Yma, mae Fiona Liddell, Rheolwr Helplu Cymru, yn edrych yn feirniadol ar ble mae gwirfoddolwyr yn ffitio, o ran cynllunio’r gweithlu ar ôl COVID-19.
CWESTIWN DADLEUOL
Mae a yw gwirfoddolwyr yn cyfri fel rhan o’r gweithlu, neu fel rhywbeth gwahanol ac ar wahân wedi bod yn gwestiwn dadleuol ers tro byd. Gellid dadlau fod yr hyn a ddiystyriwyd unwaith fel dim mwy nag ystyriaeth ddibwys yn dod yn un pwysicach.
Mae’r byd ôl-Covid yn un lle mae cyllid yn fwy prin a’r anghenion am iechyd a gofal cymdeithasol wedi cynyddu. Drwy’r pandemig, rydyn ni wedi gweld rhai enghreifftiau anhygoel o fudiadau yn cyd-dynnu ac yn dod o hyd i ffyrdd o osgoi’r rhwystrau arferol sy’n ein cadw ni’n gweithio yn ein ‘seilos’ gwahanol. Rydyn ni wedi gweld staff cyflogedig a gwirfoddolwyr yn gweithio ochr yn ochr â’i gilydd efallai mwy nag erioed.
Mae cyfle nawr am drafodaethau newydd ynghylch sut rydyn ni’n datblygu ac yn defnyddio ein gweithlu cyflogedig a’n gwirfoddolwyr, er mwyn adeiladu mwy o wydnwch, mwy o wasanaethau cydgysylltiedig ac er mwyn gallu diwallu anghenion y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau yn well.
Mae hyn i gyd, felly, yn rhoi mwy o bwys ar y cwestiwn: a yw gwirfoddolwyr yn rhan o’r gweithlu ai peidio?
PLYMIO’N DDYFNACH
Yn naturiol, mae cwestiwn yn codi o ran diffiniad.
Mae cynllunio’r gweithlu ac adrodd yn dueddol o ymwneud â ‘staff’ – ar gael staff gyda’r sgiliau a’r gwerthoedd cywir yn y man cywir ar yr adeg gywir i fodloni amcanion y mudiad.
Nid yw gwirfoddolwyr yn staff, ac mae’r gwahaniaeth hwnnw’n un pwysig. Nid ydynt o dan gontract cyfreithiol fel y mae cyflogeion; maen nhw’n rhoi o’u hamser o’u gwirfodd. Ni allant gael eu hadleoli a’u hailgyfeirio fel y gellir eu gwneud â staff; yn hytrach, rhaid i’r ddwy ochr gytuno ar newidiadau.
Rydyn ni hefyd wedi dysgu, yn ystod Covid, gwerth ‘rhannu’ gwirfoddolwyr rhwng mudiadau. Gallent, er enghraifft, gael eu recriwtio a’u hyfforddi gan gyngor gwirfoddol sirol a’u rhoi o dan oruchwyliaeth ddyddiol fferyllfa, adran o’r awdurdod lleol neu ganolfan brechu torfol. Mae Age Cymru yn rhedeg prosiect peilot ar hyn o bryd sy’n ymwneud â gosod gwirfoddolwyr mewn cartrefi gofal (gyda chylch gwaith penodol i gefnogi ymweliadau preswylwyr). Mae’r cyfrifoldebau a’r atebolrwydd wedi’u cytuno, yn glir ac yn cael eu rhannu rhwng y cartref gofal ac Age Cymru.
Mae dull gweithredu a rennir fel hwn yn mwyafu’r buddion ac yn lleihau’r baich ar y mudiad sy’n trefnu, gan ddefnyddio amser ac arbenigedd trydydd parti i reoli’r gwaith o recriwtio a chynorthwyo gwirfoddolwyr.
Oherwydd hynny, ni all gwirfoddolwyr fod yn rhan o’r gweithlu a gynllunnir – o leiaf, nid yn yr un ffordd â staff.
EDRYCH YN EHANGACH
Mae Comisiwn Bevan wedi bod yn galw ers tro am gydnabyddiaeth o’r ‘gweithlu ehangach’ o fewn cynlluniau gweithlu (Adroddiad 2018 (Saesneg yn unig), gan gynnwys yr holl asedau dynol sydd ar gael: staff, gwirfoddolwyr, gofalwyr ac aelodau o’r cyhoedd.
Yn ôl CIPD ‘Mae cynllunio’r gweithlu yn broses busnes greiddiol sy’n alinio anghenion newidiol mudiad â strategaeth bobl … Nid oes angen iddo fod yn gymhleth a gellir ei haddasu yn ôl maint ac aeddfedrwydd unrhyw fudiad.’
Un rheswm da iawn dros gynnwys gwirfoddolwyr yn ein ‘strategaeth bobl’ fyddai’r ffaith bod gwirfoddoli (yng nghyd-destun gweithluoedd cymhleth, cymysg) yn gofyn am gyllideb, neilltuo amser a sgiliau staff, systemau gweithredu a rheoli penodol, blaengynllunio strategol, cydnabyddiaeth gan y mudiad a chefnogaeth rhanddeiliaid. Mae hyd yn oed systemau a rennir fel y disgrifir uchod yn gofyn am rywfaint o flaengynllunio a buddsoddiad gan y mudiad.
Rheswm arall yw y bydd gan rai gwirfoddolwyr (ond nid pob un ohonynt) ddiddordeb mewn hyfforddiant pellach a chyflogaeth. Beth well na gallu cyflogi unigolion sydd eisoes yn rhan o ddiwylliant ac arferion eich mudiad? Nod ‘Made in Wales’ (a ddisgrifir yn adroddiad Conffederasiwn GIG Cymru, ‘Iechyd, cyfoeth a llesiant (Saesneg yn unig), t12) yw tyfu’r gweithlu iechyd a gofal o’r boblogaeth leol, ‘gan greu pwyntiau mynediad hyblyg a llwybrau gyrfa trosglwyddadwy’.
CASGLIAD
Daw ein harchwiliad i’r casgliad bod angen cynnwys gwirfoddoli mewn cynllunio strategol, efallai fel rhan o ‘strategaeth bobl’, ond ar wahân i gynllunio a rheoli’r gweithlu sy’n canolbwyntio ar staff. Mae gwirfoddoli yn adnodd gwerthfawr, ond mae’n rhaid iddo fod yn seiliedig ar ymrwymiad gwirfoddol a buddion i’r ddwy ochr; nid ar ‘lenwi’r bylchau’ mewn cynllun gweithlu.
I wneud hyn, mae angen cydweithrediad rhwng arweinwyr gwirfoddoli a thimau gweithlu/adnoddau dynol. Bydd cynnwys undebau llafur, gwirfoddolwyr a mudiadau allanol yn helpu i lywio dyfodol ar gyfer gwirfoddoli sy’n realistig, yn ddeniadol ac yn fuddiol i bawb dan sylw.
I GAEL RHAGOR O WYBODAETH
Mae Siarter cydberthnasau gwirfoddoli a’r gweithle CGGC/TUC Cymru yn nodi egwyddorion ar gyfer cydberthnasau gwirfoddoli a gweithle cadarnhaol a llwyddiannus.
Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yw’r safon ansawdd ar gyfer rheoli gwirfoddolwyr ac mae’n darparu canllawiau arferion da ar gyfer pob mudiad sy’n cynnwys gwirfoddolwyr.
Mae ein Fframwaith ar gyfer gwirfoddoli ym maes iechyd a gofal cymdeithasol a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn edrych ar chwe chwestiwn craidd i fudiadau sy’n meddwl am gyflwyno neu ddatblygu gwirfoddoli o fewn y maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’n cynnwys dolenni i ragor o adnoddau, gwybodaeth ac astudiaethau achos. Ei nod yw annog dull strategol a hirdymor o ymdrin â gwirfoddoli, nid yn unig o fewn un mudiad, ond drwy weithio’n gydweithredol ledled ardal er mwyn cryfhau gwirfoddoli a’i effaith i’r eithaf.
Mae Helplu Cymru yn gweithio gyda Chefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC ac 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol), Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu potensial gwirfoddoli i gefnogi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Ewch i dudalen we Helplu Cymru, neu i dderbyn diweddariadau ar e-bost, cofrestrwch yma a dewiswch yr opsiwn ‘gwirfoddoli iechyd a gofal’.