn cryfhau’r cysylltiadau hynny – oherwydd, er ein bod yn gadael sefydliadau Ewrop, rydym yn ddi-os yn parhau’n rhan o Ewrop.
GWAHODD PRIF WEITHREDWYR NEWYDD ELUSENNAU I GWRDD A SGWRSIO
Mae unrhyw un sy’n fy adnabod i’n gwybod fy mod i bob amser yn awyddus i gael clonc fach – os ydych chi’n Brif Weithredwr newydd ar elusen sy’n chwilio am wyneb cyfeillgar neu glust lawn cydymdeimlad, mae croeso i chi gysylltu am baned a chlonc!
CYNYDDU CYFNEWIDIADAU A LLEOLIADAU AR SECONDIAD
Rydym wrth ein bodd o groesawu ein Cyfarwyddwr Cynorthwyol Judith Stone yn ôl o’i secondiad fel Prif Weithredwr Sefydliad Aren Cymru eleni. Mae secondiadau a lleoliadau yn gyfle arbennig i ddatblygu’n bersonol a rhannu sgiliau rhwng sefydliadau yn y sector gwirfoddol. Edrychaf ymlaen at ragor o’r rhain eleni.
CEFNOGI GWAITH EIN GRŴP EDI (ADDYSG, AMRYWIAETH A CHYNHWYSIANT)
Y llynedd cafodd anghydraddoldebau cymdeithas eu hamlygu i’r eithaf, gyda nifer o gymunedau’n dioddef mewn modd anghyfartal o effeithiau’r pandemig. Mae CGGC yn ymroddedig i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb ble bynnag y gwelwn dystiolaeth ohono – a rhaid i ni ddechrau gartref. Rydym wedi ffurfio grŵp EDI mewnol i’n helpu i adnabod ein gwendidau a sut i’w hunioni. Yn allanol, byddwn yn parhau i gefnogi grwpiau BAME yng Nghymru i gael mynediad i gyllid a chyngor i’w helpu i ffynnu.
CYDWEITHIO Â STAFF AR SYNIADAU O BETHAU HWYLIOG I’N CYSYLLTU NI
Bu’n newid enfawr i staff ar draws y sector gwirfoddol wrth orfod newid i weithio ar-lein o gartref – llawer ohonynt â phroblemau gofal plant neu drefniadau byw cymhleth a helaethwyd gan y pandemig. Rwy’n credu i ni wneud gwaith da wrth gadw ein staff yn bositif ac wedi’u cysylltu â’i gilydd – amrywiol glybiau wythnosol, cwisiau arlein, a pherfformiad ar-lein anhygoel gan yr eicon drag o Gymru, Dr Bev, hyd yn oed. Eleni, byddwn yn cydweithio ymhellach â staff er mwyn penderfynu sut gallwn eu cefnogi’n fwy effeithiol hyd yn oed.
ANNOG Y SECTOR GWIRFODDOL I WEITHIO GYDA’I GILYDD
Os dysgom unrhyw beth gan wirfoddolwyr a mudiadau cymunedol yn 2020, fe ddysgom ein bod ni wir yn gallu gwneud mwy o wahaniaeth gyda’n gilydd. Yn dilyn ymgynghori helaeth gyda’n haelodau a’r sector gwirfoddol ehangach, yn 2021 byddwn yn ehangu ein cynnig aelodaeth fel bod modd i ni weithio mewn partneriaeth yn fwy effeithiol fyth a helpu i adeiladu gwell Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Ceir gwybodaeth ynglŷn ag ymaelodi â CGGC ar ein tudalenau aelodaeth.